Skip to main content
  1. Hafan
  2. Ymchwil a Gwybodaeth
  3. Deall anghenion a chymhellion cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg eu hiaith sy’n byw mewn cymunedau gwledig

Deall anghenion a chymhellion cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg eu hiaith sy’n byw mewn cymunedau gwledig

Cafodd Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol ei chomisiynu gan Chwaraeon Cymru i ymchwilio i anghenion a chymhellion cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg eu hiaith sy’n byw mewn cymunedau gwledig (Gorllewin, Canolbarth a Gogledd Cymru). Mae’r adroddiad hwn yn gwerthuso canfyddiadau’r ymchwil ac yn defnyddio dealltwriaeth o’r data i lunio argymhellion i’w hystyried yn y dyfodol.

 

Mae’r adroddiad yn cyflwyno canfyddiadau’r ymchwil sy’n cyd-fynd â’r cwestiwn ymchwil canlynol, a ddylanwadodd ar ddyluniad yr holiadur a’r cyfweliadau:

Cwestiwn Ymchwil:Beth yw anghenion a chymhellion cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg eu hiaith sy’n byw mewn cymunedau gwledig yng ngorllewin, canolbarth a gogledd Cymru o ran cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol a chwaraeon?

Cynhyrchwyd yr adroddiad gan: Dr. Andy Williams, Dr. Amanda John, Dr. Kate Piper, Dr. Nalda Wainwright, Heddwen Davies ac Anna Stevenson (ymgeisydd PhD), ac ar ran Academi Cymru ar gyfer Iechyd a Llythrennedd Corfforol (WAHPL)