Skip to main content
  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Disgrifiad Swydd - Therapydd Meinwe Meddal Achlysurol

Disgrifiad Swydd - Therapydd Meinwe Meddal Achlysurol

Pwrpas y swydd

Darparu cefnogaeth therapi meinwe meddal i athletwyr, hyfforddwyr a chwaraeon penodol i wella perfformiad drwy weithio fel rhan o dîm rhyngddisgyblaethol a datblygu, gweithredu a gwerthuso gwasanaethau meinwe meddal.   
 

Prif ddyletswyddau

  • Rheoli, darparu a datblygu gwasanaeth therapi meinwe meddal cynhwysfawr a chydlynol gyda ffocws ar berfformiad sy’n cynnwys gweithredu cefnogaeth therapi meinwe meddal arloesol ac ymarferol wedi’i theilwra i anghenion athletwyr a chwaraeon penodol.
  • Monitro a chasglu gwybodaeth sy’n berthnasol i adfer a darparu strategaethau ymyrryd priodol ar gyfer y meinwe meddal a hefyd dull o fonitro a gwerthuso’r mesurau hyn. 
  • Sicrhau cyfathrebu rhagorol â hyfforddwyr, athletwyr ac aelodau priodol o’r gwasanaethau perfformiad. 
  • Sicrhau bod y ddarpariaeth o wasanaethau therapi meinwe meddal yn bodloni strategaethau ac amcanion Chwaraeon Cymru yn effeithiol. 
  • Datblygu a chyflwyno rhaglenni therapi meinwe meddal i athletwyr i wella perfformiad elitaidd a chefnogi adfer ar ôl hyfforddi a chystadlu.         
  • Os cytunir i hynny, darparu cefnogaeth therapi meinwe meddal mewn gwersylloedd ymarfer a chystadlaethau yn y DU neu yn rhyngwladol. 
  • Cadw bas data cynhwysfawr, diogel gyda mynegai o waith a wnaed gydag athletwyr a defnyddio system cofnodion meddygol electronig.

 

 

Gwerthoedd Chwaraeon Cymru

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

 

  1. Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.
  2. Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.
  3. Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol.

 

Drwy wneud y canlynol: 

 

  1. Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth.
  2. Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir.
  3. Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

 

Manyleb y person

Maes FfocwsGofynion Hanfodol Gofynion Dymunol         

Addysg:

 

Meddu ar gymhwyster tylino Chwaraeon Lefel 4 o leiaf a enillwyd drwy ysgol achrededig sy'n bodloni safonau QCF/RQF

Aelod o Gymdeithas Broffesiynol (PA) neu GCMT (y Cyngor Cyffredinol ar gyfer Therapïau Meinwe Meddal) neu CNHC (Cyngor Gofal Iechyd Ategol a Naturiol)

Aelodaeth lawn (Arian ac uwch) o’r Gymdeithas Tylino Chwaraeon. 

 

Tystysgrif Cymorth Cyntaf Mewn Argyfwng yn y Gwaith 

Profiad:

 

Profiad sylweddol – isafswm o 4 blynedd yn darparu therapi tylino chwaraeon i athletwyr a ddylai gynnwys gwaith gyda thimau neu sgwadiau chwaraeon perfformiad uchel - er nad yw hyn yn atal ymgeiswyr heb hyn rhag gwneud cais os ydynt yn teimlo bod ganddynt yr wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol

Profiad o ddatblygu a gweithredu syniadau arloesol a'u rhoi ar waith, gan gynnwys gweithio mewn ffordd gymhwysol ac integredig.

 

Profiad helaeth o ddatblygu a gweithredu strategaethau lleihau effaith anafiadau yn llwyddiannus.

 

Profiad o weithio’n effeithiol mewn tîm amlddisgyblaethol yn darparu gwasanaeth therapi meinwe meddal i chwaraeon perfformiad uchel.

Profiad o ddelio â rhaglenni perfformiad cenedlaethol mewn Cyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol

 

Profiad o deithio gyda thîm i gystadleuaeth genedlaethol/ ryngwladol neu wersyll hyfforddi ar lefel hŷn neu iau 

 

Sgiliau, Profiadau, Doniau a Galluoedd:

 

Dealltwriaeth o anghenion athletwyr a hyfforddwyr elitaidd mewn amgylchedd perfformiad uchel. 

 

Cydymffurfio â rheolau'r SMA neu'r corff rheoli cyfatebol a chod proffesiynol HCSI 

 

Datblygu, gweithredu a gwerthuso rhaglenni gwasanaeth therapi tylino chwaraeon ar gyfer athletwyr unigol yn y chwaraeon hyn

 

Lefel uchel o sgiliau datrys problemau a gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar resymu clinigol ac opsiynau triniaeth, gyda dealltwriaeth glir o derfynau ymyriadau a gwybod pryd i gyfeirio ymlaen, yn aml mewn sefyllfaoedd o dan bwysau mawr neu'n ddibynnol ar amser

 

Y gallu i ddangos gwybodaeth gyfoes ac uwch am dechnegau therapi tylino chwaraeon sy'n gysylltiedig â meddygaeth gyhyrysgerbydol yn yr amgylchedd chwaraeon

 

Y gallu i addasu rhaglenni yn unol â chanlyniadau data asesu, ar y cyd â hyfforddwyr a staff cefnogi eraill

 

Y gallu i weithio dan bwysau

 

Y gallu i flaenoriaethu eich baich gwaith eich hun

 

Y gallu i sicrhau cydbwysedd rhwng gofynion cystadleuol a therfynau amser tynn

 

Sgiliau cyfathrebu sy’n gallu cymell newid mewn ymddygiad i gael effaith bositif ar berfformiad. 

 

Dealltwriaeth o’r disgyblaethau gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon amrywiol.

 

Didwylledd personol a'r gallu i ysgogi ymddiriedaeth a pharch gan eraill.

 

Parodrwydd i ymgysylltu â datblygiad proffesiynol parhaus ym maes gwrth-gyffuriau a'i gefnogi, h.y. Cwrs Cynghorydd Chwaraeon Glân UKAD

 

Efallai y bydd yn ofynnol gweithio gydag athletwyr dan 18 oed (angen archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS))

Gwybodaeth gynhwysfawr a chyfoes am y sgiliau technegol sy’n sail i ddarparu rheolaeth therapi meinwe meddal mewn amgylchedd chwaraeon. 

 

Diddordeb mewn chwaraeon a chydnabod pwysigrwydd hybu a chefnogi cydraddoldeb, diogelu ac atal cyffuriau mewn chwaraeon.

 

Medrus am feithrin a chynnal perthnasoedd cynhyrchiol â staff perfformiad uchel mewn cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol.

 

Llawn cymhelliant gydag angerdd dros chwaraeon perfformiad uchel. 

 

Meddwl agored gyda’r bwriad i fabwysiadu arferion newydd.