Skip to main content

CYNORTHWY-YDD ARLWYO

Disgrifiad Swydd

YN ATEBOL I     

Goruchwylydd Gweithrediadau Arlwyo   

PWRPAS Y SWYDD

Fel aelod o’r Tîm Arlwyo a Chadw Tŷ, byddwch yn cyfrannu at ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i gyrraedd y safonau yn unol a’r gweithdrefnau y cytunwyd arnynt. Byddwch yn estyn croeso cynnes i bob cwsmer ac ymwelydd, fel bod enw da adran Arlwyo a Chadw Tŷ Canolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn cael ei gynnal a’i wella.

PRIF DDYLETSWYDDAU

  • Cyflawni dyletswyddau yn naill ai’r ardal goffi ar y llawr isaf, neu yn y prif Gaffi ar yr ail lawr. 
  • Hybu amgylchedd croesawus gyda lefel uchel o Ofal am Gwsmeriaid, gan ganolbwyntio ar ddarparu profiad o’r safon uchaf i gwsmeriaid. 
  • Ymgymryd â’r holl dasgau cyflenwi, storio a pharatoi bwyd a thasgau gweithredu’r gegin yn unol â’r hyfforddiant, er mwyn cyrraedd safonau uchel y ddeddfwriaeth Diogelwch Bwyd ac Iechyd a Diogelwch.
  • Sicrhau wrth weini bwyd neu werthu eitemau adwerthu (gan gynnwys Peiriannau Gwerthu) eu bod yn cael eu cyflwyno i safon uchel, a’u cadw’n lân a thaclus yn unol â’r ddeddfwriaeth Diogelwch Bwyd.
  • Sicrhau bod yr holl ardaloedd adwerthu’n cael eu cadw’n lân, yn daclus, yn llawn a heb unrhyw sbwriel.
  • Ymgymryd â’r holl ddyletswyddau glanhau, yn unol â hyfforddiant ac yn unol â System Rheoli Diogelwch Bwyd Chwaraeon Cymru (FSMS).
  • Cwblhau tasgau gwastraff bwyd ac ailgylchu a gwaredu gwastraff arlwyo yn ddiogel, yn unol â hyfforddiant.
  • Trin arian yn ddiogel a than reolaeth, yn unol â hyfforddiant.
  • Cwblhau dyletswyddau Cadw Tŷ yn ôl yr angen.
  • Helpu i gynnal amgylchedd taclus a glân ym mhob rhan o’r Ganolfan (mewnol ac allanol). 
  • Bydd y patrymau gwaith yn gofyn am hyblygrwydd rhesymol yn unol ag anghenion y Ganolfan.
  • Cyflawni cyfrifoldebau sy'n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â'n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoleiddio Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a'r Amgylchedd. 
  • Gweithio'n hyblyg, gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill yn ôl yr angen, os yw hynny'n berthnasol i'r swydd ac yn briodol i'r radd.

 

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.             

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir. 

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

MANYLEB Y PERSON

Maes FfocwsGofynion Hanfodol Gofynion Dymunol         

Addysg:

 

Sgiliau rhifedd a llythrennedd sylfaenol Sgiliau yn y Gymraeg

Profiad:

 

Profiad o weithio mewn amgylchedd arlwyo tebyg

 

 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd:

 

Sgiliau gwasanaethau cwsmeriaid da 

Gallu defnyddio eich blaengaredd eich hun 

Agwedd hyblyg at waith

Cyfeillgar a chwrtais

 

 

Amgylchiadau Arbennig: