Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 4 - Awst 2021

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 4 - Awst 2021

Cyfwelodd Savanta ComRes 1,004 o oedolion (16+ oed) o Gymru ar-lein rhwng 13eg Awst ac 16eg Awst 2021. Pwysolwyd y data i fod yn gynrychioliadol yn ddemograffig o oedolion Cymru yn ôl rhyw, oedran, rhanbarth, gradd gymdeithasol, a'r amcangyfrif o aelwydydd â phlant o dan 16 oed.

CANFYDDIADAU ALLWEDDOL

  • Mae’r lefelau gweithgarwch cyffredinol wedi cynyddu ers mis Mawrth 2021 ac mae mwyafrif yr oedolion bellach yn nodi eu bod yn gwneud mwy o weithgarwch na chyn y pandemig. Fodd bynnag, mae oedolion hŷn, y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is a'r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog yn parhau’n fwy tebygol o nodi eu bod yn gwneud llai o weithgarwch nag yr oeddent cyn y pandemig.
  • Mae cyfran yr oedolion yn adrodd ‘dim gweithgarwch’ ar hyn o bryd yn ystod yr wythnos flaenorol yr isaf a welwyd drwy gydol y pandemig. Mae 16% o oedolion yn nodi ‘dim gweithgarwch’ yn ystod yr wythnos flaenorol, o gymharu â 22% ym mis Mai 2020.
  • Mae merched (18%), y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is (22%) a’r rhai 55+ oed (23%) yn fwy tebygol (na’u cymheiriaid) o nodi ‘dim gweithgarwch’ ar hyn o bryd.
  • Mae cyfraddau cyfranogi mewn gweithgareddau yn y cartref wedi gostwng ers mis Mawrth a dyma'r isaf a welwyd drwy gydol y pandemig. Dywedodd 21% o oedolion eu bod wedi gwneud rhyw fath o weithgarwch yn y cartref yn ystod yr wythnos flaenorol (Mai 2020 30%; Hydref 2020 22%; Mawrth; 2021 24%).
  • Bu cynnydd yn y defnydd o gyfleusterau dan do ers mis Hydref 2020 (cyn y cyfnod atal byr). Dywedodd 17% o oedolion eu bod wedi defnyddio campfa dan do neu ganolfan ffitrwydd yn ystod yr wythnos flaenorol (o gymharu â 12% ym mis Hydref 2020), a nododd 15% o oedolion eu bod wedi defnyddio pwll nofio dan do yn ystod yr wythnos flaenorol (o gymharu â 9% ym mis Hydref 2020). Er gwaethaf hyn, nid yw'n ymddangos bod y lefelau a fwriadwyd o weithgarwch ar ôl y cyfnod clo a fynegwyd gan oedolion ym mis Mawrth (Ton 3) wedi dod i'r amlwg yn llawn. Mae'r anghysondeb mwyaf rhwng bwriad a gweithgarwch gwirioneddol yn ymddangos yn achos pyllau nofio a champfeydd / dosbarthiadau ffitrwydd.
  • Mae oedolion yn tueddu i adrodd bod eu plentyn / plant yn gwneud mwy o chwaraeon / gweithgarwch corfforol ar yr amser yma nag y byddent fel rheol cyn i gyfyngiadau COVID-19 gael eu cyflwyno gyntaf ym mis Mawrth 2020. Mae cynnydd nodedig yn y gweithgarwch yn ystod yr wythnos a adroddwyd ers mis Mawrth 2021.
  • Dywedodd 8% o oedolion eu bod wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon yn ystod y deuddeng mis diwethaf. Mae hyn wedi cynyddu o 5% ym mis Mawrth 2021. O blith y 'gwirfoddolwyr chwaraeon' hyn, mae 19% yn parhau i wirfoddoli yn yr un rôl ag yr oeddent cyn cyflwyno cyfyngiadau COVID-19, tra bo 10% wedi stopio / gohirio eu gwirfoddoli oherwydd cyfyngiadau COVID-19. Mae'r olaf wedi lleihau ers Ton 3 lle roedd 24% wedi stopio / gohirio eu gwirfoddoli oherwydd cyfyngiadau COVID-19.
  • Mae 30% o oedolion wedi cael eu hannog i wneud ymarfer corff gan arweiniad y llywodraeth. Mae hyn yn is na'r ganran a welwyd ym mhob cam blaenorol yn y pandemig (Mawrth 37%, 35% Hydref 2020, 43% Mai 2020).
  • Mae 42% o oedolion yn colli'r mathau o weithgarwch yr oeddent yn gallu eu gwneud cyn i'r cyfyngiadau cyntaf gael eu cyflwyno ym mis Mawrth y llynedd. Dyma'r gyfran isaf a welwyd drwy gydol y pandemig hwn (56% Mai 2020, 49% Hydref 2020, 53% Mawrth 2021).
  • Dywed 65% o oedolion eu bod yn gwneud ymarfer corff i reoli eu hiechyd meddwl ar yr amser yma. Mae hyn ychydig yn uwch na'r hyn a adroddwyd ym mhob cam blaenorol yn y pandemig (Mai 2020 62%, Hydref 2020 63%, Mawrth 63%).
  • Parciau yw'r lleoliad o hyd lle mae oedolion yn fwyaf tebygol o deimlo'n hyderus yn cymryd rhan, gyda 66% (o'r ymatebwyr) yn dweud y byddent yn teimlo'n hyderus yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mewn parc.

Am gopi o’r adroddiad llawn e-bostiwch insightteam@sport.wales.