Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 4 - Anabledd

Cyfwelodd Savanta ComRes 1,004 o oedolion (16+ oed) o Gymru ar-lein rhwng 13eg Awst ac 16eg Awst 2021. Pwysolwyd y data i fod yn gynrychioliadol yn ddemograffig o oedolion Cymru yn ôl rhyw, oedran, rhanbarth, gradd gymdeithasol, a'r amcangyfrif o aelwydydd â phlant o dan 16 oed. Mae Savanta ComRes yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau.

Cyfranogiad

Faint o ymarfer corff

  • Roedd oedolion a chanddynt salwch neu gyflwr corfforol hirsefydlog yn fwy tebygol o beidio â bod wedi gwneud ymarfer corff o gwbl yn ystod yr wythnos ddiwethaf (25%) o gymharu â’r rhai â chyflwr neu salwch iechyd meddwl (15%), neu oedolion heb unrhyw gyflyrau iechyd hirsefydlog (14%)
  • Roedd oedolion a ddywedodd fod ganddynt salwch neu gyflwr iechyd meddwl hirsefydlog yn fwy tebygol o ymarfer corff y rhan fwyaf (5+) o ddyddiau’r wythnos na'r oedolion hynny heb gyflyrau iechyd hirsefydlog (32% o'r rheini â salwch meddwl o gymharu â 29% o'r rhai heb gyflyrau hirsefydlog)
  • Roedd y rhai â salwch neu gyflwr hirsefydlog yn fwy tebygol na'r rhai heb hynny o wneud llai o ymarfer corff yn awr, o gymharu â faint oeddent yn ei wneud cyn y pandemig (34% o'r rhai â chyflwr hirsefydlog, o gymharu â 23% o'r rhai heb gyflwr o’r fath)

Math o ymarfer corff

Cerdded at ddiben hamdden oedd yr unig weithgaredd corfforol lle'r oedd oedolion heb salwch neu gyflwr hirsefydlog yn fwy tebygol o gymryd rhan nag oedolion â salwch neu gyflwr hirsefydlog (62% o oedolion heb gyflwr hirsefydlog o gymharu â 54% o'r rhai â chyflwr hirsefydlog).

Roedd oedolion â salwch neu gyflwr iechyd meddwl yn fwy tebygol na'r rhai heb unrhyw gyflyrau iechyd hirsefydlog i wneud y canlynol:

  • Cerdded at ddiben teithio (38% i 26%)
  • Rhedeg neu loncian (20% i 16%)
  • Beicio (20% i 15%) 
  • Ymarfer corff gartref (26% i 21%)

Gyda phwy oeddent yn ymarfer?

  • Roedd oedolion â salwch neu gyflwr corfforol yn llai tebygol na'r rhai â salwch meddwl, neu'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog, i gerdded at ddiben hamdden gyda rhywun arall (39% o'r rhai â chyflwr corfforol o gymharu â 55% o'r rhai â chyflwr meddyliol, a 54% o'r rhai heb gyflyrau hirsefydlog.
  • Roedd oedolion ag unrhyw salwch neu gyflwr hirsefydlog yn llai tebygol na'r rhai heb hynny i feicio at ddiben hamdden gyda rhywun arall (31% o oedolion â chyflwr hirsefydlog o gymharu â 45% o'r rhai heb gyflwr o’r fath)
  • Roedd oedolion ag unrhyw salwch neu gyflwr hirsefydlog yn fwy tebygol na'r rhai heb hynny i redeg neu loncian gyda rhywun arall (35% o oedolion â chyflwr hirsefydlog o gymharu â 22% o'r rhai heb gyflwr o’r fath)

Gwirfoddoli

  • Roedd oedolion â salwch meddwl hirsefydlog yn fwy tebygol o fod wedi gwirfoddoli yn ystod y 12 mis diwethaf (40%), na'r rhai â chyflwr corfforol hirsefydlog (26%), neu heb gyflwr iechyd hirsefydlog (23%).
  • Oedolion â salwch meddwl hirsefydlog oedd y rhai mwyaf tebygol o wirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf:
  • i gefnogi ymateb i COVID-19 (42%, o gymharu â 36% o'r rhai sydd â chyflwr corfforol, a 35% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog)
  • i gefnogi chwaraeon (40%, o gymharu â 23% o'r rhai sydd â chyflwr corfforol, a 29% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog)
  • i gefnogi achos arall (48%, o gymharu â 31% o'r rhai sydd â chyflwr corfforol, a 34% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog)

Oedolion heb unrhyw gyflyrau iechyd hirsefydlog oedd y rhai mwyaf tebygol o fod heb unrhyw fwriad i wirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf (47%, o gymharu â 31% o'r rhai â chyflwr corfforol, a 38% o'r rhai â chyflwr iechyd meddwl)

Hyder a Sgiliau 

Cyfleusterau

Roedd tuedd gyffredinol mai oedolion â chyflyrau iechyd meddwl hirsefydlog oedd fwyaf hyderus i ddychwelyd i gyfleusterau chwaraeon, ac yna'r rhai heb unrhyw gyflyrau hirsefydlog, gyda'r rhai â chyflyrau corfforol hirsefydlog y lleiaf hyderus, er enghraifft:

