Skip to main content

Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig

CA2

Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig – Ar gyfer plant ysgolion cynradd 7 i 11 oed i ddatblygu sgiliau corfforol allweddol sy’n berthnasol i ac yn drosglwyddadwy ar draws gwahanol chwaraeon a gweithgareddau corfforol.

Adnodd: Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig 
Pwrpas: Wedi'i anelu at blant mewn ysgolion cynradd, 7 i 11 oed, i ddatblygu sgiliau corfforol allweddol sy'n berthnasol i ystod o wahanol chwaraeon a gweithgareddau corfforol, ac yn drosglwyddadwy ar eu traws.  

Crynodeb o’r cynnwys:

 

Cardiau Sgiliau Technegol (A4) - 50 Cerdyn Sgiliau - Gwahaniaethu wrth i ddysgwyr ddatblygu, wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, wrth i ddysgwyr ddod yn fwy medrus ac wrth i ddysgwyr ddefnyddio eu sgiliau. Datblygu sgiliau locomotor (teithio), sgiliau rheoli’r corff a sgiliau trin. Gwybodaeth a chyfarwyddyd sy’n cynnwys pwyntiau addysgu gydag elfennau gweledol ar gyfer pob sgil ac atebion defnyddiol ar gyfer rhai camgymeriadau cyson. System goleuadau traffig o adran ‘Allwch chi weld…? yn arwain at ddatblygu Meini Prawf Llwyddiant ac yn cynnwys y gweithgareddau a awgrymir ar gyfer gwahaniaethu. Adran Mwy Abl a Thalentog ar gyfer syniadau ar sut i herio dysgwyr. Adnabod sgiliau fel elfennau sylfaenol mewn gweithgarwch a chwaraeon. 

 

Cardiau Sgiliau Technegol (A5) - 50 Cerdyn Sgiliau - Gwahaniaethu wrth i ddysgwyr ddatblygu, wrth i ddysgwyr wneud cynnydd, wrth i ddysgwyr ddod yn fwy medrus ac wrth iddynt ddefnyddio eu sgiliau. Datblygu sgiliau locomotor (teithio), sgiliau rheoli’r corff a sgiliau trin. Gwybodaeth a chyfarwyddyd sy’n cynnwys pwyntiau addysgu ar gyfer pob sgil. System goleuadau traffig o adran ‘Allwch chi weld…? yn arwain at ddatblygu Meini Prawf Llwyddiant. Adnabod sgiliau fel elfennau sylfaenol mewn gweithgarwch a chwaraeon. 

 

17 Cerdyn Sgiliau Gweithgarwch (A4) i ddysgwyr ddefnyddio ystod o sgiliau corfforol mewn amrywiaeth o gemau a gweithgareddau hwyliog. Lluniau ar gyfer dehongli a chyfarwyddiadau Dewch i Chwarae syml. Cwestiynau enghreifftiol i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr, canllaw ar gyfer arferion cynhwysol gan ddefnyddio STEP. 

 

17 Cerdyn Sgiliau Gweithgarwch (A5) gyda lluniau ar gyfer dehongli a chyfarwyddiadau Dewch i Chwarae syml ar y cefn.

 

17 Cerdyn Sgiliau Campau’r Ddraig (A4) – i ddysgwyr ddefnyddio ystod o sgiliau corfforol mewn gemau a gweithgareddau cysylltiedig â chwaraeon. Lluniau ar gyfer dehongli a chyfarwyddiadau Dewch i Chwarae syml. Cwestiynau enghreifftiol i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a dealltwriaeth y dysgwyr, canllaw ar gyfer arferion cynhwysol gan ddefnyddio STEP. Y cyd-destun mewn chwaraeon cyfarwydd ond mae’r sgiliau a’r gweithgareddau’n rhyng-gyfnewidiol a throsglwyddadwy. 

 

17 Cerdyn Sgiliau Campau’r Ddraig (A5) gyda lluniau ar gyfer dehongli a chyfarwyddiadau Dewch i Chwarae syml ar y cefn.

 

13 Taflen Ffeithiau – yn rhoi sylw i amrywiaeth o ystyriaethau addysgeg, cyfarwyddyd defnydd ymarferol a gwybodaeth ehangach.

 

CD Rom Aml-Sgiliau a Champau’r Ddraig gyda gwybodaeth ehangach a fersiwn electronig o’r Cardiau Sgiliau Technegol, Cardiau Sgiliau Gweithgarwch (A4), Cardiau Sgiliau Gweithgarwch (A5), Cardiau Sgiliau Campau’r Ddraig (A4), Cardiau Sgiliau Campau’r Ddraig (A5) 

 

Nodweddion Trosglwyddadwy Arwyddocaol:

 

Cardiau Sgiliau Technegol yn rhoi sylw i 50 o sgiliau corfforol a fydd yn sail i’r holl ddatblygiad corfforol. 

ABC – Ystwythder, Balans, Cydsymudiad 

 

Sut mae’r adnodd yn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd:

 

Ystyried anghenion datblygu’r dysgwyr (e.e. wrth iddynt ddatblygu, gwneud cynnydd, dod yn fwy medrus, wrth iddynt ddefnyddio eu sgiliau). 

