Skip to main content

SWYDDOG DATBLYGU LLYWODRAETHU

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. SWYDDOG DATBLYGU LLYWODRAETHU

AM Y SWYDD WAG YMA

ADRAN A CHYFLOG

Adran – System Chwaraeon

Cyflog - Graddfa 7 - £34,262.71 - £36,703.07

Oriau Gwaith – 37 awr yr wythnos (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi. 

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

Mae'r rhan fwyaf o gyflogeion Chwaraeon Cymru yn gweithio o bell ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu codi, bydd Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a'ch cartref, i gyd-fynd orau â'ch amgylchiadau personol. 

I gael gwybod sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru gwyliwch y fideoar ein tudalen gyrfaoedd.

SUT BYDDWCH YN CYFRANNU 

Mae hwn yn gyfle cyffrous i unigolyn profiadol chwarae rhan allweddol mewn arwain, datblygu a chefnogi ein gwaith sy'n ymwneud â llywodraethu, moeseg ac integriti. 

Fel y Swyddog Datblygu Llywodraethu, byddwch yn cefnogi ac yn cyflwyno elfennau o'r Fframwaith Gallu, gan ddarparu cefnogaeth i bartneriaid sy'n ymwneud â'r Fframwaith Llywodraethu ac Arwain, a hefyd cynorthwyo gyda gweithredu'r dull newydd o fuddsoddi mewn partneriaid. Er y bydd y rôl hon yn canolbwyntio ar ddatblygu llywodraethu, moeseg ac integriti, bydd cyfleoedd hefyd i weithio ar draws y tîm ehangach.

Byddwch yn gyfrifol am ddarparu arweiniad, cefnogaeth ac arweinyddiaeth i bartneriaid strategol a'r sector ar faterion sy'n ymwneud â datblygu llywodraethu, moeseg ac integriti. Yn benodol, byddwch yn gweithio ar lefel uwch gyda phartneriaid strategol ledled Cymru i ddylanwadu ar eu gwaith o gynllunio a gweithredu strategaeth a pholisi sy'n ymwneud â llywodraethu, moeseg ac integriti, gan sicrhau eu bod yn parhau i fod wrth galon eu gwaith. Gan weithio gyda phartneriaid, a mabwysiadu dull sy'n cael ei arwain gan ddysgu o weithredu, byddwch yn adnabod cyfleoedd i wella o Gymru a ledled y byd a fydd, yn ei dro, yn cefnogi ein partneriaid i gael eu rheoli a’u harwain yn dda a'u paratoi yn y ffordd orau i gyflawni eu potensial.

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant wrth galon popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru a bydd y rôl yma’n gyfle i arwain a chefnogi prosiectau a rhaglenni sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn sefydliadau partner ac ar draws y sector.

GYDA PHWY FYDDWCH YN GWEITHIO 

Byddwch yn gweithio gyda rhwydwaith eang o sefydliadau i greu amgylcheddau ar gyfer gwelliant parhaus ac ar lefel uwch gyda phartneriaid strategol allweddol gan gynnwys Awdurdodau Lleol, Partneriaid Cenedlaethol, Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol a Chyrff Rheoli Chwaraeon Cenedlaethol. 

Yn fewnol, byddwch yn gweithio yn y Tîm System Chwaraeon, Llywodraethu, Pobl a Moeseg yn ogystal â chydweithredu â chydweithwyr ar draws Chwaraeon Cymru i sicrhau bod materion sy'n ymwneud â datblygu llywodraethu’n cael eu cefnogi'n llawn. 

Yn ogystal, byddwch yn cynrychioli Cymru ar lefel y DU ar faterion sy'n ymwneud â datblygu llywodraethu.

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy’n gallu meithrin perthnasoedd hynod effeithiol ac sy’n gallu herio consensws mewn ffordd adeiladol a gonest. 

Bydd gennych wybodaeth, dealltwriaeth, profiad ac angerdd dros greu amgylcheddau a systemau dysgu, ac o ran cefnogi datblygiad llywodraethu, moeseg ac integriti.  Bydd gennych hefyd brofiad o arwain prosiectau a rhaglenni sy'n hyrwyddo cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.

Byddwch yn gallu adnabod arfer sy'n dod i'r amlwg yng Nghymru a ledled y byd, defnyddio dirnadaeth ac ymchwil i sbarduno polisi a strategaeth, a sicrhau ein bod yn cael yr effaith fwyaf posibl ar y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon a Strategaeth Chwaraeon Cymru. Yn cael eich arwain hefyd gan dystiolaeth a dirnadaeth, byddwch wedi ymrwymo i ddysgu a chefnogi eraill i ddysgu (yn y partneriaid ac ar draws partneriaid) gyda ffocws ar wella parhaus. 

Bydd rhaid i chi fod yn effeithlon am reoli sawl maes gwaith a gallu creu amgylchedd gwaith positif, delio’n effeithiol gyda materion a phroblemau; cymell, annog a herio eich cydweithwyr.               

Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol. Os oes gennych chi bresenoldeb a phersonoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel a hefyd angerdd a dyhead i lwyddo, byddem yn hoff iawn o glywed gennych chi. 

BETH SY’N DIGWYDD NESAF 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.

Gallwch wneud cais am y rôl yma  nawr.

I gael mwy o wybodaeth am y rôl, e-bostiwch JOBENQUIRIES@SPORT.WALES

DYDDIAD CAU

10:00am ar 8fed Tachwedd 2021

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD

18fed a 19eg Tachwedd 2021