Arweinydd Cyfathrebu Digidol
Tennis Cymru yw Corff Llywodraethu Cenedlaethol tennis yng Nghymru, ac rydym am recriwtio Arweinydd Cyfathrebu Digidol llawnamser.
Mae’r Arweinydd Cyfathrebu Digidol yn cydlynu’n holl gyfathrebiadau digidol i arddangos sut rydym yn trawsnewid cymunedau Cymreig drwy gyfrwng tennis, a hynny drwy wneud y mwyaf o’n platfformau cyfryngau cymdeithasol, e-gylchlythyrau a gwefan. Gan weithio’n agos â chydweithwyr o fewn Tennis Cymru, mae’r rôl greadigol hon yn goruchwylio ac yn cydlynu’r ffordd mae ein sefydliad a’n gêm yn edrych ac yn teimlo ar-lein, drwy ddatblygu cynnwys ffres a difyr, gweithio gyda phartneriaid, a hyrwyddo pob rhan o’n strategaeth, o fuddsoddi, ymgysylltu, twf, perfformiad, amrywiaeth ac arweinyddiaeth.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 31 Mai 2024 - 17:00