Skip to main content

Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 8 - Ebrill 2023

  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Traciwr Gweithgareddau Cymru
  4. Arolwg Traciwr Gweithgareddau Cymru 8 - Ebrill 2023

Cyfwelodd Savanta 1,049 o ymatebwyr 16+ oed ar-lein rhwng 21ain Ebrill a 24ain Ebrill 2023. Mae Savanta yn aelod o Gyngor Pleidleisio Prydain ac yn cadw at ei reolau. Roedd yr holl gyfranogwyr yn dod o Gymru ac mae data'r wedi’u pwysoli i fod yn gynrychioliadol o boblogaeth Cymru yn ôl oedran, rhywedd, rhanbarth a statws economaidd-gymdeithasol. 

Crynodeb gweithredol 

  • Mae mwy o oedolion Cymru yn actif eleni, gydag ychydig llai na hanner oedolion Cymru yn gwneud rhywfaint o weithgarwch corfforol (2 i 4 diwrnod yr wythnos). Mae hyn yn gyson â mis Chwefror 23 ond yn sylweddol uwch na’r adeg yma y llynedd (Mai 22), ac mae nifer y bobl sy’n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (24%) wedi cynyddu ers mis Chwefror 23 hefyd.
  • Y gweithgaredd mwyaf cyffredin o hyd a wneir gan oedolion Cymru yw cerdded, tra bo cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi mynd i'r gampfa, neu ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer yn rheolaidd, yn parhau i gynyddu ers mis Chwefror 22.
  • Dywed ychydig o dan dri o bob pump o oedolion Cymru eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl, sy'n parhau i fod yn sylweddol uwch na'r adeg yma y llynedd (Mai 22). Fodd bynnag, mae’r gyfran sy’n dweud eu bod yn gwneud hynny i helpu i reoli eu hiechyd corfforol wedi gostwng ers mis Chwefror 23.
  • Mae oedolion Cymru yn fwy tebygol o deimlo bod ganddynt y cyfle a'r gallu i fod yn actif o gymharu â'r adeg yma y llynedd (Mai 22), er bod gwell mynediad a hyder yn parhau i fod yn gyson gryfach ymhlith ymatebwyr gwrywaidd na benywaidd.
  • Yn yr un modd, mae hyder i fynychu cyfleusterau dan do yn parhau i wella ar ôl y pandemig. Mae pobl yn fwy tebygol na’r adeg yma y llynedd (Mai 22) o ddweud eu bod yn hyderus i ymweld â champfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd, pyllau nofio a stiwdios.
  • Fodd bynnag, mae hyder i fynychu campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd a phyllau nofio wedi gostwng serch hynny o gymharu â mis Chwefror 23, ac yn parhau i fod yn isel yn gyffredinol. Mae'r duedd hon eto'n cael ei sbarduno'n bennaf gan ymatebwyr benywaidd, yn ogystal â'r rhai sy'n hŷn.
  • Tra bo costau byw cynyddol hefyd yn parhau i gael effaith negyddol ar weithgarwch dau o bob pump o oedolion Cymru, mae arwyddion bod pobl efallai, bellach, yn addasu'r gweithgareddau maent yn dewis eu gwneud. Er enghraifft, mae mwy na chwarter yr ymatebwyr bellach yn dweud nad yw / na fydd costau byw cynyddol yn cael unrhyw effaith ar eu dewisiadau o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol, cynnydd ers mis Chwefror 23.

 

Lefelau gweithgarwch

Diffinnir gweithgarwch corfforol fel cyfanswm o 30 munud neu fwy o ymarfer corff sy’n ddigon i gynyddu cyfradd anadlu.

  • Gwnaeth y mwyafrif o oedolion Cymru weithgarwch corfforol ar 2 i 4 diwrnod (49%), sy'n unol â mis Chwefror 23 (46%) ond yn gynnydd sylweddol ers mis Mai 22 (41%).
  • Mae'r gyfran na wnaeth ymarfer corff wedi gostwng ers mis Mai 22 (18% o gymharu â 24%).
  • Mae nifer y bobl sy’n gwneud gweithgarwch corfforol ar 5+ diwrnod (24%) wedi cynyddu ers mis Chwefror 23 (19%).
  • Mae ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol nag ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed o fod heb wneud unrhyw weithgarwch corfforol (24% o gymharu â 9% o gymharu ag 16%).
  • Mae ymatebwyr gwrywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr benywaidd o fod wedi gwneud 5+ diwrnod o weithgarwch corfforol (27% o gymharu â 22%).

