Skip to main content

Anabledd

Cenedl Actif (cyfranogiad a math o weithgaredd):

  • Nid oedd 25% o oedolion sydd ag unrhyw gyflyrau neu salwch hirsefydlog wedi cymryd rhan mewn 30+ munud o chwaraeon unrhyw ddiwrnod o'r wythnos, o gymharu â 14% o'r rhai heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog.
  • Hefyd, nid oedd 30% o oedolion sy’n byw gyda chyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog wedi cymryd rhan mewn 30+ munud o chwaraeon drwy’r wythnos, o gymharu â 22% o’r rhai sydd â chyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog, a 14% o oedolion heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog.
  • Roedd oedolion heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog (51%) yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn 30+ munud o chwaraeon neu weithgarwch corfforol 2 i 4 diwrnod yr wythnos na'r rhai sydd ag unrhyw gyflyrau neu salwch hirsefydlog (43%).
  • Oedolion sydd â chyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog oedd leiaf tebygol o fod wedi cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol 2 i 4 diwrnod yr wythnos:
    • Cyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog – 49%
    • Cyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog – 39%
    • Dim goblygiadau iechyd hirsefydlog – 51%
  • Mae cynnydd wedi bod yn yr holl grwpiau sy’n gwneud gweithgarwch corfforol 2 i 4 diwrnod yr wythnos ers mis Ionawr 2023, gyda’r cynnydd mwyaf ymhlith y rhai sydd â chyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog (11 pwynt canran), o gymharu â’r rhai â chyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog (3 phwynt canran), a'r rhai heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog (2 bwynt canran).
  • Roedd oedolion heb unrhyw gyflwr neu salwch hirsefydlog yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn cerdded ar gyfer hamdden a dwywaith yn fwy tebygol o gymryd rhan mewn rhedeg a loncian a chwaraeon tîm na'r rhai gyda chyflyrau neu salwch hirsefydlog:
    • Cerdded er mwyn hamdden (61% vs. 52%)
    • Rhedeg neu loncian (20% vs. 10%)
    • Chwaraeon tîm (6% vs. 3%)
  • Roedd oedolion â chyflyrau iechyd meddwl yn fwy tebygol na'r rhai heb gyflyrau iechyd hirsefydlog o:
    • Cerdded ar gyfer teithio (33% vs. 26%)
    • Nofio (12% vs. 10%)
  • Roedd y rhai â phroblemau iechyd hirsefydlog (45%) yn llai tebygol o gerdded gyda rhywun arall er mwyn hamddena na'r rhai nad oedd ganddynt unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog (52%).
  • Roedd 50% o bobl heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog yn mynd i'r gampfa ar rai dyddiau (2 i 4 diwrnod yr wythnos), o gymharu â 64% o'r rhai â chyflwr neu salwch hirsefydlog.
  • Oedolion â chyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog oedd fwyaf tebygol o redeg neu loncian gyda rhywun arall (31%), o gymharu ag oedolion heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog (29%) a’r rhai â chyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog (14%).
  • Roedd y rhai ag unrhyw gyflwr hirsefydlog (50%) bron ddwywaith yn fwy tebygol o feicio i deithio gyda rhywun arall na'r rhai heb unrhyw oblygiadau iechyd (26%).

Pawb (cynhwysiant):

  • Mae'r cynnydd mewn costau byw wedi effeithio'n negyddol ar 49% o'r rhai â chyflyrau neu salwch meddwl hirsefydlog, o gymharu â 37% o bobl â chyflyrau a salwch corfforol hirsefydlog a 36% o'r rhai heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog.
  • Roedd y rhai â chyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw nag unrhyw un o'r grwpiau eraill:
    • Cyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog – 48%
    • Cyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog – 27%
    • Dim goblygiadau iechyd hirsefydlog – 28%
  • Pobl heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog oedd fwyaf tebygol o allu cyrraedd gweithgareddau chwaraeon a chorfforol lleol a oedd yn apelio atynt, o gymharu â’r rhai â chyflwr neu salwch meddwl neu gorfforol hirsefydlog:
    • Cyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog – 49%
    • Cyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog – 52%
    • Dim goblygiadau iechyd hirsefydlog – 62%

Gydol Oes (cymhelliant a galw):

  • Roedd pobl heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog yn fwy tebygol o nodi bod ganddynt y gallu i fod yn fwy actif yn gorfforol na'r rhai â chyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog a'r rhai â chyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog:
    • Cyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog – 68%
    • Cyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog – 43%
    • Dim goblygiadau iechyd hirsefydlog – 81%
  • Roedd 70% o'r rhai heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog yn cytuno ei bod yn bwysig iddynt wneud ymarfer corff yn rheolaidd, o gymharu â 65% o bobl sydd â chyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog a 62% o bobl sydd â chyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog.
  • Roedd y rhai heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog yn fwy tebygol o gael y cyfle i fod yn gorfforol actif (77%) na’r rhai sydd â chyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog (66%) a’r rhai sydd â chyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog (50%).
  • Mae mwy na hanner yr holl grwpiau yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol i helpu i reoli eu hiechyd meddwl.
    • Cyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog – 64%
    • Cyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog – 55%
    • Dim goblygiadau iechyd hirsefydlog – 57%

Mwynhad (hyder a mwynhad):

  • Roedd pobl heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog yn teimlo bod gweithgarwch corfforol yn bleserus ac yn rhoi boddhad, a’r bobl â chyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog oedd yn cytuno leiaf â hynny:
    • Cyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog – 54%
    • Cyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog – 46%
    • Dim goblygiadau iechyd hirsefydlog – 64%
  • Mae gan fwy na dwy ran o dair (68%) o bobl heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog hyder i fod yn gorfforol actif. Fodd bynnag, dywedodd 47% o’r bobl sydd â chyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog, a 42% o’r bobl sydd â chyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog bod ganddynt yr hyder i fod yn gorfforol actif.
  • Roedd y rhai ag unrhyw gyflwr neu salwch hirsefydlog (49%) yn fwy tebygol o fod â diffyg hyder wrth ddefnyddio cae glaswellt ar gyfer gweithgarwch corfforol (e.e., pêl droed, rygbi'r undeb, hoci ac ati) na'r rhai heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog (41%). Y rhai â chyflyrau corfforol oedd â’r diffyg hyder mwyaf (55%).
  • Roedd y rhai heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog (45%) yn fwy tebygol o fod yn hyderus wrth ddefnyddio campfa / ystafell iechyd a ffitrwydd na'r rhai ag unrhyw gyflyrau iechyd neu salwch hirsefydlog (33%)
  • Mae hanner (50%) y rhai sydd â chyflwr neu salwch meddwl hirsefydlog yn teimlo'n hyderus yn defnyddio pwll nofio, o gymharu â 40% o'r rhai â chyflwr neu salwch corfforol hirsefydlog a 53% o'r rhai heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog.
  • Roedd oedolion â chyflwr neu salwch hirsefydlog (91%) yn fwy tebygol o fod yn gyfforddus yn cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol mewn campfa dan do neu ganolfan ffitrwydd na'r rhai heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog (89%).
  • Fodd bynnag, roedd y rhai heb unrhyw oblygiadau iechyd hirsefydlog (91%) yn fwy tebygol o fod yn gyfforddus yn defnyddio pwll nofio dan do na'r rhai sydd â chyflwr neu salwch hirsefydlog (83%).