Main Content CTA Title
  1. Hafan
  2. Merched a Genethod yn y Byd Chwaraeon yng Nghymru - #HiActifCymru

Merched a Genethod yn y Byd Chwaraeon yng Nghymru - #HiActifCymru

Dyma’r haf mwyaf erioed i chwaraeon merched yng Nghymru. 

Ers gormod o amser o lawer, mae chwaraeon merched elitaidd wedi cael eu tangynrychioli. Yr haf yma, mae hynny’n newid. Mae athletwyr benywaidd mwyaf talentog Cymru yn camu ar y llwyfan mawr - gan roi Cymru ar y map ac ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf. 

Ac wrth i ni ddathlu’r athletwyr anhygoel yma, mae’r byd chwaraeon yng Nghymru hefyd yn mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau sy’n dal i fodoli o ran cyfranogiad merched a genethod. 

Sgroliwch i lawr i weld beth sy’n digwydd yr haf yma, am straeon ysbrydoledig a sut gall eich clwb neu eich sefydliad chi chwarae ei ran.

Pam rydyn ni’n gweithredu dros chwaraeon merched

Mae Chwaraeon Cymru eisiau creu cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon am oes. Mae hyn yn cynnwys merched a genethod.

Er gwaethaf y camau sydd wedi’u cymryd, mae ymchwil yn dangos bod y bwlch rhwng y rhywiau mewn chwaraeon yn parhau:

  • Cymerodd 57% o ferched yng Nghymru ran mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn ystod y mis diwethaf - o gymharu â 64% o ddynion. (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23)
  • Dim ond 35% o ferched sy'n actif 3+ gwaith yr wythnos, o gymharu â 43% o ddynion. (Arolwg Cenedlaethol Cymru 2022-23)
  • Nid yw 37% o enethod 7 i 16 oed yn cymryd rhan mewn unrhyw chwaraeon trefnus y tu allan i AG, o gymharu â 33% o fechgyn. (Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022)
  • Dim ond 10% o ferched yng Nghymru sy'n gwirfoddoli mewn chwaraeon, o gymharu â 27% o ddynion. (Traciwr Gweithgarwch Cymru Ebrill 2025)

Gan weithio gyda'n partneriaid ni ledled Cymru, ein nod ni yw newid hynny.

Beth sy’n digwydd? Haf o Chwaraeon Merched i Gymru

Fe wyliodd tua thraean o bobl yng Nghymru chwaraeon merched yng Ngwanwyn 2025. Mae chwarter o'r rheini wedi cael eu hysbrydoli i fod yn actif oherwydd hynny.

Dyma rai chwaraeon merched i'ch ysbrydoli chi i fod yn actif yr haf yma:

Pêl Droed - Ewros UEFA 2025

Ewros UEFA 2025 – Twrnamaint mawr cyntaf erioed merched Cymru.

Pryd: Gorffennaf 2 – 27
Ble: Y Swistir   
Gemau: yn erbyn yr Iseldiroedd – Gorffennaf 5, yn erbyn Ffrainc – Gorffennaf 9, yn erbyn Lloegr – Gorffennaf 13 

Cyfle i gyfarfod y merched ysbrydoledig sy’n creu newid yn y byd pêl droed yng Nghymru. 

Nofio - Pencampwriaethau Gweithgareddau Dŵr y Byd

Pencampwriaethau Gweithgareddau Dŵr y Byd

Pryd: Gorffennaf 11 – Awst 3
Ble: Singapore
Un i’w gwylio: Mae’r arbenigwraig ar y dull cefn, Medi Harris o Wynedd, yn un i gadw llygad amdani. Efallai y bydd hi’n rhan o’r ras gyfnewid dull rhydd hefyd.       

Golff - Pencampwriaeth Agored y Merched AIG

Pencampwriaeth Agored y Merched AIG – Yn dod i Gymru am y tro cyntaf erioed.

Hwn hefyd fydd y digwyddiad chwaraeon mwyaf i ferched i gael ei gynnal yng Nghymru.