 

Math ac amledd y gweithgarwch

  • Y gweithgareddau mwyaf cyffredin a wnaed gan yr ymatebwyr yn ystod yr wythnos cyn cyfnod yr arolwg oedd cerdded er diben hamdden (58%), cerdded i deithio (26%) a rhedeg neu loncian (17%).
  • Dywedodd ychydig dros dri o bob pump o ymatebwyr eu bod wedi cerdded naill ai er diben hamdden neu i deithio yn rheolaidd (unwaith y mis o leiaf) yn ystod y tri mis diwethaf (64%), tra bo un o bob pump yn dweud eu bod wedi mynd i’r gampfa, neu i ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer (25%) a 18% wedi gwneud gweithgaredd gartref, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer heb ei wylio ar-lein nac ar y teledu, DVD neu fideo.
  • Dywed mwy nag un o bob deg (13%) nad ydynt wedi gwneud unrhyw weithgarwch corfforol rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf.
  • Mae cyfran yr ymatebwyr a ddywedodd eu bod wedi mynd i'r gampfa neu ddosbarth ffitrwydd neu ymarfer yn rheolaidd yn parhau i gynyddu ers mis Chwefror 22 (18% o gymharu â 25%).
  • Mae ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol nag ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed o ddweud nad ydynt wedi gwneud unrhyw ymarfer corff rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf (18% o gymharu â 7% o gymharu ag 11%), ac felly hefyd yr ymatebwyr benywaidd (15% o gymharu â 10%).

 

Rhesymau dros gymryd rhan 

  • Dywed ychydig o dan dri o bob pump (58%) eu bod yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl, sy’n parhau’n sylweddol uwch na mis Mai 22 (53%). Mae mwy na hanner (55%) yn dweud eu bod yn gwneud hynny i helpu i reoli eu hiechyd corfforol, gostyngiad ers mis Chwefror 23 (59%).
  • O blith y rhai sydd wedi gwneud gweithgarwch corfforol yn rheolaidd yn ystod y tri mis diwethaf, mae tri o bob pump o’r ymatebwyr (59%) yn nodi bod yn gorfforol iach fel eu prif reswm dros gymryd rhan, tra bo un o bob pump (17%) yn dweud mai teimlo’n dda yw eu prif reswm.
  • Mae ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol nag ymatebwyr 16 i 34 a 35 i 54 oed o nodi bod yn gorfforol iach fel eu prif reswm. (67% o gymharu â 51% o gymharu â 57%), ac mae pobl 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol na phobl 55+ oed o nodi teimlo’n dda fel eu prif reswm (20% o gymharu ag 20% o gymharu ag 11%).
  • Mae tri o bob pump (60%) o ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif, sy'n parhau i fod yn sylweddol uwch na mis Mai 22 (55%).

 

Cyfle a gallu        

  • Mae saith o bob deg (72%) o ymatebwyr yn cytuno bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif, sy'n parhau i fod yn sylweddol uwch na mis Mai 22 (64%).
  • Mae saith o bob deg (71%) o ymatebwyr yn cytuno eu bod yn cael y cyfle i fod yn gorfforol actif, sy’n parhau i gynyddu o 65% ym mis Mai 22.

Agweddau at weithgarwch 

Y gallu i fwynhau, pwysigrwydd a hyder 

  • Mae tri o bob pump (60%) o ymatebwyr yn cytuno eu bod yn teimlo bod ymarfer corff yn bleserus ac yn rhoi boddhad, cynnydd sylweddol ers mis Awst 22 (55%).
  • Mae dwy ran o dair (68%) o ymatebwyr yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, cynnydd sylweddol ers mis Awst 22 (64%).