  • Campfeydd: Roedd 34% o'r rhai â chyflwr iechyd meddwl, 31% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog, a 22% o'r rhai â chyflwr corfforol, yn teimlo'n hyderus i ddychwelyd
  • Pyllau nofio: Roedd 44% o'r rhai â chyflwr iechyd meddwl, 38% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog, a 31% o'r rhai â chyflwr corfforol, yn teimlo'n hyderus i ddychwelyd
  • Cyrtiau dan do: Roedd 23% o'r rhai â chyflwr iechyd meddwl, 20% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog, a 17% o'r rhai â chyflwr corfforol, yn teimlo'n hyderus i ddychwelyd

Fodd bynnag, nid yw'r duedd hon yr un fath wrth edrych ar yr oedolion hynny sydd wedi ymweld â'r cyfleusterau

  • Campfeydd dan do: Roedd 73% (22) o'r rhai â chyflwr iechyd meddwl, 86% (82) o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog, ac 88% (20) o'r rhai â chyflwr corfforol, yn teimlo'n gyfforddus i ddefnyddio'r cyfleuster
  • Pyllau nofio dan do: Roedd 76% (27) o'r rhai â chyflwr iechyd meddwl, 72% (75) o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog, a 92% (13) o'r rhai â chyflwr corfforol, yn teimlo'n gyfforddus i ddefnyddio'r cyfleuster

Roedd oedolion â chyflwr corfforol hirsefydlog yn llai tebygol o deimlo'n fwy hyderus am gymryd rhan mewn chwaraeon o ganlyniad i'r drefn frechu barhaus (34%) na'r rhai â chyflwr iechyd meddwl hirsefydlog a'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog (48%)

 

Cymhelliant a Gwerthoedd 

Gwerthoedd

  • Mae oedolion ag unrhyw gyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o deimlo ei bod yn bwysig ymarfer corff yn rheolaidd (60%) na'r rhai heb hynny (70%)
  • Nid oedd cysylltiad rhwng bod â chyflwr iechyd hirsefydlog a pha mor debygol oedd rhywun i deimlo'n euog am beidio ag ymarfer (53%), ond mae oedolion â chyflwr iechyd meddwl hirsefydlog yn fwy tebygol o deimlo'n euog am beidio ag ymarfer mwy (60%, o gymharu â 50% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog, a 51% o'r rhai â chyflwr corfforol hirsefydlog).

Cymhelliant

  • Oedolion heb gyflwr hirsefydlog oedd fwyaf tebygol o ddweud mai eu prif reswm dros ymarfer corff yw i fod yn iach yn gorfforol (30%), ac roedd hyn yr un fath ar gyfer y cyflyrau iechyd corfforol hynny (35%)
  • Oedolion â salwch meddwl oedd fwyaf tebygol o ddweud mai eu prif reswm dros ymarfer corff yw er mwyn mynd allan o'r tŷ (24%)
  • Wrth edrych ar y 5 prif reswm, y rhai sydd heb gyflyrau iechyd hirsefydlog sydd dal fwyaf tebygol o ymarfer corff er mwyn bod yn iach yn gorfforol (75%), ond y rhesymau pwysicaf i’r rhai sydd â chyflwr iechyd meddwl yw er mwyn teimlo'n dda (75%), ac i'r rhai sydd â chyflyrau iechyd corfforol, i fynd allan o'r tŷ (68%).

Mynediad (Cyfleoedd ac Adnoddau)

  • Mae oedolion sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o deimlo eu bod yn gallu bod yn gorfforol actif (52%, o gymharu â 79% o oedolion heb gyflwr iechyd hirsefydlog).
  • Mae oedolion sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o deimlo eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif (55%, o gymharu â 76% o oedolion heb gyflwr iechyd hirsefydlog).

Effaith COVID-19

  • Nid oedd cysylltiad rhwng bod â chyflwr iechyd hirsefydlog a pha mor debygol oedd rhywun o fod wedi dod o hyd i ffordd newydd o fod yn actif ers dechrau pandemig COVID-19 (49%)
  • Mae oedolion sydd â chyflwr iechyd hirsefydlog:
  • Yn llai tebygol o deimlo bod ganddynt fwy o amser yn awr i fod yn gorfforol actif (52% i 56% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog)
  • Yn fwy tebygol o golli'r mathau o weithgarwch corfforol y gallent ei wneud cyn COVID-19 (46% o gymharu â 39% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog)

Ymwybyddiaeth

  • Roedd oedolion â chyflwr iechyd hirdymor yn fwy tebygol o fod yn ymwybodol o ymgyrch Nôl yn y Gêm Chwaraeon Cymru (16%, o gymharu â 12% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog)

Y Profiad

  • Mae oedolion sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn llai tebygol o feddwl bod ymarfer corff yn bleserus ac yn foddhaol (52% o gymharu â 64% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog)
  • Mae oedolion sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o gytuno nad ydynt yn mwynhau ymarfer corff ar eu pen eu hunain (42%, o gymharu â 37% o'r rhai heb gyflwr iechyd hirsefydlog).