Skip to main content

4. Argymhellion

Dyma’r prif argymhellion ar sail canfyddiadau’r ymchwil: 

Argymhelliad 1:

Blaenoriaethu cyllid a chymorth ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd a nofio i oedolion a dosbarthiadau/gwersi nofio i blant.

Mae darparu rhagor o gyfleoedd i gymryd rhan mewn dosbarthiadau nofio a ffitrwydd yn cefnogi cyfranogiad gydol y flwyddyn yn y gweithgareddau mwyaf poblogaidd, yn gynhwysol o ymatebwyr Cymraeg a Saesneg o bob oedran, ac yn ategu’r prif gymhellion i gynnal iechyd a lles da, i wella cryfder, dygnwch a/neu ffitrwydd, ac i aros yn ystwyth/hyblyg (neu ddod yn fwy ystwyth/hyblyg). 

Argymhelliad 2:     

Cydnabod gwerth cymdeithasol a phwysigrwydd cyfleoedd dwyieithog (yn benodol Twmpathau/dawnsio gwerin) i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol sy’n cefnogi cydlyniant cymunedau gwledig, lles goddrychol a hunaniaeth Gymreig, yn ogystal â helpu pobl eraill sydd wedi’u geni yng Nghymru ond sy’n ddi-Gymraeg / yn ddysgwyr Cymraeg i wreiddio yn y gymuned. 

Mae darparu cyfleoedd dwyieithog i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn cefnogi prif nodau llesiant Cymru Iachach, Cymru o Gymunedau Cydlynus, a Chymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae darpariaeth ddwyieithog hefyd yn ategu hunaniaeth a threftadaeth ddiwylliannol Gymreig, ac yn helpu newydd-ddyfodiaid di-Gymraeg i wreiddio mewn cymunedau lle mae’r Gymraeg yn amlwg. Mae darpariaeth ddwyieithog yn meithrin cydlyniant cymdeithasol mewn cymunedau gwledig.

Argymhelliad 3:

Datblygu gwell rhwydweithiau cyfathrebu ag awdurdodau lleol/rhwydweithiau trafnidiaeth lleol, ysgolion a darparwyr cyfleusterau hamdden eraill i gael gwell cysondeb o ran penderfyniadau ynghylch darpariaeth a hygyrchedd cyfleusterau i deuluoedd sy’n byw mewn cymunedau gwledig.

Mae absenoldeb car teulu a gostyngiadau mewn gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus yn golygu bod nifer o gyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig yn ei chael hi’n anoddach ac anoddach cael gafael ar y cyfleoedd gweithgarwch corfforol mwyaf poblogaidd sydd ar gael ymhellach i ffwrdd. Dylai Chwaraeon Cymru fynd ati i ymgynghori â’r holl ddarparwyr cyfleusterau lleol, gan gynnwys canolfannau hamdden ac ysgolion, ac â darparwyr trafnidiaeth lleol, i gynyddu’r cyfleoedd i gymunedau gwledig deithio i weithgareddau corfforol a chwaraeon mewn ardaloedd lle mae’r ddarpariaeth yn bodoli eisoes, a chymryd rhan ynddynt.

Argymhelliad 4:

I annog cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig i gyflawni’r lefelau sylfaenol o weithgarwch corfforol bob wythnos, dylai Chwaraeon Cymru gynyddu’r cyhoeddusrwydd a'r addysg ynghylch y Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol i Wneud Ymarfer Corff, a chysylltu â rhwydweithiau Presgripsiynu Cymdeithasol ynghylch cyfleoedd i gymryd rhan mewn teithiau cerdded lleol, mentrau Couch to 5K, a gweithgareddau eraill yn y gymuned.

Mae codi ymwybyddiaeth a hyrwyddo’r Cynllun Atgyfeirio Cenedlaethol i Wneud Ymarfer Corff yn ddull gwerthfawr o annog cyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau gwledig ac nad ydynt yn gorfforol egnïol i fod yn fwy egnïol. Yn ogystal â bod yn ddi-dâl, byddai cefnogi mentrau Presgripsiynu Cymdeithasol sy’n gysylltiedig â theithiau cerdded lleol hefyd yn bodloni anghenion unigolion llai abl/anabl o ran gweithgarwch corfforol llai dwys, ac anghenion pobl â mwy o ddiddordeb mewn cyfleoedd gweithgarwch corfforol sy’n canolbwyntio ar fyd natur. 

Argymhelliad 5:

Datblygu a hyrwyddo cronfa ddata o gyfleoedd gweithgarwch corfforol lleol, lleoliadau, cysylltiadau, iaith ac ati ym mhob rhanbarth yng Nghymru, gan ei dosbarthu drwy wefan Chwaraeon Cymru a rhwydweithiau lleol.

Nid oedd llawer o gyfranogwyr a theuluoedd Cymraeg sy’n byw mewn cymunedau lleol yn ymwybodol o’r cyfleoedd gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn eu hardal leol. Byddai datblygu cronfa ddata ganolog, bwrpasol o weithgareddau a chyfleoedd i bob rhanbarth yng Nghymru yn adnodd amhrisiadwy i Chwaraeon Cymru ei chreu a’i rhannu drwy ei lwyfan ar-lein a rhwydweithiau rhanbarthol, ac yn codi ymwybyddiaeth o’r amrywiaeth eang o weithgareddau sydd ar gael i gymunedau gwledig.