Skip to main content

Technegydd Cynnal a Chadw

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Technegydd Cynnal a Chadw

Disgrifiad Swydd

YN ATEBOL I                         Rheolwr Technegol 

PRIF DDYLETSWYDDAU 

  • Cynorthwyo gyda chynnal yr holl wasanaethau adeiladu i gyflwr diogel ac effeithlon.
  • Cynorthwyo gyda chynllunio a chynnal a chadw tasgau sy'n ymwneud â phaent
  • O fewn cyfyngiadau eich cymwysterau a’ch cymhwysedd personol, ymgymryd â gwasanaethu, cynnal a chadw ac atgyweirio holl beiriannau a chyfarpar y Ganolfan, gan gynnwys yr holl offer mecanyddol, trydanol a chynnal a chadw mewnol ac allanol, gan sicrhau bod peiriannau a deunyddiau'n cael eu defnyddio mewn ffordd effeithlon a chost-effeithiol.
  • Ymgymryd â thasgau dyletswyddau dyddiol fel rhan o'r tîm cynnal a chadw, gall hyn gynnwys monitro offer peiriannau, glanweithdra ystafelloedd y peiriannau a chynnal a chadw cyffredinol ar y Ganolfan a chysylltu â chontractwyr.
  • Gosod a gweithredu offer peiriannau o fewn eich maes cymhwysedd.
  • Cefnogi'r Rheolwr Technegol i ddarparu lefelau stoc ar gyfer yr adran cynnal a chadw.
  • Gosod a monitro offer Clyweledol ar gyfer gweithgareddau.
  • Cefnogi'r tîm gweithredol ar ddyletswydd, gan gynnig cyngor technegol a chefnogaeth yn ystod y broses o osod cyfleusterau/eu tynnu pan fo angen.
  • Cydymffurfio â gweithdrefnau brys a chysylltu â'r Goruchwylydd Gweithredol a'r Gwasanaethau Brys yn ôl yr angen.
  • Gwisgo’r wisg briodol a chydymffurfio ag unrhyw fentrau gwasanaethau cwsmeriaid, e.e. delio â sylwadau ac ymholiadau cwsmeriaid, gweithdrefnau cwynion cwsmeriaid, ac ati
  • Cydymffurfio â holl bolisïau a gweithdrefnau Chwaraeon Cymru sy'n berthnasol i'r swydd.
  • Yn unol â darpariaethau Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974, cymryd gofal rhesymol o’ch iechyd a'ch diogelwch eich hun ac iechyd a diogelwch eraill a allai gael eu heffeithio gan eich gweithredoedd neu eich diffyg gweithredu. Cydweithredu â Chwaraeon Cymru i gydymffurfio â’i ddyletswyddau o dan unrhyw ddarpariaeth iechyd a diogelwch.
  • Cynnal hyblygrwydd o fewn patrwm shifft i fodloni gofynion gweithredol y ganolfan, bydd hyn yn cynnwys dyletswyddau “ar alwad”.
  • Ni ddylid ystyried y rhestr hon fel un gyfyngedig nac yn hollgynhwysfawr oherwydd efallai y bydd angen cyflawni dyletswyddau eraill o fewn gallu deiliad y swydd ac yn ymwneud ag unrhyw faes yn Chwaraeon Cymru, gan gynnwys cynorthwyo adrannau eraill yng Nghanolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru.
  • Mae natur y swydd yn golygu ei bod yn ofynnol i ddeiliad y swydd weithio oriau afreolaidd ac anghymdeithasol, gan gynnwys gyda'r nos, penwythnosau a gwyliau banc, gwyliau cyhoeddus a gwyliau penodol eraill. Bydd y patrymau gwaith yn gofyn am hyblygrwydd rhesymol yn unol ag anghenion y Ganolfan.

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.             

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir. 

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus. 

MANYLEB Y PERSON

Maes Ffocws Gofynion Hanfodol Gofynion Dymunol         

Addysg 

 

TGAU neu gyfatebol mewn Mathemateg a Saesneg

NVQ neu C&G mewn Crefft (Paentio)

 

 

Profiad 

 

Isafswm o 2 flynedd o Brofiad Paentio ac Addurno

Profiad o wneud atgyweiriadau cyffredinol mewn amgylchedd masnachol 

Dealltwriaeth sylfaenol o ddiogelwch trydanol a systemau gwresogi a phlymio

Profiad o weithio mewn tîm cynnal a chadw

Dealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth iechyd a diogelwch

Gwybodaeth a dealltwriaeth o offer ystafell beiriannau ac offer mecanyddol

 

 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd

 

Gallu gweithio ar eich liwt eich hun a bod â barn dda i uwchgyfeirio materion neu geisio arweiniad fel y bo'n briodol.

Gallu gweithio fel rhan o dîm

Sgiliau rhyngbersonol da

Gallu gweithio'n fanwl gywir ac yn drefnus

Agwedd hyblyg at waith

Gallu gweithio ar uchder

Trwydded yrru lawn a glân

Sgiliau dwyieithog neu amlieithog.

 

 

 

Gallu defnyddio rhaglenni e-bost a rhyngrwyd

 

 

Amgylchiadau Arbennig 

Gallu gweithio'n hyblyg 

Gallu teithio yn ôl yr angen