Skip to main content

Rhywedd

Cenedl Actif (cyfranogiad a math o weithgaredd):

  • Roedd merched (21%) yn fwy tebygol na dynion o beidio â bod wedi cymryd rhan mewn 30+ munud o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf (14%).
    • Mae cyfran y dynion a’r merched nad ydynt yn cymryd rhan mewn 30+ munud o weithgarwch corfforol yn ystod yr wythnos ddiwethaf wedi gostwng ers mis Ionawr 2023.
  • Mae 50% o ddynion wedi gwneud 2 i 4 diwrnod o weithgarwch corfforol, o gymharu â 47% o ferched.
  • Roedd merched (61%) yn fwy tebygol o gerdded i hamddena na dynion (56%) yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
    • Mae mwy na hanner y merched (55%) yn cerdded i hamddena gyda rhywun arall, o gymharu â llai na hanner y dynion (44%).
  • Roedd dynion (9%) 4 gwaith yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn chwaraeon tîm na merched (2%) yn ystod yr wythnos ddiwethaf.
  • Roedd dynion (17%) ychydig yn fwy tebygol na merched (15%) o fynychu campfa neu ddosbarth ffitrwydd / ymarfer o’r cartref yn ystod yr wythnos ddiwethaf – er bod merched (59%) yn fwy tebygol o fynd i gampfa, dosbarth ffitrwydd neu ymarfer o’r cartref gyda rhywun arall na dynion (34%).
  • Roedd nofio yn fwy poblogaidd ymhlith merched na dynion, oherwydd cofnodwyd bod 19% o ferched wedi cymryd rhan o leiaf unwaith y mis o gymharu â 15% o ddynion.
  • Roedd 50% o’r merched oedd yn beicio ar gyfer hamdden yn ei wneud gyda rhywun arall, o gymharu â 32% o ddynion.
  • Roedd dynion yn fwy tebygol o redeg neu loncian gyda rhywun arall (29%) o gymharu â merched (26%).
  • Roedd yn ymddangos bod dynion (38%) yn fwy tebygol na merched (24%) o wirfoddoli yn ystod y 12 mis nesaf i gefnogi chwaraeon a gweithgarwch corfforol. 

Pawb (cynhwysol):

  • Roedd dynion (46%) yn fwy tebygol o gytuno bod y lefelau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal leol yn fforddiadwy o gymharu â merched (35%).
  • Roedd dynion (60%) hefyd yn fwy tebygol na merched (56%) o allu cyrraedd y cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol. 
  • Mae’r cynnydd mewn costau byw wedi cael effaith negyddol ar allu dynion a merched i fod yn actif, er bod merched (41%) yn fwy tebygol o gael eu heffeithio’n negyddol gan y cynnydd na dynion (36%).
  • Roedd dynion (32%) hefyd yn fwy tebygol o gytuno nad yw neu na fydd y cynnydd mewn costau byw yn cael unrhyw effaith ar eu dewisiadau o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol o gymharu â merched (25%).
  • Roedd dynion (75%) yn fwy tebygol na merched (68%) o ddweud eu bod yn cael cyfle i fod yn gorfforol actif. 

Gydol Oes (galw):

  • Dywedwyd bod merched (35%) yn fwy tebygol na dynion (32%) o beidio â chael digon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill. 
    • Ers mis Ionawr 2023, mae hyn wedi cynyddu 3 phwynt canran ar gyfer dynion ac wedi gostwng 3 phwynt canran ar gyfer merched.
  • Roedd dynion (74%) yn fwy tebygol na merched (71%) o nodi bod ganddynt y gallu i fod yn gorfforol actif. 
  • Roedd 74% o ddynion hefyd yn gweld ymarfer corff yn rheolaidd yn bwysig iddynt, o gymharu â 63% o ferched.
  • Y prif reswm pam roedd dynion (60%) a merched (58%) yn cymryd rhan mewn chwaraeon neu weithgarwch corfforol oedd i fod yn gorfforol iach. 
  • Roedd dynion (61%) yn fwy tebygol na merched (54%) o gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd meddwl. 
    • Ers mis Ionawr 2023, bu gostyngiad yn y ddau ryw o ran cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd meddwl.
  • Cerdded a nofio oedd y ddau weithgaredd y mae'r galw mwyaf am gyfranogiad gan ddynion a merched ynddynt yn y dyfodol. Gyda merched â mwy o alw am y ddau:
    • Cerdded (61% vs. 65%)
    • Nofio (39% vs. 43%)

Mwynhad (hyder a mwynhad):

  • Roedd 65% o ddynion yn mwynhau ac yn fodlon gyda’u gweithgarwch corfforol o gymharu â 55% o ferched.
  • Cytunai 33% o ferched nad ydynt yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain o gymharu â 27% o ddynion.
  • Roedd dwy ran o dair (67%) o ddynion yn cytuno eu bod yn hyderus i fod yn gorfforol actif o gymharu ag ychydig mwy na hanner y merched (53%).
  • Yn gyffredinol, mae dynion (43%) yn teimlo'n fwy hyderus na merched (38%) am gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn y gampfa.
  • Ers mis Ionawr 2023, mae hyder dynion i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol yn y gampfa wedi gostwng 10 pwynt canran, ac i ferched mae wedi aros yr un fath.
  • Mae mwy na dwywaith cymaint o ddynion (42%) yn teimlo’n hyderus yn defnyddio caeau glaswellt o gymharu â merched (20%)
  • Nid oedd 33% o ferched yn hyderus yn defnyddio pwll nofio o gymharu â 29% o ddynion.
  • Roedd merched (32%) yn fwy hyderus na dynion (28%) wrth ddefnyddio stiwdios a ddefnyddir ar gyfer ioga, crefftau ymladd, aerobics ac ati. 
  • Roedd dynion (71%) yn fwy hyderus na merched (63%) o ddefnyddio parciau ar gyfer gweithgarwch corfforol - gan gynnwys chwarae anffurfiol, cerdded a rhedeg.