Skip to main content

Cefndir Ethnig

Eleni, cymerodd 116,038 o ddisgyblion o 1,000 o ysgolion yng Nghymru ran yn Arolwg Chwaraeon Ysgol Chwaraeon Cymru 2022. Mae'r ddogfen hon yn rhannu'r data yn ôl Cefndir Ethnig, gan dynnu sylw at ffigurau a phatrymau allweddol. 

Rydym wedi strwythuro hyn o amgylch y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru: ‘Cenedl actif lle gall pawb fwynhau chwaraeon gydol oes’. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon, lle mae pawb yn teimlo y gallant gymryd rhan waeth beth fo'u cefndir chwaraeon, mewn tirlun chwaraeon sy'n ymateb i anghenion pobl ar wahanol adegau yn eu bywyd, i greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol.

Cenedl Actif 

Y Weledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru yw creu cenedl actif. Rydym eisiau i gymaint o bobl â phosibl gael eu hysbrydoli i fod yn actif drwy chwaraeon. Mae’r adran hon yn edrych ar gyfranogiad yn ôl amledd, lleoliad a chwaraeon, yn ogystal â gwirfoddoli. 

  • Mae’r cyfranogiad mewn chwaraeon y tu allan i'r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos (Dangosydd Cenedlaethau'r Dyfodol 38) yn amrywio rhwng disgyblion o gefndiroedd ethnig gwahanol. 

Tabl 1: Cyfranogiad mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl cefndir ethnig

Cefndir EthnigCyfranogiad mewn chwaraeon y tu allan i’r cwricwlwm deirgwaith neu fwy yr wythnos
Gwyn 41%
Grŵp ethnig cymysg neu luosog 43%
Asiaidd 30%
Du38%
Grŵp ethnig arall 33%
  • Ar draws pob grŵp ethnig, mae disgyblion yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos nag mewn chwaraeon allgyrsiol. 

Tabl 2: Cyfranogiad mewn chwaraeon unwaith yr wythnos o leiaf mewn gwahanol leoliadau, yn ôl cefndir ethnig

Cefndir EthnigCyfranogiad mewn chwaraeon allgyrsiol unwaith yr wythnos o leiaf Cyfranogiad mewn chwaraeon mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf
Gwyn 40%58%
Grŵp ethnig cymysg neu luosog 42%56%
Asiaidd 35%43%
Du46%49%
Grŵp ethnig arall 37%46%
  • Y prif chwaraeon y mae disgyblion o gefndir ethnig gwyn yn cymryd rhan ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yw pêl droed, nofio a rygbi.
  • Y prif chwaraeon y mae disgyblion o gefndir ethnig cymysg neu luosog yn cymryd rhan ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yw pêl droed, nofio, a rhedeg neu loncian.
  • Y prif chwaraeon y mae disgyblion o gefndir ethnig Asiaidd yn cymryd rhan ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yw pêl droed, nofio a carate.
  • Y prif chwaraeon y mae disgyblion o gefndir ethnig du yn cymryd rhan ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yw pêl droed, nofio a phêl fasged.
  • Y prif chwaraeon y mae disgyblion o unrhyw gefndir ethnig arall yn cymryd rhan ynddynt mewn clwb cymunedol unwaith yr wythnos o leiaf yw pêl droed, nofio a bocsio.
  • Mae 24% o ddisgyblion o gefndir ethnig gwyn, 26% o gefndir ethnig cymysg neu luosog, 19% o gefndir ethnig Asiaidd, 28% o gefndir ethnig du a 23% gydag unrhyw gefndir ethnig arall yn gwirfoddoli neu’n helpu gyda chwaraeon yn yr ysgol neu yn eu cymuned.

 

Pawb

Mae'r Weledigaeth ar gyfer pawb. O bobl nad ydynt yn ystyried eu hunain yn fedrus mewn chwaraeon i bobl sy'n ennill medalau, ar draws yr holl ddemograffeg. Mae'r adran hon yn edrych ar y cyfranogiad o fewn y Partneriaethau Chwaraeon Rhanbarthol. 

Tabl 3: Canran y disgyblion sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, yn ôl cefndir ethnig ac ardal Partneriaeth Chwaraeon Ranbarthol.

 Gwyn Du Asiaidd Grŵp Ethnig Cymysg neu LuosogArall 
Canolbarth y De42%38%30%42%32%
Canolbarth Cymru41%--38%-
Gorllewin Cymru43%40%31%46%29%
Gwent39%38%29%39%38%
Gogledd Cymru40%37%34%47%38%

Gydol Oes

Mae'r Weledigaeth am oes. Mae'n ymateb i anghenion pobl mewn gwahanol gyfnodau yn eu bywyd. Mae'r adran hon yn edrych ar y galw a'r cymhellion / galluogwyr i wneud mwy o chwaraeon.