 

Hyder mewn lleoliad 

  • Mae hyder mewn lleoliadau dan do wedi gweld gostyngiad ers mis Chwefror 23, yn arwyddocaol felly mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (40% o gymharu â 45%) a phyllau nofio (50% o gymharu â 55%).
  • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed yn fwy tebygol o ddweud eu bod yn hyderus na phobl 35 i 54 oed a 55+ oed mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (55% o gymharu â 46% o gymharu â 25%) a phyllau nofio (60% o gymharu â 52% o gymharu â 41%).
  • Mae ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol nag ymatebwyr gwrywaidd o ddweud nad ydynt yn teimlo'n hyderus mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (40% o gymharu â 34%).
  • Fodd bynnag, mae'r lefelau hyder mewn cyfleusterau dan do yn parhau i fod yn sylweddol uwch na mis Mai 22, gan gynnwys mewn campfeydd / ystafelloedd iechyd a ffitrwydd (40% o gymharu â 35%), pyllau nofio (50% o gymharu â 42%) a stiwdios (30% o gymharu â 25%).
  • O blith y rhai sydd wedi cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch mewn cyfleuster dan do yn ystod yr wythnos ddiwethaf, dywed tua naw o bob deg eu bod yn gyfforddus mewn campfeydd dan do neu ganolfannau ffitrwydd (90%) a phyllau nofio dan do (88%), ac mae tri chwarter yn hyderus ar gaeau glaswellt / artiffisial dan do (77%) a chyrtiau dan do (74%).

Cwestiynau pwnc 

Gwirfoddoli 

  • Nid yw ychydig o dan hanner yr ymatebwyr (49%) wedi gwirfoddoli mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn ystod y 12 mis diwethaf, o gymharu ag un o bob deg (10%) sy’n gwirfoddoli ar hyn o bryd.
  • Mae'r gwirfoddolwyr presennol yn fwy tebygol o fod yn wrywod (14% o gymharu â 7%), 16 i 34 oed (18% o gymharu â 9% o gymharu â 5%) ac o fod â phlant (15% o gymharu ag 8%)
  • Mae bron i hanner yr ymatebwyr yn dweud na fyddant yn gwirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf (48%), tra bo ychydig llai na thraean yn dweud eu bod yn debygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol (31%).
  • Mae ymatebwyr gwrywaidd (38% o gymharu â 24%) ac 16 i 34 oed (48% o gymharu â 34% o gymharu ag 17%) yn fwy tebygol o wirfoddoli i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol, ac felly hefyd y rhai sydd â phlant (40% o gymharu â 26%).

 

Costau byw   

  • Mae ychydig o dan ddau o bob pump o ymatebwyr (38%) yn cytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif.
  • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol nag ymatebwyr 55+ oed (47% o gymharu â 46% o gymharu â 26%) o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, ac felly hefyd y rhai sydd â phlant (50% o gymharu â 32%).
  • Dywed bron i hanner (48%) yr ymatebwyr nad yw’r newidiadau mewn costau byw wedi effeithio ar eu cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, tra bo traean (31%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw.
  • Mae ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed yn fwy tebygol nag ymatebwyr 55+ oed (46% o gymharu â 36% o gymharu ag 16%) o ddweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw, ac felly hefyd y rhai sydd â phlant (43% o gymharu â 24%).
  • Dywed mwy na chwarter (28%) yr ymatebwyr nad yw / na fydd costau byw cynyddol yn cael unrhyw effaith ar eu dewisiadau o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol, cynnydd ers mis Chwefror 23 (20%).
  • Fodd bynnag, dywed un o bob pump (20%) eu bod wedi / y byddant yn newid i weithgareddau rhatach / am ddim, tra bo'r un gyfran (18%) yn dweud eu bod wedi / y byddant yn cymryd rhan mewn llai o weithgareddau y mae angen talu amdanynt.
  • Mae ymatebwyr 55+ oed yn fwy tebygol nag ymatebwyr 16 i 34 oed a 35 i 54 oed o ddweud nad yw / na fydd costau byw cynyddol yn cael unrhyw effaith ar eu dewisiadau o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol (37% o gymharu ag 14% o gymharu â 29%), ac felly hefyd ymatebwyr gwrywaidd (32% o gymharu â 25%) a’r rhai sydd â phlant (33% o gymharu ag 20%).

 

Gweithgarwch ysgolion uwchradd 

  • Dywed dwy ran o dair o’r ymatebwyr (66%) eu bod wedi mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol ychydig o leiaf, gyda thraean (34%) yn dweud eu bod wedi gwneud hynny yn fawr.
  • Mae ymatebwyr gwrywaidd (44% o gymharu â 24%) yn fwy tebygol o ddweud eu bod wedi mwynhau cymryd rhan mewn chwaraeon yn yr ysgol yn fawr iawn.