Skip to main content
  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Disgrifiad Swydd - Swyddog Dylunio Gwasanaethau

Disgrifiad Swydd - Swyddog Dylunio Gwasanaethau

Swyddog Dylunio Gwasanaethau - Arweinydd Dylunio a Datblygu Gwasanaethau.

Pwrpas y Swydd

Mae hwn yn gyfle newydd a chyffrous i chwarae rhan allweddol yn y Gyfarwyddiaeth Gwybodaeth Chwaraeon a Datblygu Gwasanaethau. Gan weithio ar y cyd ar draws Chwaraeon Cymru, byddwch yn rhan o’r Tîm Datblygu Gwasanaethau a Phartneriaid. 

Yn cael ei harwain gan wybodaeth, pwrpas y rôl yw cyflwyno atebion arloesol i ddiwallu anghenion partneriaid ac ymgorffori diwylliant o ragoriaeth o ran boddhad cwsmeriaid yn Chwaraeon Cymru.

Bydd y rôl yn allweddol ar gyfer y canlynol:

  • Cefnogi partneriaid gyda'u heriau a'u cyfleoedd drwy eu harchwilio a dylunio, datblygu a defnyddio atebion sy'n ychwanegu gwerth.
  • Arwain a chefnogi dull o ymgorffori meddylfryd profiad cwsmeriaid i sicrhau bod  Chwaraeon Cymru yn dylunio, yn datblygu ac yn defnyddio prosiectau a chynhyrchion sy'n diwallu anghenion defnyddwyr.

 

Dros amser bydd y meysydd gwaith yn newid fel ymateb i flaenoriaethau’r Cynllun Busnes newydd ac anghenion partneriaid, ond mae’r pwrpas yn parhau yr un fath – sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn diwallu anghenion partneriaid drwy fod â chynhyrchion a gwasanaethau perthnasol a gwerthfawr a meddylfryd â’i ffocws ar gwsmeriaid ym mhopeth rydym yn ei wneud. 

Prif ddyletswyddau

  • Darparu cefnogaeth, cyngor, arbenigedd a gwybodaeth i gyflawni blaenoriaethau allweddol y strategaeth ym maes Datblygu Gwasanaethau a Phartneriaid. Ar hyn o bryd mae rhai o'r rhain yn ymwneud â chydraddoldeb ac amrywiaeth, technoleg ddigidol, dychwelyd at chwaraeon ar ôl COVID a gwydnwch sector Chwaraeon Cymru. 
  • Rheoli Prosiectau: Cydlynu a rhyng-gysylltu cynlluniau prosiect ar gyfer meysydd gwaith allweddol, gan ymgorffori egwyddorion rheoli prosiectau o fewn y tîm.
  • Cefnogi gyda chreu dull o ymgorffori meddylfryd profiad cwsmeriaid yn Chwaraeon Cymru i sicrhau bod Chwaraeon Cymru yn dylunio, yn datblygu ac yn defnyddio prosiectau a chynhyrchion sy’n diwallu anghenion defnyddwyr. 
  • Cefnogi partneriaid gyda'u heriau a'u cyfleoedd drwy eu harchwilio a dylunio, datblygu a defnyddio atebion sy'n ychwanegu gwerth.
  • Datblygu amrywiaeth o atebion, offer ac adnoddau arloesol a fydd yn cael effaith gadarnhaol ar anghenion datblygu gwasanaethau a phartneriaid. Bydd hyn yn cynnwys nodi enghreifftiau blaengar yn y byd, cysylltu â chyrff y tu allan i Gymru, a rheoli'r gwaith o gomisiynu gwasanaethau cefnogi.
  • Cefnogi dull o wella'n barhaus, gan ddefnyddio’r gwerthusiad a'r dysgu a gasglwyd o bob rhan o Chwaraeon Cymru i sbarduno datblygiad atebion i'r heriau a'r cyfleoedd allweddol mae ein partneriaid yn eu hwynebu. 
  • Sicrhau dull â’i ffocws ar atebion o weithredu er mwyn datblygu a meithrin perthnasoedd o ansawdd uchel gydag uwch arweinwyr o fewn partneriaid allanol gan sicrhau "gwerth ychwanegol" a chefnogaeth, sy'n cyfateb i anghenion partneriaid unigol, gan ddylanwadu ar eu strategaethau a'u polisïau a'u dal yn atebol am Fuddsoddiad Chwaraeon Cymru.
  • Cefnogi a dylanwadu ar ddull traws-sefydliadol o weithredu gyda Phartneriaethau Chwaraeon gan ddefnyddio gwybodaeth a dysgu, ac edrych ar gyfleoedd ar gyfer datblygu ac arloesi (y tu mewn a'r tu allan i chwaraeon), ac yn rhyngwladol.
  • Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, yr Iaith Gymraeg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd.
  • Gweithio’n hyblyg gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol ac yn berthnasol i’r swydd ac yn briodol i’r raddfa. Bydd hyn yn naturiol yn cynnwys defnyddio technoleg ddigidol fel rhan o’ch gwaith.

