Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 4 - Oedran

Cyfranogiad 

Pa mor aml?

  • Roedd oedolion hŷn (55+) tua dwywaith yn fwy tebygol o nodi nad oeddent wedi gwneud unrhyw ymarfer corff yn ystod yr wythnos ddiwethaf, o gymharu â'r rhai mewn grwpiau oedran iau (23% o oedolion 55 oed neu hŷn, o gymharu â 12% o'r rhai 35-54 oed, ac 11% o'r rhai 16-34 oed).
  • Roedd oedolion hŷn yn llai tebygol o nodi eu bod yn gwneud mwy o ymarfer corff mewn wythnos o gymharu â chyn y pandemig, tra oedd oedolion rhwng 16 a 34 oed yn fwy tebygol o nodi cynnydd mewn ymarfer corff yn ystod yr amser yma (20% o oedolion 55+ oed, o gymharu â 32% o bobl 35-54 oed, a 37% o'r rhai 16-34 oed).

Pa fath o ymarfer?

Roedd oedolion iau (16-34) yn llai tebygol nag unigolion hŷn o fod wedi cerdded er diben hamdden yn ystod yr wythnos ddiwethaf (46% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 65% o'r rhai 35-54 oed a 63% o bobl 55+ oed) .

  • Roedd oedolion hŷn yn fwy tebygol na grwpiau oedran eraill o gerdded er diben hamdden ar y rhan fwyaf (5+) o ddyddiau (38% o bobl 55+ oed, o gymharu â 29% o'r rhai 35-54 oed a 23% o 55+ oed).
  • Fodd bynnag, roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi cerdded i deithio (33% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 27% o'r rhai 35-54 oed a 23% o’r rhai 55+ oed),
  • Roedd cydberthynas rhwng oedran iau a mwy o debygolrwydd o fod wedi rhedeg neu loncian yn ystod yr wythnos ddiwethaf (27% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 17% o'r rhai 35-54 oed a 7% o unigolion 55+ oed).
  • Roedd oedolion iau (16-34) yn llawer mwy tebygol o fod wedi bod yn y gampfa yn ystod yr wythnos ddiwethaf (21% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 12% o'r rhai 35-54 oed a 5% o 55+ oed).

Gyda phwy?

  • Roedd pobl rhwng 35 a 54 oed yn llai tebygol na grwpiau oedran eraill o gerdded i deithio gyda pherson arall (26% o bobl 35-54 oed, o gymharu â 45% o'r rhai 16-34 oed a 39% o bobl 55+ oed), tra oedd oedolion hŷn (55+) yn llai tebygol o gerdded er diben hamdden gyda pherson arall o gymharu â grwpiau oedran iau (40% o bobl 55+ oed o gymharu â 60% o'r rhai 35-54 oed a 65% o oedolion 16-34 oed) .

Gwirfoddoli

  • Roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi gwirfoddoli yn ystod y 12 mis diwethaf nag unigolion hŷn (43% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 26% o'r rhai 35-54 oed, ac 16% o'r rhai 55+ oed)

Roedd oedolion iau hefyd yn fwy tebygol o fwriadu gwirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf, er mwyn cefnogi:

  • Yr ymateb i COVID-19: 48% o’r rhai 16-34 oed, 35% o’r rhai 35-54 oed a 28% o’r rhai dros 55 oed
  • Chwaraeon: 46% o’r rhai 16-34 oed, 36% o’r rhai 35-54 oed a 15% o’r rhai dros 55 oed
  • Achos arall: 52% o’r rhai 16-34 oed, 34% o’r rhai 35-54 oed a 24% o’r rhai dros 55 oed

Hyder a Sgiliau 

Cyfleusterau

  • Roedd cydberthynas nodedig rhwng oedran hŷn a llai o hyder wrth ddefnyddio cyfleusterau chwaraeon.

Ni effeithiwyd ar y berthynas hon gan a oedd cyfleuster dan do neu yn yr awyr agored, gan awgrymu nad yw llai o hyder ymhlith oedolion hŷn yn gysylltiedig â risg COVID-19.

Er enghraifft:

  • Caeau Artiffisial (38% o 16-34, 29% o 35-54, 11% o 55+)
  • Campfeydd (45% o 16-34, 33% o 35-54, 16% o 55+)
  • Cyrtiau awyr agored (48% o 16-34, 32% o 35-54, 16% o 55+)
  • Neuaddau chwaraeon (38% o 16-34, 26% o 35-54, 13% o 55+)
  • Traciau athletau (32% o 16-34, 30% o 35-54, 8% o 55+)
  • Adlewyrchir yr hyder isel ymhlith oedolion hŷn yn eu cyfranogiad isel mewn gweithgarwch corfforol dan do (17% o oedolion 55 oed neu hŷn, o gymharu â 30% o'r rhai 35-54 oed, a 54% o'r rhai 16-34 oed).
  • Roedd oedolion hŷn hefyd yn llai tebygol o deimlo'n fwy hyderus wrth gymryd rhan mewn chwaraeon o ganlyniad i'r rhaglen frechu COVID-19 barhaus, gan awgrymu ymhellach bod ffactorau ar wahân i risg COVID-19 yn dylanwadu ar hyder isel (39% o oedolion 55 oed neu hŷn, o gymharu â 49% o'r rhai 35-54 oed, a 54% o'r rhai 16-34 oed).
  • Er gwaethaf hyn, roedd oedolion iau yn fwy tebygol o gytuno eu bod yn poeni am adael eu cartref i wneud ymarfer corff (47% o oedolion 16-34 oed, o gymharu â 29% o'r rhai 35-54 oed, a 26% o'r rhai 55+ oed).

O blith y rhai a fynychodd gyfleusterau chwaraeon dan do, roedd oedolion hŷn yn fwy tebygol o deimlo'n gyfforddus:

  • Pyllau nofio dan do: 93% o oedolion 55 oed neu hŷn, o gymharu ag 88% o'r rhai 35-54 oed, ac 82% o'r rhai rhwng 16 a 34 oed.
  • Campfeydd dan do: 87% o oedolion 55 oed neu hŷn, o gymharu ag 85% o'r rhai 35-54 oed, ac 86% o'r rhai 16-34 oed.

Cymhelliant a Gwerthoedd 

Cymhelliant

  • Roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod wedi cael eu hannog i wneud ymarfer corff gan arweiniad y llywodraeth (43% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 26% o'r rhai 35-54 oed a 25% o oedolion 55+ oed).
  • Roedd oedolion hŷn yn llai tebygol o wneud ymarfer corff er mwyn rheoli eu hiechyd meddwl na grwpiau oedran iau (58% o bobl 55+ oed o gymharu â 70% o'r rhai 35-54 oed a 71% o oedolion 16-34 oed).
  • Ar gyfer pob grŵp oedran, ‘i fod yn iach yn gorfforol’ oedd y prif reswm mwyaf poblogaidd dros gymryd rhan mewn ymarfer corff (37% o 55+, 28% o 35-54, 20% 16-34).

Gwerthoedd

  • Roedd oedolion hŷn yn llai tebygol o deimlo ei bod yn bwysig ymarfer yn rheolaidd (63% o bobl 55+ oed, o gymharu â 69% o'r rhai 35-54 oed a 67% o oedolion 16-34 oed).
  • Roedd oedolion hŷn hefyd yn llai tebygol o deimlo ei bod yn bwysicach ymarfer corff yn ystod y pandemig parhaus nag amseroedd eraill (57% o bobl 55+ oed, o gymharu â 66% o'r rhai 35-54 oed a 65% o oedolion 16-34 oed).
  • Roedd oedolion iau yn fwy tebygol o deimlo'n euog pan nad oeddent yn gwneud ymarfer corff (58% o oedolion 16-34 oed, o gymharu â 51% o'r rhai 55+ oed)
  • Roeddent hefyd yn fwy tebygol o deimlo'n euog am beidio ag ymarfer mwy (63% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 51% o'r rhai 35-54 oed a 45% o oedolion 55+ oed).
  • Roedd oedolion iau bron ddwywaith yn fwy tebygol na'r rhai 35-54 oed, a mwy na theirgwaith yn fwy tebygol na'r rhai dros 55 oed, o deimlo'n euog am fod eisiau ymarfer corff ar yr amser yma (33% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 17% o'r rhai 35-54 oed a 9% o oedolion 55+ oed).

Mynediad (Cyfleoedd ac Adnoddau)

  • Roedd oedolion hŷn (55+) yn llai tebygol o deimlo bod ganddyn nhw'r gallu i fod yn actif yn gorfforol (67% o bobl 55+ oed, o gymharu â 71% o'r rhai 35-54 a 16-34 oed).
  • Fodd bynnag, roedd pob grŵp oedran yr un mor debygol o deimlo eu bod yn cael cyfle i fod yn actif yn gorfforol (71% o oedolion 35-54 oed, a 68% o oedolion 16-34 a 55+ oed)

Effaith COVID-19             

  • Oedolion hŷn oedd y lleiaf tebygol o fod wedi dod o hyd i ffyrdd newydd o fod yn actif ers cyflwyno cyfyngiadau COVID-19 (43% o bobl 55+ oed, o gymharu â 51% o'r rhai rhwng 35 a 54 oed a 55% o oedolion 16-34 oed).
  • Roedd oedolion rhwng 35 a 54 oed yn llai tebygol o deimlo bod ganddyn nhw fwy o amser nawr i fod yn actif yn gorfforol (46% o bobl 35-54 oed, o gymharu â 60% o'r rhai 16-34 oed a 56% o oedolion 16-34 oed).
  • Roedd oedolion iau yn fwy tebygol o golli'r mathau o weithgarwch corfforol y gallent ei wneud cyn cyfyngiadau COVID-19 (54% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 39% o'r rhai 35-54 oed a 34% o oedolion 55+ oed).

 

Ymwybyddiaeth 

  • Roedd cydberthynas rhwng oedran iau a gwell dealltwriaeth o ganllawiau'r llywodraeth ar gymryd rhan mewn chwaraeon (57% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 49% o'r rhai 35-54 oed a 37% o oedolion 55+ oed).
  • Roedd oedolion iau yn fwy tebygol o fod yn ymwybodol o ymgyrch ‘Nôl yn y Gêm’ Chwaraeon Cymru (20% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 14% o’r rhai 35-54 oed ac 8% o oedolion 55+ oed).

 

Y Profiad 

  • Roedd oedolion iau yn fwy tebygol o deimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad (64 % o bobl 16-34 oed, o gymharu â 59% o'r rhai 35-54 oed a 64% o oedolion 55+ oed).
  • Roeddent hefyd yn fwy tebygol o gytuno nad ydynt yn teimlo bod ymarfer corff ar eu pen eu hunain yn bleserus (46% o bobl 16-34 oed, o gymharu â 35% o'r rhai 35-54 oed a 38% o oedolion 55+ oed).