Skip to main content
  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Disgrifiad Swydd - DERBYNNYDD

Disgrifiad Swydd - DERBYNNYDD

Disgrifiad Swydd

Teitl y swydd

Derbynnydd

Yn atebol i     

Rheolwr Gwasanaethau Cwsmeriaid Cynorthwyol

Pwrpas y swydd

Delio gyda holl ymholiadau’r cwsmeriaid a gweithredu desg y Dderbynfa yn y Ganolfan.

Prif ddyletswyddau

Gwasanaethau Cwsmeriaid

  • Cysylltu ag Adrannau eraill i sicrhau bod y Ganolfan yn cael ei gweithredu’n effeithlon.
  • Delio â cheisiadau ar gyfer defnyddio cyfleusterau chwaraeon y Ganolfan, yr ystafelloedd cynhadledd a’r llety, o ymholiad cychwynnol i gadarnhad. 
  • Cynorthwyo gyda gweinyddu cyrsiau’r Ganolfan a’r dosbarthiadau ffitrwydd, gan gynnwys rhaglennu cyrsiau, trefnu Hyfforddwyr, a derbyn ceisiadau am gyrsiau a thaliadau. 
  • Cynorthwyo gyda gweinyddu cynlluniau aelodaeth, gan gynnwys cyflwyno hysbysiadau adnewyddu.
  • Ateb galwadau ffôn ac ymateb i negeseuon e-bost gan gwsmeriaid.
  • Llunio gwybodaeth ystadegol, adroddiadau a gohebiaeth gyffredinol, yn ôl yr angen.
  • Ymgymryd â thasgau gweinyddol i sicrhau bod y Ganolfan yn cael ei gweithredu’n effeithlon ac yn effeithiol. 

 

Iechyd a Diogelwch

  • Ymateb i unrhyw sefyllfaoedd o argyfwng a chofnodi’r holl ddamweiniau yn ôl yr angen.
  • Cynorthwyo gyda’r gweithdrefnau ar gyfer gadael y Ganolfan.
  • Yn unol â darpariaethau Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cymryd gofal rhesymol o’ch iechyd a’ch diogelwch chi eich hun ac iechyd a diogelwch eraill a all gael eu heffeithio gan eich gweithredoedd neu eich esgeulustod yn y gwaith. Cydweithredu â Chwaraeon Cymru wrth iddo gydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan unrhyw ddarpariaethau iechyd a diogelwch.

 

Cyffredinol 

  • Cynorthwyo gyda hyfforddi cyflogeion newydd, gan gynnwys staff achlysurol.
  • Darparu cymorth i staff eraill Chwaraeon Cymru yn gyson â sicrhau bod gofynion gweithredol y Ganolfan yn cael eu bodloni.
  • Helpu i gynnal amgylchedd taclus a glân ym mhob rhan o’r Ganolfan (mewnol ac allanol).
  • Ymddwyn mewn ffordd deg a pharchus wrth ddelio ag eraill, gan werthfawrogi amrywiaeth a gwahaniaethau
  • Oherwydd natur y swydd, mae’n ofynnol i ddeiliad y swydd weithio shifftiau, sy’n cynnwys oriau afreolaidd ac anghymdeithasol, gan gynnwys gyda’r nosau, penwythnosau a gwyliau banc a chyhoeddus a gwyliau eraill penodol. Bydd y patrymau gwaith yn gofyn am hyblygrwydd rhesymol yn unol ag anghenion y Ganolfan.                     
  • Ni ddylid ystyried y rhestr hon fel un eithriol na hollgynhwysfawr oherwydd efallai y bydd dyletswyddau eraill yn ofynnol fel rhan o allu a graddfa deiliad y swydd mewn unrhyw faes fel rhan o weithrediadau Chwaraeon Cymru.

 

Manyleb y person

Maes FfocwsGofynion Hanfodol Gofynion Dymunol         

Addysg:

 

 5 TGAU

Profiad:

 

  • Profiad gweinyddol blaenorol 

 

  • Profiad blaenorol o weithio mewn derbynfa
  • Profiad blaenorol o weithio mewn Canolfan Chwaraeon 
  • Profiad blaenorol o drin arian       

Sgiliau, Doniau a Galluoedd:

 

  • Yr Iaith Gymraeg 
  • Sgiliau cyfrifiadurol 
  • Sgiliau gofalu am gwsmeriaid da 
  • Sgiliau gweinyddol da     
  • Aelod da o dîm   
  • Systemau archebu cyfrifiadurol (Gladstone MRM a/neu RoomMaster a ffafrir)
  • Systemau cyfrifon cyfrifiadurol (Iris a ffafrir)

 

 

Rhinweddau Personol:

 

  • Effeithlon 
  • Trefnus 
  • Cyfeillgar a pharod i helpu 
  • Gallu gweithio’n fanwl gywir ac yn rhesymegol 
  • Gallu gweithio fel rhan o dîm a hefyd heb gyfarwyddyd o ddydd i ddydd
  • Sgiliau rhyngbersonol da
 
Amgylchiadau arbennig: 
  • Gallu gweithio’n hyblyg, gan gynnwys tu allan i oriau swyddfa arferol a chymryd rhan mewn rotas ar alwad
  • Gallu gweithio patrwm shifftiau cylchdro/penodol 
 

Gwerthoedd Chwaraeon Cymru: 

 

 

  • Gweithredu’n Ddidwyll 
  • Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth 
  • Ychwanegu Gwerth
  • Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
  • Annog Arloesi         
  • Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd.