Skip to main content

Amddifadedd

Mae 67% o’r bobl o’r 30% o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig [ardaloedd mwyaf difreintiedig] wedi cerdded ar gyfer hamdden yn ystod yr wythnos ddiwethaf, sy’n gynnydd o 11 pwynt canran ers mis Ionawr 24.

Ers mis Ionawr 24, mae cyfran y bobl o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig wnaeth gerdded ar gyfer hamdden gyda rhywun arall wedi gostwng yn sylweddol o 46% i 33% ac mae’r rhai yn y 30% o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig [ardaloedd lleiaf difreintiedig] wedi gweld gostyngiad o 13 pwynt canran.

Mae gan 34% o'r rhai sy'n byw mewn ardaloedd o amddifadedd canolig [ardaloedd amddifadedd canolig] hyder i ddefnyddio campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, sy'n ostyngiad o 8 pwynt canran ers mis Ionawr 24.

Mae’r bobl o’r ardaloedd lleiaf difreintiedig wedi gweld cynnydd sylweddol mewn hyder wrth ddefnyddio pyllau nofio, o 43% ym mis Ionawr 24 i 51% ym mis Ebrill 24.

Mae'r bobl o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn sylweddol fwy tebygol o gytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif na'r bobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig - 66% [ardaloedd mwyaf difreintiedig] o gymharu â 70% [ardaloedd amddifadedd canolig] o gymharu â 72% [ardaloedd lleiaf difreintiedig].

Bu gostyngiad o 8 pwynt canran ymhlith y rhai mewn ardaloedd amddifadedd canolig sy’n cytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt, ers mis Ionawr 24. Mae hyn yn sylweddol is na’r bobl o’r ardaloedd mwyaf a lleiaf difreintiedig – 57% o gymharu â 50% o gymharu â 59%.

Mae 72% o’r bobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, sy’n gynnydd o 7 pwynt canran ers mis Ionawr 24. Mae hyn hefyd yn sylweddol uwch na’r bobl o ardaloedd amddifadedd canolig (64%), ac mae 70% o'r bobl o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig yn cytuno.

Mae'r bobl o’r ardaloedd amddifadedd canolig yn sylweddol fwy tebygol o gytuno nad ydynt yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol na'r bobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig - 29% o gymharu â 32% o gymharu â 24%.

Mae 24% o'r bobl o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig a 25% o'r bobl o’r ardaloedd amddifadedd canolig yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, o gymharu â 15% o'r bobl o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.

Mae 58% o’r bobl o’r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd corfforol, sy’n gynnydd o 8 pwynt canran ers mis Ionawr 24.

Mae 61% o'r bobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn cytuno bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol o gymharu â 54% o'r bobl mewn ardaloedd amddifadedd canolig, tra bo 55% o'r bobl yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cytuno.

Mae ychydig llai na hanner (49%) y bobl yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig yn cytuno bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol o ansawdd uchel, mae hyn yn gynnydd o 9 pwynt canran ers mis Ionawr 24 ac yn sylweddol fwy na’r bobl o’r ardaloedd amddifadedd canolig (42%). Mae 46% o'r bobl o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn cytuno.

Darllen Mwy
Oedran
Darllen Mwy
Rhywedd
Darllen Mwy
Anabledd