Skip to main content

Partneriaid

Mae angen ymdrech fawr i helpu chwaraeon yng Nghymru i ffynnu.

O’r gwirfoddolwyr sy’n rhoi o’u hamser fel bod eraill yn gallu cymryd rhan.

Y canolfannau hamdden, y campfeydd a’r pyllau nofio sy’n galonnau’n curo mewn cymunedau lleol.

Y gweinyddwyr, yr hyfforddwyr a’r athrawon AG – hebddyn nhw ni fyddai chwaraeon yn bodoli.

Mae’r teulu chwaraeon yn helaeth ac mae Chwaraeon Cymru yn gweithio gyda llawer o sefydliadau a chyrff i helpu i gefnogi llawer iawn o’r gweithgarwch yma.

 

Gyda chefnogaeth buddsoddiad, yn ogystal ag arweiniad ar bethau fel llywodraethu neu bolisi chwaraeon, mae’r partneriaid presennol yn cynnwys awdurdodau lleol, cyrff rheoli chwaraeon cenedlaethol ac eraill fel Streetgames, yr Urdd a Cholegau Cymru.

Rydyn ni hefyd yn sylweddoli, os ydyn ni am helpu pawb i fwynhau chwaraeon am oes, bod rhaid i ni gael mwy o help. Rydyn ni’n chwilio am bartneriaid newydd sy’n gallu helpu gyda’n gwaith, er budd i ni ac iddyn nhw. Mae gennym ni lawer i’w gynnig ac rydyn ni eisiau bod yn fwy arloesol i gael pobl i fod yn actif.

Yn yr adran yma fe welwch chi adnoddau os ydych chi’n bartner neu os ydych chi eisiau cael gwybod mwy am y cyfleoedd i weithio gyda ni.

Partneriaid
0
Fesul Tudalen: