Skip to main content

2. Dull Ymchwil

  1. Cwmpasu’r ddarpariaeth a’r cyfranogiad chwaraeon a gweithgarwch corfforol presennol ymysg cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng ngorllewin, canolbarth a gogledd Cymru. 
  2. Nodi unrhyw anghenion nad ydynt yn cael eu bodloni o ran chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymysg cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng ngorllewin, canolbarth a gogledd Cymru.
  3. Nodi pwysigrwydd iaith mewn cysylltiad â chyfranogiad a diffyg cyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymysg cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng ngorllewin, canolbarth a gogledd Cymru.
  4. Nodi’r rhwystrau i gyfranogiad mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol ymysg cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng ngorllewin, canolbarth a gogledd Cymru.

 

Cafodd dull cymysg dau gam ei ddatblygu i gynhyrchu data ar gyfer yr ymchwil. Yn seiliedig ar y llenyddiaeth ar weithgarwch corfforol, iechyd ac iaith, cafodd holiadur eang ei ddatblygu, ei gyfieithu, ei dreialu a’i rannu â swyddogion Chwaraeon Cymru yng Ngham 1.Cafodd yr holiadur ei ddosbarthu yn Gymraeg ac yn Saesneg gan Chwaraeon Cymru i’r tair ardal a ddynodwyd gan y comisiwn gwreiddiol – gorllewin, canolbarth a gogledd Cymru[1]

Nod yr holiadur oedd cael gwybodaeth am y mathau o chwaraeon a gweithgarwch corfforol mae cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yn cymryd rhan ynddynt, pwysigrwydd y Gymraeg i gymryd rhan, a’r rhwystrau ymddangosiadol i gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol, 

At ei gilydd (yn cynnwys yr ymatebion o dde Cymru), cafodd 422 o holiaduron eu dychwelyd. Roedd 52 wedi’u llenwi’n Gymraeg a 370 yn Saesneg. Cafodd meini prawf cynnwys/eithrio[2] eu defnyddio i gynnwys dim ond yr ymatebion hynny a oedd yn cydnabod rhyw lefel o allu yn y Gymraeg (378 o ymatebion). Roedd y gyfradd ymateb uchaf yn y Gorllewin (47%), yna’r Canolbarth (28%), y Gogledd (16%) a’r De (9%) (Ffigur 3). 

Roedd Cam 2 yn cynnwys cyfweliadau dilynol dros y ffôn/ar-lein gyda 10 unigolyn o blith yr 87 a oedd wedi cytuno i gymryd rhan ar ôl Cam 1.Wrth ddewis cyfranogwyr Cam 2, fe wnaethom gymryd gofal i adlewyrchu’n gymesur dadansoddiad demograffig (gallu Cymraeg, rhanbarth, oedran, rhyw) yr ymatebion i’r holiaduron yng Ngham 1. Anfonwyd e-bost at 49 o’r 87 (56%) ac o’r rhain, cytunodd 10 (20%) i gymryd rhan mewn cyfweliad. Roedd y rhai a gyfwelwyd yng Ngham 2 yn adlewyrchu’r ymatebion yng Ngham 1 yn fras, a dyma eu dadansoddiad: 5 o’r Gorllewin, 2 o’r Canolbarth a 3 o’r Gogledd[3]. Roedd gallu yn y Gymraeg wedi’i adlewyrchu. Roedd 6 o siaradwyr rhugl a 4 dysgwr. Cafodd 8 o ferched a 2 ddyn eu cyfweld. Roeddent rhwng 24 a 75 oed.Mae Tabl 1 yn rhoi dadansoddiad o ddemograffeg y rhai a gyfwelwyd.
 

[1]Cafwyd ymatebion gan gyfranogwyr a theuluoedd yng nghymunedau gwledig gorllewin, canolbarth a gogledd Cymru a oedd yn ddysgwyr Cymraeg, ac ymatebion gan siaradwyr Saesneg yn unig yn y rhanbarthau hynny. Yn ogystal â hynny, cafwyd ymatebion yn Gymraeg ac yn Saesneg o gymunedau gwledig yn ne Cymru. Mae’r holl ymatebion wedi dylanwadu ar ganfyddiadau, dadansoddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn, ar sail natur wledig cymunedau’r ymatebwyr, yn amodol ar bwynt 2 isod.

[2]Meini prawf cynnwys/eithrio: Cyflwynir y canfyddiadau i adlewyrchu 90% (378) o ymatebwyr sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng Nghymru ac sydd â rhywfaint o allu yn y Gymraeg, gan gynnwys rhugl/mamiaith, dysgwyr Cymraeg/ail iaith, a ‘siarad ychydig o Gymraeg/gallu dweud ychydig o eiriau yn Gymraeg’ (Ffigur 6). Ni chafodd y 10% o ymatebwyr nad ydynt yn siarad unrhyw Gymraeg eu cynnwys yn yr adroddiad.

[3]Ni chafwyd ymateb gan unrhyw un yn y De, er y cysylltwyd â holl gyfranogwyr Cam 1.

Darllen Mwy
1. Cefndir