  • Mae gan 55% o ddisgyblion o gefndir ethnig gwyn, 54% o gefndir ethnig cymysg neu luosog, 65% o gefndir ethnig Asiaidd, 57% o gefndir ethnig du a 62% o unrhyw gefndir ethnig arall alw heb ei fodloni am chwaraeon. 
  • Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith disgyblion o gefndir ethnig gwyn yw nofio, pêl fasged, a beicio.
  • Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith disgyblion o gefndir ethnig cymysg neu luosog yw pêl fasged, nofio a phêl droed.                   
  • Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith disgyblion o gefndir ethnig Asiaidd yw pêl fasged, beicio a badminton.
  • Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith disgyblion o gefndir ethnig du yw pêl fasged, nofio, beicio a phêl droed.
  • Y tair prif gamp y mae galw cudd amdanynt ymhlith disgyblion o unrhyw gefndir ethnig arall yw pêl fasged, nofio a beicio.
  • Mae disgyblion o gefndir ethnig du yn fwy tebygol o feddwl bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach.

 

TROEDNODYN: Mae galw heb ei fodloni yn cyfeirio at y rhai nad ydynt yn cymryd rhan mewn chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos, ond eto maent â galw i wneud mwy o chwaraeon.

Tabl 4: Canran y disgyblion sy’n meddwl bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach, yn ôl cefndir ethnig.

Cefndir EthnigCanran y disgyblion sy’n meddwl bod gwersi AG a chwaraeon yn eu helpu ‘yn fawr’ i gael ffordd o fyw iach
Gwyn 52%
Grŵp ethnig cymysg neu luosog 50%
Asiaidd 50%
Du58%
Grŵp ethnig arall 46%
  • Gofynnodd Arolwg Chwaraeon Ysgol 2022 i ddisgyblion ddewis ymatebion i’r cwestiwn ‘Byddwn yn gwneud mwy o chwaraeon pe bai…’. Y tri phrif ymateb a ddewiswyd gan ddisgyblion o gefndir ethnig gwyn, cymysg neu luosog, Asiaidd, ac unrhyw gefndir ethnig arall oedd ‘Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon yn gweddu i mi’, ‘Pe bai gen i fwy o amser’ a ‘Pe bawn i’n fwy hyderus’. Y tri phrif ymateb a ddewiswyd gan ddisgyblion o gefndir ethnig du oedd ‘Pe bai mwy o gyfleoedd chwaraeon yn gweddu i mi’, ‘Pe bai gen i fwy o amser’ a ‘Pe bai’n haws eu cyrraedd’. 

MWYNHAD Mae’r Weledigaeth yn canolbwyntio ar greu ystod eang o brofiadau cadarnhaol fel bod pawb yn gallu mwynhau chwaraeon. Mae'r adran hon yn edrych ar fwynhad a hyder.

  • Ar draws pob cefndir ethnig, mae disgyblion yn mwynhau AG yn fwy na chwaraeon clwb allgyrsiol a chymunedol.

Tabl 5: Mwynhad o chwaraeon mewn gwahanol leoliadau, yn ôl cefndir ethnig 

Cefndir EthnigMwynhau AG ‘yn fawr’               Mwynhau chwaraeon allgyrsiol ‘yn fawr’         Mwynhau camp mewn clwb cymunedol ‘yn fawr’ 
Gwyn 57%40%49%
Grŵp ethnig cymysg neu luosog 56%40%43%
Asiaidd 53%33%33%
Du64%45%44%
Grŵp ethnig arall 54%35%37%
  • Roedd yr hyder i roi cynnig ar chwaraeon newydd yn amrywio ymhlith y disgyblion o wahanol gefndiroedd ethnig.

Tabl 6: Canran y disgyblion sy’n ‘hyderus iawn’ wrth roi cynnig ar chwaraeon newydd, yn ôl cefndir ethnig.

Cefndir EthnigCanran y disgyblion sy’n ‘hyderus iawn’ wrth roi cynnig ar chwaraeon newydd
Gwyn 27%
Grŵp ethnig cymysg neu luosog 30%
Asiaidd 24%
Du41%
Grŵp ethnig arall 29%
  • Mae disgyblion o gefndir ethnig du yn fwy tebygol o deimlo bod rhywun ‘bob amser’ yn gwrando ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol.

Tabl 7: Canran y disgyblion sy’n teimlo bod rhywun ‘bob amser’ yn gwrando ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol, yn ôl cefndir ethnig. 

Cefndir EthnigCanran y disgyblion sy’n teimlo bod rhywun ‘bob amser’ yn gwrando ar eu syniadau am AG a chwaraeon ysgol
Gwyn 15%
Grŵp ethnig cymysg neu luosog 15%
Asiaidd 13%
Du19%
Grŵp ethnig arall 14%