Skip to main content

Ymarferydd Datblygu Athletwyr

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Ymarferydd Datblygu Athletwyr

Disgrifiad Swydd

YMARFERYDD DATBLYGU ATHLETWYR 

YN ATEBOL I 

Arweinydd Amgylchedd / Arweinydd Ffordd o Fyw yn Perfformio 

PWRPAS Y SWYDD

Mae hwn yn gyfle cyffrous i ddylanwadu ar brofiadau datblygu athletwyr ar draws system chwaraeon Cymru. Rydyn ni eisiau cefnogi ein partneriaid i ddeall a gwella’r amgylcheddau datblygu athletwyr maent yn eu creu fel rhan o’n hymgyrch i wneud Cymru yn genedl sy’n arwain y byd o ran sut rydym yn mynd ati i ddatblygu athletwyr.

Gan weithio gyda’n partneriaid, aelodau eraill o’r tîm gwasanaethau’r system chwaraeon, a chydweithwyr ehangach yn Chwaraeon Cymru, byddwch yn gyfrifol am ddatblygu a chyflwyno prosiectau sy’n cyd-fynd â’n hegwyddorion datblygu athletwyr sydd i’w gweld YMA.

Byddwch yn cyfrannu at ein dealltwriaeth a’n dysg am y ffordd orau i ni ddatblygu athletwyr (gan ganolbwyntio'n benodol ar sut mae'r amgylchedd yn effeithio ar ddatblygiad athletwyr) nid yn unig o fewn chwaraeon unigol ond ar draws system Cymru. Byddwch yn gwneud hyn drwy weithio ar draws timau prosiect niferus a thrwy ddatblygu perthnasoedd cadarn yn fewnol ac yn allanol.

Byddwch yn defnyddio eich gwybodaeth, eich dysgu, eich chwilfrydedd a’ch angerdd i esblygu'n barhaus sut rydym yn gweithio ar brosiectau sy'n ymwneud â datblygu athletwyr.

PRIF DDYLETSWYDDAU

  • Meithrin a chynnal perthnasoedd effeithiol yn fewnol ac yn allanol i alluogi cyflawni prosiectau'n effeithiol.
  • Defnyddio eich gwybodaeth, eich profiad a'ch arbenigedd i ddylanwadu ar bartneriaid i gymryd rhan mewn gweithgarwch datblygu athletwyr sy'n cyd-fynd ag egwyddorion Datblygu Athletwyr Cynhwysol Chwaraeon Cymru.
  • Helpu i nodi a mynegi prosiectau datblygu athletwyr a allai effeithio ar draws y system chwaraeon yng Nghymru.
  • Cyd-greu, gweithredu a gwerthuso prosiectau datblygu athletwyr mewn cydweithrediad â phartneriaid gan ddefnyddio gwybodaeth ac arferion cyfredol sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
  • Sicrhau bod y broses o gyflwyno prosiectau'n bodloni amcanion Chwaraeon Cymru yn effeithiol ac yn cyfrannu at ffyrdd arloesol o ddarparu cefnogaeth i brosiectau.
  • Gweithio gyda chydweithwyr a phartneriaid perthnasol i ddysgu, esblygu a datblygu arferion cyflwyno yn barhaus.
  • Hyrwyddo amgylchedd a diwylliant yn Chwaraeon Cymru sy'n cefnogi diogelwch seicolegol lle mae cwestiynau a chwilfrydedd yn cael eu croesawu.
  • Ar y cyd â'r Corff Rheoli Cenedlaethol partner perthnasol, cyfrannu at ein cefnogaeth i athletwyr Llwybr Safon Byd Olympaidd a Pharalympaidd sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
  • Cadw cofnod cynhwysfawr o’r gwaith sy’n cael ei wneud gydag athletwyr, hyfforddwyr a chwaraeon gan ddefnyddio porthol prosiectau perfformiad Chwaraeon Cymru.
  • Gweithio o fewn rheolau Codau Ymddygiad Proffesiynol, safonau a chanllawiau y DU a CRhC.
  • Mynychu, cyfrannu at a darparu diweddariadau rheolaidd i gyfarfodydd gyda phartneriaid, cydweithwyr tîm gwasanaethau’r system chwaraeon, a rhanddeiliaid allweddol eraill.
  • Perchnogi arddangos enghreifftiau o arfer da ar draws y system i gynulleidfa mor eang â phosibl, gan gydweithio’n fewnol ac yn allanol yn ôl yr angen.
  • Cyflawni cyfrifoldebau sy’n cyfrannu at ddarparu gwasanaeth rhagorol i Chwaraeon Cymru mewn perthynas â’n dyletswyddau statudol, gan gynnwys Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru), Cydraddoldeb, yr Iaith Gymraeg, Diogelwch Gwybodaeth, Rheoli Risg, Diogelu, Rheoliadau Ariannol ac Iechyd, Diogelwch a’r Amgylchedd. 
  • Rheoli’n briodol gyllideb benodol ar gyfer cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant fel y caiff ei dirprwyo i chi yn unol â gweithdrefnau Chwaraeon Cymru. 
  • Gweithio’n hyblyg gan gyflawni unrhyw ddyletswyddau eraill fel sy’n ofynnol ac yn berthnasol i’r swydd ac yn briodol i’rraddfa.