Gwerthoedd Chwaraeon Cymru

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

 

  1. Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.             
  2. Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       
  3. Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

 

Drwy wneud y canlynol: 

  1. Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 
  2. Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir. 
  3. Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

Manyleb y person

Maes FfocwsGofynion Hanfodol Gofynion Dymunol         

Addysg

 

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus                 

 

 

 

Hyfforddiant neu ddatblygiad cydnabyddedig neu achrededig mewn maes sy’n cyd-fynd â’r rôl e.e. rheoli prosiectau, datblygu arweinyddiaeth, dylunio gwasanaethau ac ati 

Neu brofiad perthnasol   

Profiad

 

Profiad mewn rôl weithredol gan gefnogi ac arwain gwaith i wella profiad cwsmeriaid, perthnasoedd partneriaethau a rheoli prosiectau       

 

Profiad blaenorol o ddylanwadu ar Uwch Reolwyr a chreu hygrededd a pherthnasoedd rhagorol gydag arweinwyr                   

 

Profiad cynllunio gweithredol a strategol wrth ddatblygu a chyflwyno syniadau ac atebion arloesol 

 

Enw da clir am ddarparu ac adolygu meysydd gwaith allweddol, gan ddysgu a diwygio gwaith yn ôl yr angen           

   

Darparu prosiectau yn effeithiol o fewn yr amserlen a chan gadw at y gyllideb

 

Profiad blaenorol o ysgrifennu dogfennau hawdd eu darllen ar gyfer amrywiaeth o randdeiliaid 

 

Profiad o ddefnyddio technoleg i ddylanwadu ar waith a’i gyflwyno

 

Gwybodaeth, profiad a dealltwriaeth helaeth yn berthnasol i’r sector chwaraeon ar lefel Cymru/y DU  

 

Gwybodaeth a phrofiad arbenigol a gafwyd drwy weithio mewn un neu fwy o’r meysydd allweddol canlynol:

Datblygu Partneriaethau

Dylunio a Datblygu GwasanaethauRheoli Newid 

 

 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd

 

Gallu meithrin perthnasoedd cadarn ac effeithiol gydag amrywiaeth o wahanol randdeiliaid

 

Gallu rheoli amrywiaeth o amcanion gwaith, rhai ag amserlenni heriol a chystadleuol yn aml

 

Gallu gweld y darlun mawr. Cydnabod sut mae gwahanol feysydd gwaith ar draws sefydliad yn gallu cyd-fynd â’i gilydd

Gallu ysbrydoli, cefnogi a herio eich cydweithwyr

 

Gallu sicrhau agwedd â’i ffocws ar atebion sy’n cyfrannu’n bositif at yr amgylchedd gwaith potisif ac yn delio’n effeithiol gyda materion a phroblemau 

 

Gallu trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif

 

Gallu dylanwadu a datblygu a gweithredu syniadau arloesol       

 

Dal ei hunan ac eraill yn atebol am safonau perfformiad i ddelio’n llwyddiannus gydag amrywiaeth o sefyllfaoedd cymhleth yn aml; gofyn am gefnogaeth a chyfarwyddyd gan eraill yn y sefydliad pan fo angen

 

Gallu gweithio ar gyflymder, wynebu anawsterau, gyda gallu cadarn i addasu ac ailffocysu         

Gallu cyfathrebu yn y Gymraeg, yn ysgrifenedig ac ar lafar

 

Gallu sefydlu prosiectau, yn seiliedig ar drosi bwriad strategol yn gyflawni gweithredol, pennu nodau, diffinio swyddogaethau a thracio cynnydd, adolygu, gwerthuso a gweithredu dysgu i sicrhau’r effaith orau bosib

 

 

Amgylchiadau Arbennig

 

Gallu gweithio’n hyblyg, gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol 

 

Gallu teithio yn ôl yr angen