Skip to main content

Anabledd a Nam

Eleni, cymerodd 116,038 o ddisgyblion o 1,000 o ysgolion yng Nghymru ran yn Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru 2022. Mae'r ddogfen hon yn rhannu'r data yn ôl anabledd / nam, gan dynnu sylw at ffigurau a phatrymau allweddol.

Rydym wedi strwythuro hyn o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru: ‘Cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol oes’. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon, lle mae pawb yn teimlo y gallant gymryd rhan waeth beth fo'u cefndir chwaraeon, mewn tirlun chwaraeon sy'n ymateb i anghenion pobl ar wahanol adegau yn eu bywyd, i greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol.

Cenedl Actif

Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad yn ôl amledd, lleoliad a chwaraeon.

  • Mae disgyblion heb anabledd neu nam yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon trefnus y tu allan i'r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau'r Dyfodol 38) na disgyblion ag anabledd neu nam. Mae 40% o ddisgyblion heb unrhyw anabledd neu nam yn cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos, o gymharu â 35% o ddisgyblion ag anabledd neu nam.
  • Mae disgyblion heb anabledd neu nam yn fwy tebygol na disgyblion ag anabledd neu nam o gymryd rhan mewn chwaraeon clwb cymunedol o leiaf unwaith yr wythnos. Mae 57% o ddisgyblion heb anabledd neu nam yn cymryd rhan mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol o leiaf unwaith yr wythnos, o gymharu â 47% o ddisgyblion ag anabledd neu nam.
  • Y tair prif gamp y mae disgyblion ag anabledd neu nam yn cymryd rhan ynddynt o leiaf unwaith yr wythnos mewn clwb cymunedol yw pêl droed, nofio a rygbi.

Pawb 

Mae'r Weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fedrus mewn chwaraeon i bobl sy'n ennill medalau, ar draws yr holl ddemograffeg. Mae'r adran hon yn edrych ar gyfranogiad o fewn y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol. 

Tabl 1: Canran y disgyblion ag anabledd neu nam a heb anabledd neu nam sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl ardal Partneriaeth Chwaraeon Rhanbarthol.

 

Canran y disgyblion ag anabledd neu nam sy’n cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos

 

Canran y disgyblion heb anabledd neu nam sy’n cymryd rhan deirgwaith neu fwy yr wythnos
Canolbarth y De35%40%
Canolbarth Cymru33%41%
Gorllewin Cymru36%43%
Gwent37%38%
Gogledd Cymru38%40%

Gydol Oes

Mae'r Weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd. Mae'r adran hon yn edrych ar y galw a'r cymhellion / galluogwyr i wneud mwy o chwaraeon.

  • Mae gan 59% o ddisgyblion ag anabledd neu nam alw heb ei fodloni am chwaraeon, o gymharu â 55% o ddisgyblion heb anabledd neu nam.
  • Y tair prif gamp y mae galw amdanynt ar gyfer disgyblion ag anabledd neu nam yw nofio, pêl fasged a beicio.
  • Mae disgyblion heb anabledd neu nam yn fwy tebygol o feddwl bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach na disgyblion ag anabledd neu nam. Mae 52% o ddisgyblion heb anabledd neu nam yn meddwl bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach, o gymharu â 47% o ddisgyblion ag anabledd neu nam.
  • Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion ddewis ymatebion i’r cwestiwn ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai…’. Y tri phrif ymateb a ddewiswyd gan ddisgyblion ag anabledd neu nam oedd: ‘Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon yn gweddu i mi’, ‘Pe bai gen i fwy o amser’ a ‘Pe bawn i’n fwy hyderus’.

 

TROEDNODYN: Mae galw heb ei fodloni yn cyfeirio at y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, ond eto maent â galw i wneud mwy o chwaraeon.

Mwynhad 

Mae’r Weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon. Mae'r adran hon yn edrych ar fwynhad o chwaraeon mewn AG, clybiau allgyrsiol a chlybiau cymunedol.  

  • Ar draws lleoliadau, mae disgyblion heb anabledd neu nam yn fwy tebygol o fwynhau chwaraeon ‘yn fawr’ na disgyblion ag anabledd neu nam.

Tabl 2: Mwynhau chwaraeon mewn gwahanol leoliadau, yn ôl anabledd / nam  

 Mwynhau AG ‘yn fawr’               Mwynhau chwaraeon allgyrsiol ‘yn fawr’         Mwynhau camp mewn clwb cymunedol ‘yn fawr’ 
Disgyblion ag anabledd neu nam53%36%40%
Disgyblion heb anabledd neu nam58%40%48%