Skip to main content

Statws economaidd-gymdeithasol

Cenedl Actif (cyfranogiad a math o weithgaredd):

  • Roedd pobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol llai difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn actif am 30+ munud 2 i 4 diwrnod a 5+ diwrnod yr wythnos:
    • 2 i 4 diwrnod yr wythnos (51% vs. 46%)
    • 5+ diwrnod yr wythnos (27% vs. 22%)
  • Fodd bynnag, roedd pobl o’r cefndiroedd economaidd-gymdeithasol mwyaf difreintiedig (21%) yn fwy tebygol o fod wedi gwneud 0 diwrnod o 30+ munud o weithgarwch corfforol, o gymharu â’r lleiaf difreintiedig (14%)
    • Ers mis Ionawr 2023, mae cyfran yr oedolion sy’n gwneud 0 diwrnod o weithgarwch corfforol wedi gostwng ymhlith y lleiaf a’r mwyaf difreintiedig.
  • Roedd oedolion o gefndir economaidd-gymdeithasol llai difreintiedig yn fwy tebygol o fod wedi cymryd rhan ym mhob un o’r gweithgareddau a arolygwyd (ac eithrio’r categori arall), gan gynnwys:
    • Rhedeg neu loncian (22% vs. 12%)
    • Cerdded (72% vs. 66%)
    • Nofio (12% vs. 8%)
    • Beicio (12% vs. 9%)
    • Chwaraeon tîm (8% vs. 3%)
    • Gweithgareddau yn y cartref (19% vs. 16%)
  • Roedd 62% o oedolion o'r cefndiroedd economaidd-gymdeithasol mwyaf difreintiedig yn cerdded 2 i 4 diwrnod yr wythnos, o gymharu â 51% o'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol llai difreintiedig.
    • Ers mis Ionawr 2023, mae cerdded ar gyfer teithio 2 i 4 diwrnod yr wythnos wedi cynyddu 19 pwynt canran ar gyfer oedolion mwy difreintiedig, o gymharu â gostyngiad o 7 pwynt canran ar gyfer pobl sy’n llai difreintiedig.
  • Roedd pobl o gefndiroedd mwy difreintiedig (15%) yn fwy tebygol o gerdded i deithio gyda phlentyn a / neu blant o gymharu â rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol llai difreintiedig (13%). Fodd bynnag, roedd y rhai o gefndir llai difreintiedig (51%) yn fwy tebygol o gerdded i hamddena gyda rhywun arall (49%).
  • Roedd y defnydd o'r gampfa (o'r cartref) yn uwch ar gyfer pobl llai difreintiedig na phobl sy’n fwy difreintiedig.
    • Defnydd o gampfa 2 i 4 diwrnod (56% vs. 50%)
    • Defnydd o gampfa 5+ diwrnod (21% vs. 20%)

Pawb (cynhwysiant):

  • Roedd y rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig (35%) yn llai tebygol o gytuno bod cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol lleol yn fforddiadwy, o gymharu â rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol lleiaf difreintiedig (46%).
  • Roedd oedolion o'r cefndiroedd cymdeithasol-economaidd lleiaf difreintiedig (62%) yn fwy tebygol o allu cyrraedd y cyfleusterau lleol sy'n apelio atynt na'u cyfoedion o gefndiroedd mwy difreintiedig (52%).
  • Gwelwyd bod y cynnydd mewn costau byw wedi cael mwy o effaith negyddol ar y rhai o'r cefndiroedd lleiaf difreintiedig (41%) na'r rhai o'r cefndiroedd mwyaf difreintiedig (36%).
  • Mae pobl sy'n llai difreintiedig (35%) wedi datgan eu bod wedi dechrau gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ers y cynnydd mewn costau byw, o gymharu â'r rhai mwyaf difreintiedig (27%).
  • Mae'r cynnydd mewn costau byw wedi effeithio ar lefelau cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol y rhai mwyaf difreintiedig (45%) yn llai na'r lleiaf difreintiedig (50%).
  • Cytunai 51% o'r oedolion lleiaf difreintiedig bod cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol o ansawdd uchel yn eu hardal leol o gymharu â 41% o oedolion a oedd yn fwy difreintiedig.

