Skip to main content
  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Disgrifiad Swydd - Swyddog Cyfathrebu Digidol – Arweinydd Marchnata Digidol

Disgrifiad Swydd - Swyddog Cyfathrebu Digidol – Arweinydd Marchnata Digidol

Disgrifiad Swydd Llawn 

Yn atebol i 

Rheolwr Cyfathrebu Digidol.

Pwrpas y swydd 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i chwarae rhan allweddol yn y tîm Cyfathrebu a Digidol. Gan weithio’n gydweithredol ar draws Chwaraeon Cymru byddwch yn rhoi’r cynllun cyfathrebu digidol ar waith, ac yn cyfrannu ato, er mwyn dangos gwerth chwaraeon a chefnogi rhoi ein strategaeth ar waith. Gan fabwysiadu rôl arweiniol mewn marchnata digidol, byddwch yn defnyddio eich sgiliau fel gweithiwr cyfathrebu digidol proffesiynol er mwyn rheoli gwefan gorfforaethol Chwaraeon Cymru gan ddatblygu cynllyn tymor hir i sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn esblygu ac felly hefyd un o’n sianelau cyfathrebu pwysicaf. 

Byddwch yn goruchwylio’r holl gyfathrebu digidol sy’n mynd allan drwy adnodd CRM fel rhan o ddull cydlynol o ymgysylltu â rhanddeiliaid. Byddwch yn sicrhau brand cyson ar draws ein holl gynnwys marchnata digidol ac yn cyflwyno dulliau cyfathrebu newydd sy’n galluogi Chwaraeon Cymru i ymgysylltu’n well â llawer o’n cynulleidfaoedd ac annog pobl i feddwl yn wahanol am chwaraeon. 

Gan weithio’n agos gyda’r Rheolwr Ymgyrchoedd a Digwyddiadau, byddwch yn gyfrifol am weithredu a rheoli ymgyrchoedd marchnata digidol gyda ffocws penodol ar ymgyrchoedd sy’n annog newid ymddygiad. Hefyd byddwch yn gweithio ar draws y sector a gyda phartneriaid eraill i adnabod cyfleoedd i Chwaraeon Cymru gefnogi a chyfrannu at ymgyrchoedd perthnasol. 

Mae gwefan gorfforaethol newydd wedi cael ei lansio yn ddiweddar gyda chamau pellach wedi’u cynllunio yn ystod y blynyddoedd sydd i ddod. Byddwch yn arwain ar ddatblygu cynnwys wedi’i optimeiddio gan SEO ac yn defnyddio rhaglenni dadansoddeg i helpu fel sail i ddatblygu’r safle ymhellach i ddenu defnyddwyr newydd a diwallu eu hanghenion yn y ffordd orau.

Byddwch mor gyfforddus yn creu eich cynnwys eich hun ag ydych chi’n gweithio gydag asiantaeth greadigol ddigidol i droi syniadau cymhleth yn straeon sy’n procio’r meddwl. Byddwch yn gweithio ar draws pob maes busnes er mwyn gwella ansawdd a chysondeb ein rhyngweithio gyda phartneriaid drwy gyfrwng dull digidol ac yn ystyried sut gallwn ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol i gefnogi gwaith y sector yn y ffordd orau. Byddwch yn helpu staff ar draws y sefydliad i ddeall sut i ddefnyddio adnoddau digidol i dynnu sylw’n bositif at waith Chwaraeon Cymru a’n partneriaid, gan ddarparu hyfforddiant a mentora yn barhaus. 

Byddwch yn chwarae rhan allweddol mewn adran Cyfathrebu a Digidol brysur a bydd disgwyl i chi gyfrannu at amrywiaeth eang o brosiectau gan ddefnyddio dulliau cyfathrebu amrywiol, a chefnogi cydweithwyr yn ôl yr angen. 

Prif ddyletswyddau 

Rheoli cynllun marchnata digidol sy’n cefnogi rhoi strategaeth Chwaraeon Cymru ar waith ac yn denu cynulleidfaoedd newydd i ymwneud â’n sianelau ni. 

Cefnogi datblygu strategaeth cyfathrebu digidol sy’n adlewyrchu’n fanwl gywir bob maes o’r busnes, gyda chynnwys y gellir ei defnyddio ar draws platfformau amrywiol ac sy’n denu cynulleidfaoedd newydd at ein sianelau. 

Cynnal a datblygu ymhellach wefan gorfforaethol Chwaraeon Cymru yn unol â dull ehangach o weithredu gyda thrawsnewid digidol gan ddatblygu cynnwys a chyfleoedd wedi’u hoptimeiddio gan SEO er mwyn diwallu anghenion ein defnyddwyr yn well. 

Gweithio ar draws y sefydliad yn rhagweithiol yn chwilio am syniadau newydd ar gyfer cynnwys ac yn defnyddio’r syniadau hynny a chreu cynnwys o safon yn fewnol a thrin ymholiadau cyfryngau perthnasol. 

Gweithio ar draws y sefydliad i sicrhau dull cydlynol o ymgysylltu â rhanddeiliaid gan ddefnyddio system CRM i ddarparu deunydd digidol manwl gywir, perthnasol a difyr. 

Rheoli asiantaethau creadigol ar brosiectau allweddol Chwaraeon Cymru a sicrhau eu bod yn cyflwyno cynnwys digidol manwl gywir sy’n procio’r meddwl. 

Cefnogi cyflwyno ymgyrchoedd a digwyddiadau cyfathrebu, gan arwain os yw marchnata digidol yn cael ei ddatgan fel blaenoriaeth. 

Gweithio gyda’r tîm Dirnadaeth i drosi gwybodaeth a data cymhleth yn gynnwys a fydd yn annog pobl i feddwl yn wahanol am chwaraeon a Chwaraeon Cymru. 

Creu testun a chynnwys arall ar gyfer gwefan Chwaraeon Cymru a phlatfformau digidol eraill yn ôl yr angen. 

Adnabod cyfleoedd i gydweithio â sefydliadau ac unigolion ar ymgyrchoedd marchnata digidol. 

Monitro ac adnabod problemau sydd â photensial i achosi niwed sylweddol i enw da ac, os oes angen, arwain ar eu rheoli ar lefel strategol a thactegol. 

Gweithio ar draws y sector i gynnig cefnogaeth a chyngor i weithwyr cyfathrebu proffesiynol a helpu’r sector i ddeall y rôl bwysig y gall cyfathrebu ei chwarae. 

Cymryd rhan mewn rota ar alwad sy’n cynnig cefnogaeth gyfathrebu y tu allan i oriau. 

Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, yr Iaith Gymraeg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd. 

Gweithio’n hyblyg gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol ac yn berthnasol i’r swydd ac yn briodol i’r raddfa.

Ein Gwerthoedd

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol:

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.

Drwy wneud y canlynol:

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

Manyleb y person 

Maes FfocwsGofynion HanfodolGofynion Dymunol
Addysg

Gradd mewn Cyfathrebu, Marchnata neu bwnc cysylltiedig.

 

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus (ffafrir cymhwyster pellach).

 
Profiad

Profiad sylweddol mewn tîm Cyfathrebu neu .

 

2 flynedd o brofiad o leiaf mewn rôl cyfathrebu digidol.

 

Profiad o reoli cynllun marchnata digidol ar ran y sefydliad Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o systemau CRM.

 

Profiad o ddatblygu a gweithredu rhaglenni hyfforddi i gynyddu hyder mewn technoleg ddigido.

 

Gwybodaeth arbenigol am greu cynnwys wedi’i optimeiddio gan SEO, PPC, marchnata e-bost a thracio a dadansoddi metrigau sy’n effeithio ar draffig y wefan.

 

Profiad o ffilmio a golygu fideos i greu cynnwys o ansawdd uchel mewn capasiti proffesiynol Profiad o ddefnyddio amrywiaeth o blatfformau CMS.

Profiad o’r sector chwaraeon. 

 

Gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau newid ymddygiad a rôl cyfathrebu digidol.

 

Profiad o weithio gyda chyfryngau’r DU.

 

Profiad o reoli asiantaethau creadigol.

 

Cysylltiadau yn y diwydiant creadigol digidol

Sgiliau, Doniau a Galluoedd

Sgiliau cyfathrebu rhagorol ar lafar ac yn ysgrifenedig 

 

Gallu creu cynnwys cryno, difyr a manwl gywir ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd

 

Gallu trosi bwriad strategol yn ddarpariaeth weithredol 

 

Gallu trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif 

 

Gallu trefnu eich gwaith eich hun a chynllunio, amserlennu a blaenoriaethu tasgau’n effeithiol 

 

Gallu defnyddio amrywiaeth o systemau CRM 

 

Gallu defnyddio amrywiaeth 

o adnoddau cyfathrebu digidol, gan gynnwys facebook, twitter, Instagram 

 

Gallu creu cynnwys digidol o ansawdd uchel ar gyfer amrywiaeth o blatfformau

 

Gallu trosi data cymhleth yn straeon cadarn 

 

Sgiliau TG, gan gynnwys gwybodaeth weithredol ragorol am amrywiaeth o blatfformau CMS 

 

Sgiliau dylanwadu/trefnu o Gallu gweithio o dan bwysau a chadw at ddyddiadau cau 

 

Agwedd hyblyg at oriau gwaith

Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar.
Amgylchiadau Arbennig

Gallu gweithio’n hyblyg, gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol a chymryd rhan mewn rota ar alwad

 

Gallu teithio yn ôl yr angen