Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 4 - Economaidd-Gymdeithasol

Cyfwelodd Savanta ComRes 1,004 o oedolion (16+ oed) o Gymru ar-lein rhwng 13eg Awst ac 16eg Awst 2021. Pwysolwyd y data i fod yn gynrychioliadol yn ddemograffig o oedolion Cymru yn ôl rhyw, oedran, rhanbarth, gradd gymdeithasol, a'r amcangyfrif o aelwydydd â phlant o dan 16 oed. Mae Savanta ComRes yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau.

Cyfranogiad

  • Roedd y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is ddwywaith yn fwy tebygol na'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch o fod wedi gwneud dim ymarfer yn ystod yr wythnos ddiwethaf (ABC1 – 11% : C2DE – 22%).
  • Mewn cyferbyniad, roedd plant o deuluoedd incwm is yn fwy tebygol o wneud y lefel o ymarfer corff a argymhellir y dydd ar gyfer plant (awr neu fwy) bob diwrnod o'r wythnos (ABC1 – 17% : C2DE – 23%), er bod y gwrthwyneb yn wir am ddyddiau’r penwythnos.
  • Ym mhob camp a arolygwyd, bu gostyngiad yng nghyfranogiad rheolaidd y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is o gymharu â chyn y pandemig.
  • Nid yw'r un peth yn wir am y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch, er bod tuedd gyffredinol o gyfranogiad is o hyd.

Mathau o ymarfer corff

Roedd oedolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o fod wedi cymryd rhan yn y rhan fwyaf o'r chwaraeon a arolygwyd, gan gynnwys

  • Rhedeg neu loncian (ABC1 – 21% : C2DE – 11%)
  • Mynd i gampfa (ABC1 – 16% : C2DE – 8%) 
  • Beicio ar gyfer hamdden (ABC1 – 15% : C2DE – 10%)
  • Yr unig gamp lle'r oedd y rhai o gefndir economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o fod wedi cymryd rhan yn ystod yr wythnos ddiwethaf oedd cerdded ar gyfer teithio (ABC1 – 26% : C2DE – 28%), er bod y gwahaniaeth yn ddibwys.
  • Y gweithgaredd mwyaf poblogaidd ar draws y ddau grŵp economaidd-gymdeithasol oedd cerdded ar gyfer hamdden (ABC1 – 62% : C2DE – 56%). Er bod y rhai o gefndir economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o fod wedi cerdded ar gyfer hamdden yn ystod yr wythnos ddiwethaf, o blith y rhai oedd wedi ymarfer o gwbl yn ystod yr wythnos ddiwethaf, roedd y rhai o gefndir economaidd-gymdeithasol is yn fwy tebygol o fod wedi cerdded ar gyfer hamdden ar y mwyafrif (5 +) o ddyddiau(ABC1 – 29% : C2DE – 35%).

Gwirfoddoli 

Roedd y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o fod wedi gwirfoddoli yn ystod y 12 mis diwethaf (ABC1 – 33% : C2DE – 29%).Maent hefyd yn llai tebygol o ymgymryd â rôl wirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf i:

  • Cefnogi'r ymateb i’r pandemig (ABC1 –44% : C2DE – 29%)
  • Cefnogi achos arall (ABC1 – 43% : C2DE – 28%).
  • Roedd llai o wahaniaeth yn y tebygolrwydd o ymgymryd â rôl wirfoddoli newydd i gefnogi chwaraeon (ABC1 – 31% : C2DE – 27%).

Hyder a sgiliau

Roedd y rhai o gefndir economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy hyderus nag oedolion o gefndir economaidd-gymdeithasol is wrth ddefnyddio pob cyfleuster chwaraeon a arolygwyd, ar draws cyfleusterau dan do ac awyr agored, gan gynnwys:

  • Traciau athletau (ABC1 – 28% : C2DE – 14%).
  • Stiwdios (ABC1 – 29% : C2DE – 17%).
  • Neuaddau chwaraeon (ABC1 – 30% : C2DE – 18%).
  • Cyrtiau dan do (ABC1 – 28% : C2DE – 17%).

