Skip to main content

1. Cefndir

Mae Cymru’n wlad fodern, allblyg â hanes, diwylliant a threftadaeth unigryw. Ers datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi mynd ati i ddangos ei hymreolaeth a’i natur unigryw drwy bolisïau arbennig sy’n adlewyrchu traddodiadau a threftadaeth ddiwylliannol Cymru, ac sy’n sicrhau bod Cymru’n gallu ateb heriau’r ganrif nesaf. 

  • Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, sydd gyda’r mwyaf blaenllaw yn y byd, yn sail i hyder a phenderfyniad Cymru i ymateb i’r heriau hyn fel gwlad.Mae’r Ddeddf yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru, ac mae’n nodi saith nod llesiant, gan gynnwys creu Cymru Iachach, Cymru o Gymunedau Cydlynus, a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. Mae pob un o’r rhain wedi dylanwadu ar yr ymchwil hwn ac yn ei roi mewn cyd-destun. Un o’r prif elfennau o gyflawni uchelgeisiau Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol yw cydnabyddiaeth gyfartal i’r Gymraeg o ran bod yn gyfreithiol gyfatebol i’r Saesneg. 
  • Yn y cyd-destun hwn, mae’r Gymru fodern yn wlad ddwyieithog lle mai Cymraeg a Saesneg sy’n cael eu siarad. Mae Cymraeg yn cael ei siarad ym mhob rhanbarth yng Nghymru, fel y mae Saesneg. Nid oes unrhyw gymuned yng Nghymru lle mai dim ond un iaith sy’n cael ei siarad. Caiff Cymraeg ei siarad ochr yn ochr â Saesneg, ac fel arall. Yn ogystal â hynny, mae llawer o bobl sydd wedi’u geni yng Nghymru ac sy’n ystyried eu hunain yn Gymry yn siarad dim ond ychydig o Gymraeg, ac yn ystyried eu hunain yn ddysgwyr Cymraeg neu eu bod yn fwy hyderus yn siarad Saesneg.
  • Yn ôl Cyfrifiad 2021, Saesneg yw’r iaith sy’n cael ei siarad a’i deall yn fwyaf eang, ac mae Cymraeg yn iaith leiafrifol. 14.6% o'r boblogaeth dros 3 oed sy’n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yng Nghymru. Yn 2017, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgyrch Cymraeg 2050, sy’n anelu at gael miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn canol y ganrif.
  • Fel y rhan fwyaf o wledydd cefnog y Gorllewin, mae Cymru’n wynebu argyfwng gordewdra ymysg ei phoblogaeth. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi rhybuddio bod niferoedd gordewdra wedi treblu yn fyd-eang a bod nifer yr oedolion dros eu pwysau wedi cynyddu. Mae datganiadau’r GIG, sy’n nodi bod modd atal gordewdra, yr un mor bwysig Obesity and overweight (who.int). Yn ôl ffigurau GIG Cymru, mae tua 25%, neu 1 o bob 4 person dros 16 oed, a thua 12% o blant ym mlwyddyn derbyn (4 i 5 oed), yn ordew GIG 111 Cymru - Iechyd A-Y: Gordewdra.
  • Dyma ddatganiad agoriadol sylwadau’r Prif Swyddogion Meddygol yn eu Canllawiau Gweithgarwch Corfforol (2019): “Pe bai gweithgarwch corfforol yn gyffur, byddai’n cael ei ystyried yn feddyginiaeth wyrthiol, oherwydd ei fod yn gallu atal a helpu i drin cynifer o wahanol fathau o salwch.” Yn nes ymlaen yn yr adroddiad, mae argymhelliad o ran lefel sylfaenol gweithgarwch corfforol ar gyfer gwahanol grwpiau oedran yn y boblogaeth. ‘Bob wythnos, dylai oedolion wneud o leiaf 150 munud (2 1/2 awr) o weithgareddau cymedrol eu dwysedd (fel cerdded yn sionc neu feicio); neu 75 munud o weithgareddau egnïol eu dwysedd (fel rhedeg)...neu gyfuniad o weithgareddau cymedrol, egnïol ac egnïol iawn.’ ‘Dylai oedolion hŷn anelu at wneud o leiaf 150 munud o weithgareddau aerobig cymedrol eu dwysedd, a dylai plant a phobl ifanc gymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol cymedrol i egnïol am o leiaf 60 munud y diwrnod ar gyfartaledd ar draws yr wythnos. Gall hyn gynnwys pob math o weithgareddau fel addysg gorfforol, teithio llesol, gweithgareddau ar ôl ysgol, chwarae hamdden a chwaraeon’ Canllawiau Gweithgarwch Corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU (publishing.service.gov.uk)
  • Y tu hwnt i fanteision iechyd uniongyrchol gweithgarwch corfforol, mae adroddiad Prif Swyddogion y DU yn cydnabod y manteision iechyd meddwl a chymdeithasol ehangach o fod yn egnïol hefyd. ‘Mae’n dod â phobl ynghyd i fwynhau gweithgareddau ar y cyd ac yn cyfrannu at adeiladu cymunedau cryf, gan helpu’r economi i dyfu ar yr un pryd’ Canllawiau Gweithgarwch Corfforol Prif Swyddogion Meddygol y DU