Skip to main content

Anabledd

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf dywedodd 52% o’r bobl sydd â chyflwr neu salwch meddwl eu bod yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod yr wythnos, sy’n gynnydd o 10 pwynt canran ers mis Ionawr 24.

Mae’r bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn sylweddol fwy tebygol o fod wedi cymryd rhan yn y gweithgareddau canlynol o gymharu â’r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog:

  • Cerdded ar gyfer hamdden – 67% [heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog] o gymharu â 55% [gyda chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog].
  • Rhedeg neu loncian – 19% o gymharu ag 11%
  • Campfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer corff o’r cartref – 19% o gymharu â 11%

Mae 36% o bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog wedi cerdded ar gyfer hamdden gyda rhywun arall - gostyngiad o 15 pwynt canran ers mis Ionawr 24.

Mae 48% o’r bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog wedi cerdded ar gyfer hamdden gyda rhywun arall sy’n ostyngiad o 8 pwynt canran ers mis Ebrill 23.

Mae’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch corfforol yn sylweddol lai tebygol o fod â hyder wrth ddefnyddio campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd na’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch meddwl a’r bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog – 38% [cyflwr iechyd neu salwch meddwl] o gymharu â 24% [cyflwr neu salwch corfforol o gymharu â 43% [heb gyflwr iechyd neu salwch].

Mae 17% o’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol mewn pwll nofio dan do, sy’n ostyngiad o 7 pwynt canran ers mis Ionawr 24.

Dywedodd 30% o’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch meddwl eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis nesaf (o gymharu â 41% ym mis Ionawr 24). Dywedodd 19% o'r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch corfforol eu bod yn debygol (o gymharu â 27% ym mis Ionawr 24) a dywedodd 31% o'r rhai heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yr un peth.

Mae 34% o’r rhai sydd â chyflwr iechyd neu salwch corfforol yn cytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad iddynt, sy’n ostyngiad o 14 pwynt canran ers mis Ionawr 24.

Roedd 34% o’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch corfforol yn cytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif, sy’n gynnydd o 7 pwynt canran ers mis Ionawr 24.

Mae’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn sylweddol fwy tebygol o gytuno nad ydynt yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain o gymharu â’r bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog – 35% [gyda chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog] o gymharu â 27% [heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog].

Mae 38% o’r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch meddwl yn cytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i gymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol, sy’n ostyngiad o 9 pwynt canran ers mis Ionawr 24.

Mae'r bobl heb gyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn sylweddol fwy tebygol o gytuno eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i reoli eu hiechyd corfforol na'r bobl sydd â chyflwr iechyd hirsefydlog – 51% o gymharu â 59%.

Mae'r bobl sydd â chyflwr iechyd neu salwch hirsefydlog yn sylweddol fwy tebygol o roi gwybod am rwystrau sy'n ymwneud â chyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol na'r rhai heb salwch. Fel y gwelir o'r canlynol:

  • Cytuno bod nifer digonol o gyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol – 50% o gymharu â 57%.
  • Cytuno bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol yn eu hardal leol o ansawdd uchel – 39% o gymharu â 48%.
  • Cytuno bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol yn fforddiadwy – 35% o gymharu â 45%.
  • Cytuno eu bod yn gallu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol sy'n apelio atynt – 47% o gymharu â 63%.
Darllen Mwy
Rhywedd
Darllen Mwy
Oedran
Darllen Mwy
Amddifadedd