 

  • I gyfateb, roedd y rhai mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o fod wedi cymryd rhan mewn camp dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf (ABC1 – 38% : C2DE – 26%).
  • O blith y rhai a ddefnyddiodd leoliadau dan do, roedd lefel uchel o gyfforddusrwydd ar y cyfan: roedd 88% o'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch yn teimlo'n gyfforddus mewn campfeydd dan do, fel yr oedd 81% o'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
  • Helpodd yr ymdrech frechu barhaus i fwy na hanner yr oedolion o grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch deimlo'n fwy hyderus wrth ymarfer oddi cartref (ABC1 - 51%), ond dim ond 40% o'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is oedd yn teimlo'n dawel eu meddwl.

Cymhelliant a Gwerthoedd 

Gwerthoedd

Roedd y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is:

  • Yn llai tebygol o ystyried ei bod yn bwysig ymarfer yn rheolaidd (ABC1 – 71% : C2DE - 61%).
  • Yn llai tebygol o golli'r gweithgarwch corfforol roeddent yn ei wneud cyn y pandemig (ABC1 – 47% CDE 37%)
  • Yn llai tebygol o deimlo'n euog pan nad ydynt yn gwneud ymarfer corff (ABC1 – 60% : C2DE – 48%).
  • Yn llai tebygol o deimlo'n euog am beidio ag ymarfer mwy (ABC1 – 58%; C2DE – 46%)

Cymhelliant 

Roedd y rhesymau dros ymarfer hefyd yn wahanol rhwng cefndiroedd economaidd-gymdeithasol. Roedd y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is:

  • Yn llai tebygol o wneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd corfforol (ABC1 – 74%; C2DE – 65%)
  • Yn llai tebygol o wneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl (ABC1 – 70%; C2DE - 61%)
  • Roedd y ddau grŵp economaidd-gymdeithasol yn fwyaf tebygol o ddweud mai eu prif reswm dros ymarfer corff oedd bod yn iach yn gorfforol (ABC1 – 31%; C2DE – 27%)

Mynediad (Cyfleoedd ac Adnoddau)

  • Ar draws grwpiau economaidd-gymdeithasol, roedd mwy na hanner yr ymatebwyr yn teimlo bod ganddynt fwy o amser bellach i fod yn actif yn gorfforol, o gymharu â chyn y pandemig (ABC1 – 54% : C2DE – 55%).
  • Er gwaethaf hyn, roedd y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o deimlo bod ganddynt y gallu i fod yn actif yn gorfforol (ABC1 –76%: C2DE - 63%), ac yn llai tebygol o deimlo eu bod yn cael cyfle i fod yn actif yn gorfforol (ABC1 - 73%: C2DE - 64%).
  • Efallai mai un ffactor yw bod oedolion o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is ddwywaith yn fwy tebygol o nodi nad oeddent yn ddigon da i wneud ymarfer corff y diwrnod hwnnw (ABC1 – 8% : C2DE – 16%), a bron ddwywaith yn fwy tebygol o nodi cyflwr iechyd corfforol hirsefydlog neu salwch (ABC1 – 15% : C2DE – 27%).

Ymwybyddiaeth 

  • Roedd y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o deimlo bod yr arweiniad ar gymryd rhan mewn chwaraeon yn hawdd ei ddeall (ABC1 - 52%: C2DE - 41%).
  • Roedd yr ymwybyddiaeth o ymgyrch Nôl yn y Gêm Chwaraeon Cymru yn gymharol debyg ar draws y ddau grŵp, gyda 79% o’r rhai mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol uwch ac 80% o’r rhai mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol is heb glywed am yr ymgyrch.

Y Profiad

  • Roedd oedolion o gefndir economaidd-gymdeithasol uwch yn fwy tebygol o deimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad (ABC1 – 67% : C2DE – 53%).