Skip to main content
  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Disgrifiad Swydd - Ffisiotherapydd Achlysurol

Disgrifiad Swydd - Ffisiotherapydd Achlysurol

Pwrpas y swydd

Darparu cefnogaeth ffisiotherapi perfformiad i athletwyr, hyfforddwyr a chwaraeon penodol i wella perfformiad drwy weithio fel rhan o dîm rhyngddisgyblaethol, am gyfnod penodol o amser, pan ofynnir am hynny naill ai gan yr Arweinydd Therapïau neu Gorff Rheoli Cenedlaethol.
 

Prif ddyletswyddau

  1. Rheoli, darparu a datblygu gwasanaeth ffisiotherapi cynhwysfawrâ ffocws ar berfformiad sy’n cynnwys hybu a sbarduno gweithredu gwasanaethau ffisiotherapi ymarferol arloesol a seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi’u teilwra i anghenion athletwyr a chwaraeon penodol.
  2. Hwyluso a chydlynu ymatebion ar unwaith i athletwyr sydd wedi’u hanafu a monitro rheolaeth barhaus yn ôl i adferiad llawn gan ddangos sgiliau rhesymu clinigol rhagorol.
  3. Monitro, casglu a gwerthuso gwybodaeth sy’n berthnasol i anafiadau a darparu strategaethau atal priodol a hefyd dull o fonitro a gwerthuso’r mesurau hyn. 
  4. Sicrhau cyfathrebu rhagorol â hyfforddwyr, athletwyr ac aelodau priodol o’r gwasanaethau perfformiad. 
  5. Cefnogi’r tîm clinigol i sicrhau bod y ddarpariaeth o wasanaethau ffisiotherapi’n bodloni strategaethau ac amcanion Chwaraeon Cymru yn effeithiol. 
  6. Os yw hynny’n briodol, mentora a hyfforddi ffisiotherapyddion eraill. 
  7. Os yw hynny’n briodol, cysylltu ag ymarferwyr Prydain Fawr a HCSI’s er mwyn cyflwyno gwasanaethau  ffisiotherapi yn gydweithredol ledled y DU. 
  8. Os cytunir i hynny, darparu cefnogaeth ffisiotherapi mewn gwersylloedd ymarfer a chystadlaethau yn y DU ac yn rhyngwladol. 
  9. Cydymffurfio â rheolau Cod Ymddygiad CSP a HCPC, safonau a chanllawiau, cod proffesiynol HCSI a chanllawiau UKAD. 
  10. Cadw bas data cynhwysfawr, diogel gyda mynegai o waith a wnaed gydag athletwyr a defnyddio system cofnodion meddygol electronig.

 

 

Gwerthoedd Chwaraeon Cymru

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

 

  1. Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.
  2. Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
  3. Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.

 

Drwy wneud y canlynol: 

 

  1. Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  2. Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
  3. Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

 

Manyleb y person

 
Maes FfocwsGofynion Hanfodol Gofynion Dymunol          

Addysg:

 

Gradd mewn Ffisiotherapi

 

Aelodaeth o’r Gymdeithas Ffisiotherapi Siartredig (MCSP) ac wedi cofrestru gyda’r Cyngor Proffesiynau Iechyd a Gofal (HCPC)

 

Rheolaeth Trawma Uwch (Lubas neu gyfatebol)

 

Cymorth Bywyd Uwch (sy’n cael ei ddiweddaru’n flynyddol)

 

Ardystiad Cynghorydd Achrededig UKAD   

Gweithio tuag at gwblhau addysg ôl-radd achrededig yn arbenigo mewn Ffisiotherapi Chwaraeon / Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer / Adfer Mewn Chwaraeon

 

Y Gymdeithas o Ffisiotherapyddion Siartredig mewn Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer: Arian + CPD

 

 

Profiad:

 

5 + mlynedd o brofiad o ddarparu gwasanaethau ffisiotherapi i athletwyr a hyfforddwyr i wella perfformiad. Rhaid i hyn gynnwys gwaith gyda thimau neu sgwadiau perfformiad uchel.

 

Gweithio mewn ffordd gymhwysol ac integredig a dylanwadu ar raglenni cefnogi athletwyr a hyfforddwyr fel sy’n briodol. 

 

Y gallu i weithio’n annibynnol i gyflwyno sgiliau technegol ac annhechnegol i reoli anafiadau a defnyddio strategaethau adfer mewn amgylchedd chwaraeon ar draws amrywiaeth o chwaraeon, gan ddangos sgiliau rhesymu clinigol uwch.

 

Profiad helaeth o ddatblygu a gweithredu strategaethau lleihau effaith anafiadau yn llwyddiannus. 

 

Profiad helaeth o weithio’n effeithiol mewn tîm amlddisgyblaethol yn darparu gwasanaethau ffisiotherapi ac adfer i chwaraeon perfformiad uchel.

 

Profiad o ddelio â rhaglenni perfformiad cenedlaethol mewn Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol.

 

Profiad o deithio gyda thîm i gystadleuaeth ryngwladol fawr ar lefel hŷn neu iau gydag un gamp (e.e. Pencampwriaethau Byd neu Ewropeaidd) neu aml-gemau (e.e. y Gemau Olympaidd neu Baralympaidd, neu Gemau’r Gymanwlad).

 

 

Sgiliau, Profiadau, Doniau a Galluoedd:

 

 

Dealltwriaeth gynhwysfawr o anghenion athletwyr a hyfforddwyr elitaidd mewn amgylchedd perfformiad uchel. 

 

Gwybodaeth gynhwysfawr a chyfoes am anatomeg swyddogaethol/patho-anatomeg a gallu integreiddio’r wybodaeth hon mewn asesiadau a rhesymu clinigol.

 

Dealltwriaeth gynhwysfawr o’r disgyblaethau gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon amrywiol.

 

Sgiliau cyfathrebu rhagorol sy’n gallu cymell newid mewn ymddygiad i gael effaith bositif ar berfformiad.

 

Lefel uchel o sgiliau datrys problemau yn seiliedig ar resymu cliinigol, diagnosis ac opsiynau triniaeth, gan reoli safbwyntiau croes, o dan bwysau yn aml, ac mewn sefyllfaoedd sy’n ddibynnol ar amser.

 

Diddordeb mewn chwaraeon a chydnabod pwysigrwydd hybu a chefnogi cydraddoldeb, diogelu ac atal cyffuriau mewn chwaraeon.

 

Hynod fedrus am feithrin a chynnal perthnasoedd cynhyrchiol â staff perfformiad uchel mewn cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol. 

 

Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i weithredu syniadau arloesol a dylanwadu ar raglenni cefnogi athletwyr a hyfforddwyr, fel ffyrdd o ddarparu’r gwasanaeth gydag adnoddau prin.

 

Efallai y bydd yn ofynnol gweithio gydag athletwyr dan 18 oed (angen archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS)