Skip to main content

Oedran

Cenedl Actif (cyfranogiad a math o weithgaredd):

  • Oedolion hŷn (55+) oedd fwyaf tebygol o fod wedi gwneud 0 diwrnod o 30+ munud o weithgarwch corfforol o gymharu â’r grwpiau oedran eraill:
    • 16 i 34 – 9%
    • 35 i 54 – 16%
    • 55+ - 24%
  • Oedolion iau (16 i 34) oedd y grŵp oedran mwyaf tebygol o fod wedi gwneud 2 i 4 diwrnod o 30+ munud o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf, ac oedolion hŷn oedd y lleiaf tebygol:
    • 16 i 34 – 58%
    • 35 i 54 – 51%
    • 55+ - 40%
  • Fodd bynnag, adroddodd mwy na chwarter yr oedolion hŷn am 5+ diwrnod o weithgarwch corfforol, sy’n gymharol uwch na’r ddau grŵp oedran arall:
    • 16 i 34 – 23%
    • 35 i 54 – 23%
    • 55+ - 26%
  • Cerdded er mwyn hamddena oedd y gweithgaredd corfforol mwyaf poblogaidd ar gyfer pob grŵp:
    • 16 i 34 – 48%
    • 35 i 54 – 63%
    • 55+ - 62%
  • Roedd oedolion iau yn fwyaf tebygol o gerdded i hamddena gyda rhywun (59%), o gymharu â phobl 35 i 54 oed (56%) ac oedolion hŷn (40%).
  • Roedd oedolion iau hefyd yn fwy tebygol o gerdded i deithio gyda rhywun arall (44%), o gymharu â phobl 35 i 54 oed (34%) ac oedolion hŷn (23%).
    • Ers mis Ionawr 2023, mae cerdded er mwyn teithio wedi cynyddu ar gyfer oedolion iau (3 phwynt canran) a phobl 35 i 54 oed (6 phwynt canran) ond wedi gostwng ychydig ar gyfer oedolion hŷn (o 1 pwynt canran).
  • Roedd gweithgaredd yn y cartref yn fwyaf aml ar gyfer y grŵp 16 i 34 oed gyda 21% yn dweud eu bod wedi gwneud hynny yn ystod yr wythnos ddiwethaf, tra bo 18% o'r grŵp 35 i 54 oed wedi dweud eu bod wedi gwneud hynny ac roedd yn lleiaf aml ymhlith y bobl 55+ oed gyda 14% o'r grŵp wedi dweud eu bod wedi gwneud gweithgaredd yn y cartref.
  • Roedd oedolion iau wedi gwneud mwy o redeg neu loncian yn ystod yr wythnos ddiwethaf nag unrhyw grŵp oedran arall. Roedd 31% o bobl 16 i 34 oed wedi rhedeg neu loncian tra bo 16% o bobl 35 i 54 oed wedi gwneud hynny a 7% o oedolion hŷn wedi gwneud hynny.
  • Roedd oedolion iau 4 gwaith yn fwy tebygol o wneud chwaraeon tîm (9%) nag oedolion hŷn (2%). Cymerodd 6% o bobl 35 i 54 oed ran mewn chwaraeon tîm yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
  • Ar wahân i gerdded, gweithgareddau yn y cartref oedd y gweithgaredd mwyaf poblogaidd ar gyfer pobl 25 i 54 oed ac oedolion hŷn, a rhedeg neu loncian oedd y mwyaf poblogaidd ymhlith pobl 16 i 34 oed.
  • Oedolion iau oedd fwyaf tebygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â'r grwpiau oedran eraill. Roedd ychydig llai na hanner yn debygol o wirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, tra bo llai nag 1 o bob 5 o’r oedolion hŷn yn debygol o wirfoddoli:

Pawb (cynhwysiant):

  • Mae’r cynnydd mewn costau byw wedi effeithio’n negyddol ar allu oedolion iau i wneud chwaraeon yn fwy nag unrhyw grŵp oedran arall. Dywedodd 47% o bobl 16 i 34 oed bod y cynnydd yn cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn gorfforol actif, o gymharu â 46% o bobl 35 i 54 oed a 26% o oedolion hŷn.
  • Roedd oedolion iau yn fwyaf tebygol o fod wedi cymryd rhan yn barod neu wedi dechrau cymryd rhan mewn llai o weithgarwch corfforol oherwydd y cynnydd mewn costau byw:
    • 16 i 34 – 22%
    • 35 i 54 – 16%
    • 55+ - 7%
  • Oedolion iau (47%) oedd fwyaf tebygol o gytuno bod y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol yn fforddiadwy, tra bo oedolion hŷn yn lleiaf tebygol o gytuno (35%).
  • Er bod mwy na hanner yr holl grwpiau wedi nodi eu bod yn gallu cyrraedd y cyfleusterau lleol oedd yn apelio atynt, oedolion iau oedd fwyaf tebygol o allu cael mynediad i gyfleusterau lleol (61%). Yn y cyfamser, dywedodd 60% o bobl 35 i 54 oed a 55% o oedolion hŷn eu bod yn gallu defnyddio cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol.

Gydol Oes (cymhelliant a galw):

  • Roedd oedolion iau yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn cael cyfle i fod yn gorfforol actif o gymharu â’r grwpiau oedran eraill:
    • 16 i 34 – 74%
    • 35 i 54 – 73%
    • 55+ - 68%
  • Pobl 35 i 54 oed oedd yn teimlo fwyaf ei bod yn bwysig iddynt ymarfer yn rheolaidd gan fod 72% yn cytuno ei fod yn bwysig, tra bo 67% o oedolion iau a hŷn yn credu ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd.
  • Cytunai 81% o oedolion iau bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif – y mwyaf o unrhyw gategori oedran. O gymharu, cytunai 76% o bobl 35 i 54 oed a 64% o oedolion hŷn bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif.
  • Roedd oedolion iau yn fwy tebygol o ddweud nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif (48%), o gymharu â phobl 35 i 54 oed (36%) ac oedolion hŷn (21%).
  • Cytunai 65% o'r grŵp oedran 35 i 54 eu bod yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd meddwl – y mwyaf allan o bob categori oedran – o gymharu â 61% o oedolion iau a 50% o oedolion hŷn.
    • Ers mis Ionawr 2023, bu gostyngiad mawr yn nifer yr oedolion hŷn sy’n dweud eu bod yn gorfforol actif i helpu i reoli eu hiechyd meddwl (9 pwynt canran), o gymharu â chynnydd bychan ar gyfer y grŵp 35 i 54 oed (2 bwynt canran). Mae'r ffigwr ar gyfer oedolion iau wedi aros yr un fath.

Mwynhad (hyder a mwynhad):

  • Y rhai yn y grŵp oedran 35 i 54 oedd fwyaf tebygol o fod â'r hyder i fod yn gorfforol actif (64%), ac oedolion hŷn oedd y lleiaf tebygol o fod â'r hyder i fod yn gorfforol actif (58%).
  • Oedolion hŷn oedd y lleiaf tebygol o weld ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad (54%), a phobl 35 i 54 oed oedd fwyaf tebygol o deimlo ei fod yn bleserus ac yn rhoi boddhad (67%).
  • Pobl 35 i 54 oed oedd leiaf tebygol o gytuno nad ydynt yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain:
    • 16 i 34 – 32%
    • 35 i 54 – 26%
    • 55+ - 32%
  • Mae mwy na hanner yr holl grwpiau yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd corfforol, fodd bynnag, oedolion iau oedd y lleiaf tebygol (53%), a'r rhai 35 i 54 oed oedd fwyaf tebygol (56%) o wneud hynny. 
  • Nododd pob oedolyn ‘i fod yn gorfforol iach’ fel eu prif gymhelliant i fod yn gorfforol actif, fodd bynnag, oedolion hŷn oedd fwyaf tebygol o nodi’r rheswm hwn (80%)
  • Roedd pobl iau yn fwy tebygol o fod yn hyderus ynghylch cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol yn y lleoliadau penodol canlynol a arolygwyd:
    • Caeau glaswellt (16 i 34 – 40%; 35 i 54 – 39%; 55+ - 19%)
    • Campfa / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (16 i 34 – 55%; 35 i 54 – 46%; 55+ - 25%)
    • Pyllau nofio (16 i 34 – 60%; 35 i 54 – 52%; 55+ - 41%)
    • Stiwdios (16 i 34 – 38%; 35 i 54 – 34%; 55+ - 22%)
  • Fodd bynnag, oedolion iau oedd leiaf tebygol o fod yn gyfforddus yn defnyddio'r cyfleusterau yn y lleoliadau canlynol:
    • Campfeydd dan do neu ganolfannau ffitrwydd (16 i 34 - 83%; 35 i 54 - 94%; 55+ - 98%)
    • Pyllau nofio dan do (16 i 34 – 80%; 35 i 54 – 91%; 55+ - 97%)
    • Caeau glaswellt / artiffisial dan do (16 i 34 – 72%; 35 i 54 – 86%; 55+ - 79%)
    • Cyrtiau dan do (16 i 34 – 67%; 35 i 54 – 80%; 55+ - 86%)