Skip to main content

CYNLLUN GRADDEDIGION DATBLYGIAD ATHLETIG

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. CYNLLUN GRADDEDIGION DATBLYGIAD ATHLETIG

DISGRIFIAD SWYDD LLAWN

RÔL

Myfyriwr Graddedig Datblygiad Athletig

YN ATEBOL I

Arweinydd Datblygiad Athletig

PWRPAS Y SWYDD

Rydym eisiau cefnogi ein partneriaid i ddeall a gwella’r arferion datblygu athletwyr maent yn eu defnyddio fel rhan o’n hymgyrch i wneud Cymru yn genedl sy’n arwain y byd o ran sut rydym yn mynd ati i ddatblygu athletwyr.

I'r rhai sy'n gymwys, mae hwn yn gyfle cyffrous i astudio ar gyfer gradd ôl-raddedig MSc Datblygiad Athletig Ieuenctid ym Met Caerdydd a chael profiad amhrisiadwy wrth gefnogi datblygiad athletwyr ar draws system chwaraeon Cymru.

Bydd y cynllun graddedigion datblygiad athletig hwn yn darparu cyfleoedd i gefnogi timau amlddisgyblaethol ar draws prosiectau lluosog i ddatblygu eich dealltwriaeth o ddefnyddio paratoadau corfforol i wella ymarfer datblygu athletwyr. Bydd y cynllun graddedigion yn arwain eich datblygiad drwy weithio dan oruchwyliaeth i adeiladu'r profiad, yr wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i gyflwyno'n annibynnol.

Byddwch yn cyfrannu at ein dealltwriaeth a’n dysgu am y ffordd orau i ni ddatblygu athletwyr (gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygiad athletig ieuenctid) nid yn unig o fewn chwaraeon unigol ond ar draws y system yng Nghymru. Byddwch yn gwneud hyn drwy ddatblygu eich sgiliau technegol a'ch gallu i feithrin perthnasoedd cadarn.

PRIF DDYLETSWYDDAU

  • Cefnogi cynllunio, cyflwyno a gwerthuso prosiectau sy'n ymwneud â datblygu athletwyr sy'n cynnwys;
    • Gwella ymarfer profi corfforol ar draws y system chwaraeon
    • Ailgynllunio cwrs hyfforddi paratoi corfforol
    • Iechyd athletwr benywaidd
  • Cefnogi datblygiad ein dealltwriaeth o'r arferion sy'n sail i ddatblygiad athletig ieuenctid effeithiol sy'n cael eu harwain gan angen, sy'n bleserus, yn ddiogel ac yn ddatblygiadol.
  • Datblygu eich gwybodaeth, eich profiad a'ch arbenigedd eich hun o ddatblygiad athletig ieuenctid fel sail i brosiectau a allai effeithio ar ddatblygiad athletwyr ar draws y system chwaraeon yng Nghymru.
  • Meithrin a chynnal perthnasoedd effeithiol i gefnogi cyflwyno prosiectau'n effeithiol.
  • Gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid perthnasol i ddysgu, esblygu a datblygu ymarfer datblygu athletwyr yn barhaus.
  • Rheoli eich datblygiad personol eich hun gyda chefnogaeth hyfforddi a mentora effeithiol.
  • Bod yn rhan o ddiwylliant sy'n cefnogi diogelwch seicolegol lle mae cwestiynau yn cael eu croesawu, safbwyntiau yn cael eu harchwilio a chwilfrydedd yn cael ei gofleidio.
  • Ar y cyd â phartneriaid y Corff Rheoli Cenedlaethol, helpu i sicrhau ein bod yn gallu darparu cefnogaeth i athletwyr y Llwybr Safon Byd Olympaidd a Pharalympaidd sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
  • Cadw dogfennau cynhwysfawr am y gwaith sy'n cael ei wneud gydag athletwyr, hyfforddwyr a chwaraeon.
  • Gweithio o fewn rheolau Codau Ymddygiad Proffesiynol, safonau a chanllawiau y DU a CRhC.

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:  

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.              

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir. 

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus. 

MANYLEB Y PERSON  

Gofynion Hanfodol Gofynion Dymunol          

Addysg

 

Gradd israddedig mewn gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer neu bwnc perthnasol

Wedi cofrestru gyda chorff rheoli perthnasol

 

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus perthnasol 

Profiad

 

Profiad o gynllunio a gwerthuso sesiynau hyfforddi i gefnogi datblygiad athletig

 

Profiad o gyflwyno sesiynau hyfforddi i grwpiau

 

Ymwybyddiaeth o'r heriau a wynebir gan athletwyr sy'n datblygu

Profiad o ddatblygu adnoddau addysgol, rhaglenni, ac mewn addysgu athletwyr a/neu hyfforddwyr

 

Profiad o hyfforddi pobl ifanc.

 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd

Ymwybyddiaeth o anghenion athletwyr sy'n datblygu mewn hyfforddiant, cystadlaethau ac adferiad

 

Ymwybyddiaeth o sut mae'r broses hyfforddi’n dylanwadu ar ddatblygiad athletwyr

 

Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno effeithiol.

 

Y gallu i fod yn gyfrifol am eich datblygiad personol eich hun, a cheisio cefnogaeth ac arweiniad gan eraill yn rhagweithiol

Y gallu i gyfathrebu mewn ieithoedd ychwanegol (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd)

 

Dealltwriaeth o'r amrywiol ddisgyblaethau gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon a sut gall y rhain gyfrannu at ddatblygiad athletwyr

 

Dealltwriaeth o sut gellir addasu cyfathrebu i ddylanwadu ar y gynulleidfa darged

 

Y gallu i adeiladu a chynnal perthnasoedd cynhyrchiol gyda staff cefnogi, athletwyr a hyfforddwyr

Arall

Trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif

 

Gallu gweithio'n hyblyg gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol

 

Parodrwydd i deithio pan fo angen