Skip to main content
  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. AELOD ANNIBYNNOL O’R PWYLLGOR ARCHWILIO A SICRWYDD RISG

AELOD ANNIBYNNOL O’R PWYLLGOR ARCHWILIO A SICRWYDD RISG

YN ATEBOL I     

Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg

YN GYFRIFOL AM 

AMH.

PWRPAS Y SWYDD

Darparu goruchwyliaeth i’r Bwrdd a monitro'r trefniadau sydd gan y sefydliad ar waith mewn perthynas â rheoli risg, llywodraethu a'r system o reolaeth fewnol. 

PRIF DDYLETSWYDDAU 

Fel aelod annibynnol o'r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg, bydd disgwyl i chi gyfrannu'n llawn at waith y Pwyllgor, y mae ei brif swyddogaethau'n cynnwys:

Archwilio Mewnol 

  • Penodi archwilwyr mewnol, gan bennu eu telerau ymgysylltu, dangosyddion perfformiad allweddol a ffi archwilio. Ystyried a phenderfynu ynghylch unrhyw gwestiwn am ymddiswyddiad neu ddiswyddo archwilwyr mewnol.
  • Cytuno ar ac adolygu'r cynllun archwilio mewnol blynyddol a'r rhaglen dair blynedd.
  • Derbyn ac ystyried adroddiadau'r Archwilwyr Mewnol.
  • Ystyried Adroddiad Blynyddol yr Archwilwyr Mewnol, gan gynnwys eu barn flynyddol a'u datganiad sicrwydd.
  • Derbyn ac ystyried adroddiad blynyddol ar berfformiad yr Archwilwyr Mewnol.
  • Derbyn ac ystyried adroddiad cynnydd ysgrifenedig gan gynrychiolydd yr Archwilwyr Mewnol yn crynhoi:
  • gwaith a gyflawnwyd (a chymhariaeth â'r gwaith a gynlluniwyd)
  • materion allweddol sy'n codi o’r gwaith Archwilio Mewnol
  • ymateb y rheolwyr i argymhellion archwilio
  • newidiadau i'r rhaglen archwilio
  • unrhyw faterion adnoddau sy'n effeithio ar gyflawni amcanion Archwilio Mewnol
  • Bydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cwrdd yn breifat gyda’r Archwilwyr Mewnol unwaith y flwyddyn o leiaf.

 

Archwilio Allanol

  • Cytuno ar y cynllun archwilio allanol, fodd bynnag, bydd y gwaith archwilio wedi dechrau cyn i'r cynllun gael ei gwblhau. Yn benodol, bydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn derbyn ac yn ystyried y canlynol:
  • Bydd y Pwyllgor Archwilio a Risg yn cwrdd yn breifat gyda’r Archwilwyr Allanol unwaith y flwyddyn o leiaf. 

 

Adroddiadau Ariannol

  • Adolygu'r datganiadau ariannol blynyddol drafft cyn argymell eu cymeradwyo i'r Bwrdd gan ystyried: 

 

Rheolaeth, Risg a Sicrwydd           

  • Ystyried effeithiolrwydd y prosesau rheolaeth fewnol strategol ar gyfer risg, rheoli sicrwydd a llywodraethu
  • Ystyried y Datganiad Blynyddol ar Reolaeth Fewnol a'i argymell i'r Bwrdd i'w gymeradwyo
  • Ystyried trefniadau'r Sefydliad ar gyfer llywodraethu gwybodaeth a seibr ddiogelwch
  • Cytuno ar y Strategaeth Risg a’r dyhead risg ac ystyried unrhyw newidiadau arfaethedig
  • Adolygu'r Gofrestr Risg Gorfforaethol ym mhob cyfarfod fel eitem sefydlog
  • Adolygu'r Fframwaith Sicrwydd ym mhob cyfarfod fel eitem sefydlog
  • Ystyried unrhyw ddiwygiadau arfaethedig i'r Rheoliadau Ariannol a newidiadau sylweddol i gynllun Dirprwyaethau
  • Mynnu sicrwydd sy'n ymwneud â gofynion llywodraethu corfforaethol y sefydliad
  • Ystyried y polisïau gwrth-dwyll a'r prosesau chwythu'r chwiban.
  • Adolygu'r Gofrestr Anrhegion a Lletygarwch ddwywaith y flwyddyn 

 

EIN GWERTHOEDD

Mae ein dull o weithredu i alluogi chwaraeon yng Nghymru i ffynnu yn esblygu. Rydym wedi ymrwymo i herio ein hunain yn barhaus i wneud y canlynol: 

Dysgu Gyda’n Gilydd - Archwilio, profi ac adolygu yn gyson.             

Cyflawni Gyda’n Gilydd - Rhannu canlyniadau, meithrin perthnasoedd agored a gonest, darparu adborth cadarn, gwella perfformiad yn gyson.       

Dathlu Gyda’n Gilydd - Cydnabod ein llwyddiannau a rennir drwy bartneriaid effeithiol. 

Drwy wneud y canlynol: 

Gweithredu’n Ddidwyll - Deall a Pharchu diwylliant a gwerthoedd ein gilydd. Hybu cydraddoldeb ac amrywiaeth. 

Ychwanegu Gwerth - Sicrhau’r gymysgedd orau bosib o gefnogaeth, her, buddsoddiad, sgiliau ac arbenigedd i gyflawni ein canlyniadau a rennir. 

Annog Arloesi - Croesawu syniadau a dulliau gweithredu newydd a chefnogi uchelgais a meddwl o’r newydd. Peidio ag ofni teimlo’n anghyfforddus.

MANYLEB Y PERSON

Maes FfocwsGofynion Hanfodol Gofynion Dymunol         

Addysg:

 

Cyfrifydd â chymhwyster CCAB 

 

 

Gwybodaeth a Phrofiad:

 

Profiad o weithredu ar lefel strategol mewn sefydliad                       

 

Profiad ymarferol yn adran rheolaeth ariannol busnes a/neu sefydliad yn y sector cyhoeddus             

 

Gwybodaeth am ddatganiadau ariannol a dealltwriaeth ohonynt (yn ddelfrydol gan gynnwys cyfrifon Elusennau a’r sector cyhoeddus) a’r gallu i’w dadansoddi 

 

Gwybodaeth gadarn am reoli risg, mesurau rheoli mewnol ac adroddiadau archwilio ac ariannol a dealltwriaeth ohonynt

 

 

Profiad o weithredu mewn rôl anweithredol mewn sefydliad arall                       

 

Profiad o weithio gyda neu mewn swyddogaeth archwilio allanol / fewnol 

Sgiliau, Doniau a Galluoedd:

 

Y gallu i ddeall a dadansoddi materion cymhleth a gallu edrych arnynt yn wrthrychol             

 

Y gallu i gefnogi’r Weithrediaeth a’i herio’n adeiladol wrth gynnal annibyniaeth               

 

Deall y tirlun rheoleiddiol yn sector cyhoeddus Cymru                   

 

Dealltwriaeth ac ymrwymiad i weithredu oddi mewn i Egwyddorion Nolan 

 

 

 

 

Gwybodaeth am y GDPR a Seibr Ddiogelwch         

 

Sgiliau dwyieithog neu amlieithog

Amgylchiadau Arbennig:

 

Y gallu i deithio’n achlysurol i Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru