Skip to main content

Uwch Swyddog AD / Datblygu Sefydliadol

  1. Hafan
  2. Gyrfaoedd
  3. Ein Swyddi Gwag
  4. Uwch Swyddog AD / Datblygu Sefydliadol

Am y swydd wag yma

ADRAN A CHYFLOG

Adran – Perfformiad y Sefydliad 

Cyflog- Graddfa 7 - £34,947.96 - £37,437.13 (yn amodol ar ddyfarniad tâl)

Oriau Gwaith – 37 (bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i rannu swydd / llai o oriau yn unol â’n polisi gweithio hyblyg)

Mae cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn flaenoriaeth strategol allweddol i Chwaraeon Cymru ac rydym yn mynd ati i geisio amrywio ein gweithlu ymhellach. Bydd ymgeiswyr o grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl yn sicr o gael cyfweliad fel rhan o'r dull yma o weithredu.

PWY YDYM NI

Chwaraeon Cymru yw’r sefydliad cenedlaethol sy’n gyfrifol am ddatblygu a hybu chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru. Ni yw prif gynghorwr Llywodraeth Cymru ar bob mater yn ymwneud â chwaraeon ac rydym yn gyfrifol am ddosbarthu cyllid y Loteri Genedlaethol. Ein nod ni yw nid yn unig gwella lefel y cymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad, ond hefyd darparu i’n hathletwyr addawol y gefnogaeth ofynnol i gystadlu’n llwyddiannus ar lwyfan y byd.

Mae Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant wrth wraidd popeth rydym yn ei wneud yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bob rhan o'r gymuned a grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol. Ceir rhagor o wybodaeth am hyn yn ein Datganiad Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant yma

Rydym yn gyflogwr blaengar sy'n cynnig buddion rhagorol i gyflogeion ac yn hyrwyddo cydbwysedd bywyd a gwaith iach, gan gynnig amrywiaeth o ddulliau hyblyg i'ch cefnogi. 

Mae sgiliau iaith (dwyieithrwydd ac amlieithrwydd) yn nodweddion dymunol ar draws pob rôl yn Chwaraeon Cymru. Rydym yn teimlo’n angerddol am hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg ac, fel rhan o'n rhaglen ddatblygu, rydym yn rhoi cyfle i bawb ddysgu Cymraeg os ydynt yn dymuno gwneud hynny, gan gynnig rhaglenni dysgu o lefel dechreuwr hyd at lefel rhugl. 

Mae'r rhan fwyaf o gyflogeion Chwaraeon Cymru yn gweithio o bell ar hyn o bryd oherwydd cyfyngiadau Covid-19. Pan fydd y cyfyngiadau'n cael eu codi, bydd Chwaraeon Cymru yn cofleidio dull cyfunol o weithio, lle byddwch yn gallu rhannu eich amser rhwng y swyddfa a'ch cartref, i gyd-fynd orau â'ch amgylchiadau personol. 

I gael gwybod sut brofiad yw gweithio gyda ni yn Chwaraeon Cymru gwyliwch y fideoar ein tudalen gyrfaoedd.

SUT BYDDWCH YN CYFRANNU 

Mae’r rôl hon yn rhan hanfodol o allu Chwaraeon Cymru i gyflawni ei swyddogaeth Adnoddau Dynol a Datblygu Sefydliadol yn strategol.

Rydym yn chwilio am unigolyn profiadol a fydd yn ymuno â Thîm AD/DS bychan gan gyfrannu at bob agwedd ar AD a DS. Byddwch yn gweithio'n agos gyda'n tîm cefnogol i ddarparu gwasanaeth cadarnhaol sy'n canolbwyntio ar atebion ar draws y sefydliad. Byddwch yn gweithio ar draws pob maes o'r busnes, gan arwain a hyfforddi rheolwyr a darparu cyngor cadarn. Byddwch hefyd yn helpu i ddatblygu diwylliant o gydweithio a ffocws ar gwsmeriaid yn y gyfarwyddiaeth ehangach.

Rydym yn ymdrechu i sicrhau cynnydd parhaus ac yn adolygu ein dulliau, ein polisïau a’n gweithdrefnau’n gyson.

Byddwch yn gallu datblygu a chyfrannu at brosiectau a mentrau sy'n canolbwyntio ar ein datblygu ni fel sefydliad sy'n dysgu, gyda chyflogeion amrywiol sy'n ymgysylltu ac yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi.

BETH FYDD ARNOCH EI ANGEN

Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sy'n angerddol am eu gwaith. Pobl sy'n mwynhau gweithio mewn tîm a chymryd rhan ym mhob agwedd ar y ddarpariaeth. Rydym yn rhoi pwyslais cryf ar gyfathrebu, cydweithio, rhannu a dysgu gyda’n gilydd fel tîm. Bydd gennych brofiad o ddarparu cymorth AD a DS i sefydliadau fel cynghorwr a byddwch yn chwilio am eich rôl nesaf i roi profiad eang i chi o fewn sefydliad blaengar.

Mae gallu siarad Cymraeg yn ddymunol, ond nid yw’n hanfodol. Os oes gennych chi bresenoldeb a phersonoliaeth i weithio mewn tîm perfformiad uchel a hefyd angerdd a dyhead i lwyddo, byddem yn hoff iawn o glywed gennych chi. 

BETH SY’N DIGWYDD NESAF 

Dylech ddarllen y disgrifiad swydd llawn.

Gallwch wneud cais am y rôl yma nawr.

Os hoffech chi drafod y rôl ymhellach, e-bostiwch [javascript protected email address].

Bydd sesiynau galw heibio hefyd yn cael eu cynnal, lle gallwch siarad ag aelodau o’r tîmAD a DS mwy am y rôl a’r sefydliad yn ehangach.               

Mae manylion hyn, ynghyd â dolenni i ymuno â'r cyfarfodydd rhithwir, i'w gweld isod:

20fed Hydref 2022 6pm – 7pm Cliciwch yma i ymuno â’r cyfarfod 

Am fwy o wybodaeth am y broses ymgeisio, e-bostiwch[javascript protected email address].

DYDDIAD CAU

Hanner dydd 31 Hydref 2022

DYDDIAD DROS DRO Y CYFWELIAD

9 Tachwedd 2022