 

Cyfleoedd i ddysgwyr archwilio a deall problemau a thasgau (e.e. cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau a arweinir gan ddysgwyr ac athrawon).

 

Hyder a Chymhelliant
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Mae helpu plant i ddatblygu eu sgiliau a'u symudiad yn rhoi hyder iddynt i barhau i fod yn gorfforol actif a defnyddio sgiliau mewn cyd-destunau newydd.Mae’n rhoi i athrawon / ymarferwyr yr hyder y gallant gael yr adnoddau i addysgu’r MDaPh hwn, a’u cymell i wneud hynny.
Medrusrwydd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr

Datblygiad corfforol sgiliau motor – sgiliau locomotor (teithio), sgiliau rheoli’r corff a sgiliau trin. 

Mae dysgu sgiliau symud allweddol yn meithrin mwynhad ac ymgysylltu gydol oes mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol

 

Mae'n cynnig cyfarwyddyd clir ar sut i addysgu’r sgiliau a’u defnyddio mewn gweithgareddau a gemau. Profiad pwnc a methodolegol a sgiliau ystafell ddosbarth cyffrous.

Gwybodaeth a chyfarwyddyd pob sgil yn cynnwys sut i gywiro camgymeriadau technegol nodweddiadol.

Gwybodaeth a Dealltwriaeth
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr

Mae’r dysgwyr yn deall techneg gywir y sgiliau ac yn deall sut gallant eu cynnwys mewn gemau, gweithgareddau a chwaraeon.   

 

 

Athrawon / ymarferwyr yn gwybod y pwyntiau addysgu ar gyfer pob sgil ac yn deall pa mor drosglwyddadwy ydynt i gemau, gweithgareddau a chwaraeon eraill. Athrawon / ymarferwyr yn deall y fantais o sgil yn hytrach na ffocws chwaraeon.   
Cyfleoedd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Cyfleoedd lluosog i ymarfer sgiliau, ymgymryd â gweithgareddau a chwarae gemau cysylltiedig â chwaraeon. Cyfleoedd i greu eu dehongliad eu hunain o gemau a sefydlu rheolau ar gyfer chwarae. Gall athrawon / ymarferwyr hwyluso dysgu gan ddefnyddio'r cardiau wrth iddynt ofyn i ddysgwyr ddylunio eu gemau a'u systemau sgorio eu hunain. Gall athrawon / ymarferwyr eu harwain i e.e. cynyddu lefelau gweithgarwch, sicrhau bod pawb yn cymryd rhan, a herio eu hunain.           

Dolenni at MDaPh eraill

 

Gellid gwneud dolenni at yr holl MDaPh eraill:

Iechyd a Lles - Os yw plant yn mwynhau bod yn actif, yn hyderus yn eu gallu ac yn dysgu sgiliau symud allweddol, bydd hyn yn meithrin mwynhad gydol oes o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac felly'n gwella iechyd a lles. Datblygu gwneud penderfyniadau a pherthnasoedd. 

Mathemateg a rhifedd – systemau sgorio, iaith lleoli.       

Mae’r adnoddau i gyd yn ddwyieithog

 

Ystyriaethau ac awgrymiadau wrth symud ymlaen:

 

Ffocws ar Sgiliau Technegol a defnyddio cardiau Sgiliau Gweithgarwch a chardiau Sgiliau Campau'r Ddraig fel y cyfrwng (yn hytrach na'r ffordd arall)

 

Defnyddio addysgeg o athrawon yn arwain ac felly datblygu eu gwybodaeth a'u hyder gyda'r adnodd a'u medrusrwydd o ran sut i'w ddefnyddio.

 

Amlygu'r gallu i drosglwyddo sgiliau i weithgareddau lluosog. 

 

Defnyddio gemau a gweithgareddau cyfarwydd a haenu gyda sgiliau. 

 

Ystol sgiliau – ystod enghreifftiol o sgiliau sydd ar gael i’w hymarfer mewn gweithgareddau a gemau 

 

Calendr Sgiliau – cynllunio canllawiau - gellir defnyddio hyn i ganolbwyntio ar ychydig o sgiliau penodol dros gyfnod o fis, gan eu cynnwys mewn amrywiaeth o gemau, gweithgareddau a chwaraeon

 

Ymgorffori / dolenni i SMILES o'r dechrau un. 

 

Tynnu sylw at STEP ar y dechrau wrth gyflwyno’r cardiau Sgiliau Gweithgarwch a chardiau Sgiliau Campau'r Ddraig.

 

Defnyddio’r cyfleoedd datblygu proffesiynol ar y Taflenni Ffeithiau yn llawn.

 

Mae CD ROMs bellach yn anodd i lawer eu defnyddio felly mae angen rhannu adnoddau ar blatfform gwahanol (mae'n amlwg bod hyn yn bosibl oherwydd bod adnoddau'n cael eu rhannu'n llwyddiannus ar wefan Chwaraeon Cymru yn ystod cyfyngiadau symud COVID 19). 

 

Mynediad am ddim i adnoddau addysg