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.             

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir. 

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus. 

MANYLEB Y PERSON

 Gofynion Hanfodol Gofynion Dymunol         

Addysg:

 

Gradd mewn gwyddoniaeth chwaraeon ac ymarfer neu bwnc perthnasol

Gradd lefel uwch ym meysydd seicoleg, cymdeithaseg, ffordd o fyw yn perfformio neu bwnc sy'n ymwneud â newid ymddygiadol ac amgylcheddol

Wedi cofrestru gyda chorff rheoli proffesiynol perthnasol

Tystiolaeth o ddatblygiad proffesiynol parhaus perthnasol

Cymhwyster ôl-raddedig hyd at lefel PhD (neu gyfatebol) mewn pwnc seico-gymdeithasol perthnasol

 

 

Profiad:

 

Sawl blwyddyn o brofiad fel ymarferydd yn darparu cefnogaeth i athletwyr a hyfforddwyr mewn amgylcheddau amlchwaraeon 

Profiad o weithio fel rhan o dîm amlddisgyblaethol wrth ddarparu cefnogaeth perfformiad i wella amgylcheddau datblygu athletwyr

Dealltwriaeth o'r heriau a wynebir gan athletwyr sy'n datblygu a'r profiad a'r hygrededd i hwyluso datrysiadau sy'n cael effaith 

Profiad o gyfrannu at y gwaith o ddylunio, cynnwys, cyflwyno a gwerthuso ymyriadau hyfforddi a datblygu

Profiad o arwain eraill wrth ddatblygu a gweithredu syniadau arloesol a'u rhoi ar waith mewn ffordd gymhwysol ac integredig

Profiad o ddatblygu adnoddau addysgol, rhaglenni, ac o addysgu athletwyr a hyfforddwyr 

Profiad o weithio mewn tîm proffesiynol neu leoliad Athrofa Chwaraeon

 

Profiad o gefnogi athletwyr ifanc a'u rhieni

 

Profiad o gefnogi datblygiad personol unigolion drwy hyfforddi a mentora

Sgiliau, Doniau a Galluoedd:

 

Dealltwriaeth o anghenion athletwyr sy'n datblygu a'u hyfforddwyr mewn amgylcheddau hyfforddi a chystadlu 

Dealltwriaeth o'r broses hyfforddi ac ymarfer, perfformiad athletaidd a sut gall yr amgylchedd ddylanwadu ar y rhain

Dealltwriaeth o'r amrywiol ddisgyblaethau gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon a sut gall y rhain effeithio ar broblemau perfformiad

Y gallu i feithrin a chynnal perthnasoedd cynhyrchiol gyda staff cefnogi, athletwyr a hyfforddwyr, meithrin ymddiriedaeth yn gyflym a gweithredu mewn ffordd sy'n rhoi hyder i eraill ynoch chi

Sgiliau hyfforddi a mentora, sy'n dangos chwilfrydedd a sgiliau cwestiynu lefel uchel

Sgiliau cyfathrebu a chyflwyno rhagorol; cyfathrebu'n effeithiol ac yn hyderus yn y ffordd fwyaf perthnasol i'r gynulleidfa darged

Y gallu i bennu nodau, cynllunio a monitro cynnydd prosiect, adolygu, addasu a sicrhau bod gweithgareddau'n cael eu gwerthuso ar gyfer effaith

Y gallu i weithio'n annibynnol, dal eich hun ac eraill yn atebol am safonau perfformiad a mynd ati’n rhagweithiol i geisio cefnogaeth ac arweiniad gan eraill

Lefel uchel o hunanymwybyddiaeth a deallusrwydd emosiynol 

Hyder a hygrededd i weithredu ar wahanol lefelau gan gynnwys sgiliau dylanwadu, trafod a hwyluso cadarn

Ymdrechu i nodi a datblygu dulliau arloesol o weithio ar bob lefel o fewn y llwybr datblygu a pherfformiad

Dealltwriaeth o ddeinameg gweithio gydag ymarferyddion eraill a’r rhyngweithio penodol rhwng gofynion gwahanol brosiectau sy’n cael eu cyflwyno ar yr un pryd efallai       

Y gallu i ymdopi'n effeithiol â chyflymder, addasu'n gyflym pan fydd blaenoriaethau'n newid ac addasu i sefyllfaoedd dan bwysau

Y gallu i gyfathrebu mewn ieithoedd ychwanegol 

 

 

Arall: 

 

Trin data a gwybodaeth gyfrinachol yn sensitif

Gallu gweithio'n hyblyg gan gynnwys y tu allan i oriau swyddfa arferol

Gallu teithio pan fo angen