Skip to main content

Canfyddiadau

Cymerodd cyfanswm o 14 o ysgolion unigol ac un ffederasiwn, yn cynnwys clwstwr o ddwy ysgol gynradd, o bob rhan o Gymru ran yn y prosiect peilot (Tabl 1). Roedd deg ysgol yn rhai cynradd, pump yn rhai uwchradd, ac un yn ysgol 3 i 16 oed. Er bod yr holl ysgolion wedi’u dosbarthu’n ysgolion prif ffrwd, roedd nifer o ysgolion peilot wedi dyrannu dosbarthiadau sylfaen adnoddau dysgu a darparwyd ar gyfer y disgyblion hynny ag anghenion dysgu ychwanegol o fewn nifer o’r ysgolion peilot. Roedd yr ysgolion yn derbyn cyllid ar wahanol adegau yn ystod y flwyddyn academaidd ac roeddent yn parhau i gael eu heffeithio gan COVID-19 i raddau amrywiol, ac o ganlyniad roeddent (ac maent) mewn camau amrywiol o weithredu a chyflwyno eu rhaglen. Felly nid oes modd cymharu amserlenni ar draws ysgolion yn uniongyrchol.

Oherwydd yr amrywioldeb hwn, mae’n bwysig ystyried sut gweinyddwyd y gwahanol amrywiadau yn y rhaglen. O ganlyniad, mae cynnydd pob ysgol yn cael ei werthuso ar bersbectif ysgol unigol, ac wedyn defnyddir persbectif ehangach ar draws yr ysgolion i adlewyrchu eu profiadau a rhannu dysgu ar gyfer cyflwyno’r rhaglen yn y dyfodol.

Tabl 1. Yr ysgolion a gymerodd ran ym Mheilot AEBSD a’u demograffeg

 

 

Enw’r Ysgol

 

Awdurdod Lleol

 

Nifer y disgyblion

% Cymwys ar gyfer Prydau Ysgol Am Ddim^

%

Anghenion Addysgol Arbennig^

 

% Saesneg fel Iaith Ychwanegol^

 

%

Lleiafrif Ethnig^

DeightonBlaenau Gwent17745.24.8*4.9
Cymunedol JohnstonSir Benfro21016.036.02.53.5
MaendyCasnewydd49425.921.579.287.2
SofryddBlaenau Gwent16329.315.8*4.2
Catholig Rufeinig Sant AnthonySir y Fflint9731.514.814.827.2
Eglwys yng Nghymru Sant EthelwoldSir y Fflint10242.835.814.919.4

Ffederasiwn y Parlwr Du

Ysgol Gronant Ysgol Trelogan

      
Sir y Fflint5236.219.00.0*
Sir y Fflint8315.410.00.08.3
Ysgol Bryn GwaliaSir y Fflint16840.421.1**
Yr Eglwys yng Nghymru Y TrallwngPowys28331.838.118.324.8
Ysgol Henry RichardCeredigion32612.833.12.43.5
Ysgol y GrangoWrecsam56227.18.92.74.8
Dylan ThomasAbertawe50050.758.35.615.2
John FrostCasnewydd1,30726.328.224.841.5
PencoedtreBro Morgannwg1,00034.632.12.18.6
Ysgol Gorllewin MynwyTorfaen1,13226.822.60.97.1
Cymru 21.320.66.012.912.9

* = Yn cynrychioli dim data ar gael; ^Data o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion StatsCymru.