Pryd: Gorffennaf 30 – Awst 2 
Ble: Clwb Golff y Royal ym Mhorthcawl, Rest Bay
Un i’w gwylio: Mae’r olffwraig o Gymru, Darcey Harry, wedi cymhwyso i gystadlu gartref yn y Bencampwriaeth Agored.

Byddwch yn rhan o Bencampwriaeth Agored y Merched AIG ym Mhorthcawl

Rygbi - Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2025

Cymru yng Nghwpan Rygbi'r Byd 2025

Pryd: Awst 22 – Medi 27
Ble: Lloegr
Gemau: yn erbyn yr Alban – Awst 23, yn erbyn Canada – Awst 30, yn erbyn Ffiji – Medi 6

Bydd Cymru hefyd yn chwarae yn erbyn Awstralia ar daith o ddwy gêm brawf yn Awstralia cyn y twrnamaint.

Tracio cynnydd Cymru yng Nghwpan Rygbi’r Byd 2025.

Criced - Cwpan Criced y Byd

Morgannwg wedi lansio ei dîm merched cyntaf erioed eleni.

Yn cystadlu yn: Ail Gynghrair Merched Vitality Blast, Cwpan Undydd Metro Bank, Cwpan Sirol T20 y Merched 

Bydd Tân Cymru yn cystadlu yn y Cant yn ystod mis Awst a bydd Cymru a Lloegr yn cystadlu yng Nghwpan Criced y Byd sy’n cael ei gynnal yn India rhwng Medi 30 a Thachwedd 2.

Gweld amserlen lawn Merched Morgannwg dros yr haf.

Tennis - Gornest Agored Wrecsam Lexus

Bydd Wrecsam yn cynnal twrnamaint tennis mwyaf y DU i ferched heb fod ar laswellt am y tro cyntaf

Beth: Gornest Agored Wrecsam Lexus
Pryd: Hydref 19 – 26 
Ble: Canolfan Tennis a Padel Wrecsam

Byddwch yn rhan o Ornest Agored Wrecsam Lexus.

Un i’w Gwylio: Mimi Xufydd y chwaraewraig gyntaf o Gymru i gystadlu yn y senglau yn Wimbledon ers 20 mlynedd dros yr haf eleni, ac efallai y bydd yn cystadlu yn Wrecsam hefyd. .

Cyllid i chwaraeon merched

Dyma rai cronfeydd y gall eich clwb neu sefydliad gael mynediad iddyn nhw i wella profiad merched a genethod mewn chwaraeon:

  • Cronfa Cymru Actif – Mae’r rownd nesaf yn agor ar 9fedGorffennaf 2025. Rydyn ni’n annog ceisiadau gan unrhyw brosiectau sydd o fudd i ferched a genethod.
  • Lle i Chwaraeon– Fe allwch chi roi cyllid torfol i brosiectau sydd o fudd i ferched a genethoddrwy gydol y flwyddyn. Gallai Chwaraeon Cymru wneud addewid i’ch prosiect chi, drwy Lle i Chwaraeon.
Cronfa Cymru Actif

Grantiau hyd at £50,000 ar gyfer offer a chyrsiau…

Gwnewch gais nawr
Lle i Chwaraeon - Crowdfunder

Mynnwch hyd at £15,000 i wella eich cyfleusterau

Dechreuwch eich taith cyllido torfol

Sut gallwch chi gymryd rhan?

Os ydych chi'n glwb neu'n sefydliad, fe all pawb chwarae eu rhan.

  • Rhannwch eich straeon ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio'r hashnod #HiActifCymru
  • Dathlwch fodelau rôl benywaidd ysbrydoledig.
  • Anogwch eich clwb i wneud cais am gyllid i wella profiadau merched a genethod.
Grŵp o ferched yn rhoi piggy back i'w gilydd.

Y clybiau ar lawr gwlad sy’n creu cyfleoedd i ferched a genethod

Mae clybiau chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru yn creu amgylcheddau croesawgar lle gall merched a genethod ffynnu.Mae ymchwil yn dangos bod 94% o ferched 7 i 16 oed eisiau gwneud mwy o chwaraeon -arwydd clir bod y dyhead yn bodoli os yw'r cyfle'n briodol.Diolch…

Darllen Mwy