Gydol Oes (cymhelliant a galw):

  • Y prif gymhelliant dros weithgarwch corfforol i'r oedolion mwyaf (63%) a lleiaf difreintiedig (56%) oedd i fod yn gorfforol iach.
  • Roedd pobl a oedd yn llai difreintiedig (37%) yn fwy tebygol o gytuno nad oedd ganddynt ddigon o amser ar gyfer gweithgarwch corfforol o gymharu â phobl a oedd yn fwy difreintiedig (30%).
    • Ers mis Ionawr 2023, bu cynnydd o 4 pwynt canran ar gyfer y rhai a oedd yn fwy difreintiedig sy’n cytuno nad oes ganddynt ddigon o amser i fod yn gorfforol actif oherwydd ymrwymiadau eraill, o gymharu â gostyngiad o 4 pwynt canran ar gyfer y rhai a oedd yn llai difreintiedig.
  • Roedd pobl a oedd yn llai difreintiedig yn fwy tebygol o weld ymarfer corff rheolaidd yn bwysig iddynt na phobl a oedd yn fwy difreintiedig:
    • Llai difreintiedig – 74%
    • Mwy difreintiedig – 63%
  • Mae 76% o'r oedolion lleiaf difreintiedig yn credu eu bod wedi cael y cyfle i fod yn gorfforol actif o gymharu â 67% o'r oedolion mwyaf difreintiedig.
  • Mae’r lleiaf a’r mwyaf difreintiedig yn nodi cerdded a nofio fel y gweithgareddau yr hoffent wneud mwy ohonynt yn y dyfodol, gyda’r oedolion mwyaf difreintiedig eisiau gwneud mwy o gerdded a’r lleiaf difreintiedig eisiau gwneud mwy o nofio:
    • Cerdded (61% vs. 64%)
    • Nofio (44% vs. 38%)
  • Roedd mwy na hanner yr oedolion mwyaf a lleiaf difreintiedig yn gwerthfawrogi’r rôl sydd gan weithgarwch corfforol o ran gwella eu hiechyd meddwl, ond roedd mwy o gefndiroedd llai difreintiedig yn gwneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl o gymharu â’r rhai o gefndiroedd mwy difreintiedig:
    • Llai difreintiedig – 65%
    • Mwy difreintiedig – 51%

Mwynhad (hyder a mwynhad):

  • Nid yw 32% o'r oedolion mwyaf difreintiedig yn mwynhau cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol ar eu pen eu hunain – o gymharu â 28% o'r rhai llai difreintiedig.
  • Roedd 67% o oedolion llai difreintiedig yn mwynhau ac yn fodlon ar weithgarwch corfforol, sy’n gynnydd o 8 pwynt canran ers Ionawr 2023, o’i gymharu â 53% ar gyfer y grŵp mwy difreintiedig, sef cynnydd o 1 pwynt canran yn yr un amserlen.
  • Mae gan yr oedolion llai difreintiedig (67%) fwy o hyder i fod yn gorfforol actif na'r rhai sy'n fwy difreintiedig (53%).
  • Nid yw hanner (50%) y rhai sydd wedi'u lleoli yn yr ardaloedd economaidd-gymdeithasol mwyaf difreintiedig yn teimlo'n hyderus yn cymryd rhan mewn chwaraeon ar gaeau glaswellt, o gymharu â 38% o'r rhai o'r ardaloedd lleiaf difreintiedig.
  • Roedd yr oedolion llai difreintiedig (40%) bron ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn hyderus yn defnyddio stiwdios a ddefnyddir ar gyfer aerobics, crefftau ymladd, ioga, sbin ac ati, na'r rhai sy'n fwy difreintiedig (21%).
  • Yn yr un modd, roedd oedolion o gefndiroedd llai difreintiedig yn fwy tebygol o fod yn hyderus yn defnyddio campfeydd ac ystafelloedd iechyd (53% vs. 29%) a phyllau nofio (56% vs 44%) na'r rhai sy'n fwy difreintiedig.
  • Roedd y lleiaf a'r mwyaf difreintiedig yn gyffredinol yn teimlo'n gyfforddus yn defnyddio'r cyfleusterau a arolygwyd, er bod y rhai mwyaf difreintiedig yn teimlo ychydig yn fwy cyfforddus:
    • Campfeydd dan do a chanolfannau ffitrwydd (93% vs. 88%)
    • Pyllau nofio dan do (91% vs. 86%)
    • Caeau glaswellt / artiffisial dan do (86% vs. 75%)
    • Cyrtiau dan do (78% vs. 73%)