Skip to main content

Dawns

CA2

Dawns CA2 - I wneud dawns yn hygyrch i athrawon a dysgwyr. 

Adnodd: Dawns CA2 
Pwrpas: Gwneud dawns yn hygyrch i athrawon a dysgwyr 

Crynodeb o’r cynnwys:

 

CD Rom gyda chardiau adnoddau ar gyfer: 

5 Gweithred Dawns Sylfaenol 

Trefniadau gofodol – 3 Ffurfiant a 9 Perthynas   

5 Agwedd ar Amrywiaeth (cyflymder, cyfeiriad, lefel, llwybr, siâp)

10 dyfais goreograffig           

12 uned waith gyda chwe sesiwn yr un  

Arddulliau Dawns 

16 Taflen ddata 

Lluniau 

Cardiau adnoddau 

Cwestiynu effeithiol a datblygu sgiliau cwestiynu dysgwyr        

Llwyddiant i Bawb 

Rhestr o gerddoriaeth a awgrymir 

 

Nodweddion Trosglwyddadwy Arwyddocaol:

 

Mae Gweithredoedd Dawns Sylfaenol yn sylfaen i’r holl symudiad creadigol a gellir eu cymhwyso i unrhyw gyd-destun, unrhyw thema ac unrhyw ysgogiad.

Camau cynyddol ar gyfer datblygu dawns safonol gan ddefnyddio: Trefniadau gofodol; Amrywiaeth; Dyfeisiau coreograffig

Cyfarwyddyd clir ar gyfer cynllunio defnyddio RECIPE fel strwythur gwers. 

Cyflwyniad i amrywiaeth o arddulliau dawnsio gan gynnwys Dawnsio Gwerin traddodiadol 

12 uned waith o chwe sesiwn yr un     

Y cyfarwyddyd yn cynnwys defnyddio STEP, arddulliau addysgu, strategaethau grwpio, asesu a chwestiynu effeithiol, defnyddio TGCh.

 

Sut mae’r adnodd yn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd:

 

Cyfannol a chynhwysol ei natur. 

 

Gellir cyflwyno agweddau datblygu (e.e. haenu’r dysgu gyda dyfeisiau coreograffig) i unigolion, parau, grwpiau bychain, dosbarth cyfan fel a phan mae’r dysgwyr yn barod.             

 

Adeiladu ar Weithredoedd Dawns Sylfaenol a gall y camau o ddatblygu cysylltiadau dawns gael eu gwneud i’r rhan fwyaf o themâu / ysgogiadau er mwyn ystyried cyfleoedd trawsgwricwlaidd a sgiliau ehangach.                                     

 

Cyfleoedd i ddysgwyr fynegi syniadau, meddyliau a theimladau.

 

Mae archwilio trefniadau gofodol yn gyfle i archwilio perthnasoedd mewn ffordd ddatblygiadol a diogel.       

 

Hyder a Chymhelliant
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Hygyrchedd yr adnodd a’r natur gynyddol yn rhoi hyder i ddysgwyr i ddatblygu dawnsfeydd o safon.             Mae’n rhoi i athrawon y sylfaen, y brwdfrydedd a’r hyder y gallant gael yr adnoddau i addysgu’r MDaPh hwn, ac yn eu cymell i wneud hynny.
Medrusrwydd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr

Mae datblygu gweithredoedd dawns sylfaenol a chynyddol yn meithrin medrusrwydd dysgwyr ac yn eu herio i wella.

Datblygu annibyniaeth fel perfformiwr a choreograffydd.                 

Yn defnyddio RECIPE fel strwythur cynllunio gan arwain athrawon i gyflwyno gwersi cynyddol.       

Mae'n cynnig profiad pwnc a methodolegol a sgiliau ystafell ddosbarth cyffrous.

 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr

Mae’r dysgwyr yn dysgu gweithredoedd dawns sylfaenol yn gyflym ac yn trosglwyddo’r rhain yn ddawnsfeydd safonol drwy ddatblygu eu dealltwriaeth o ddyfeisiau coreograffig, trefniadau gofodol ac agweddau ar amrywiaeth ochr yn ochr â’r eirfa benodol yn gysylltiedig â’r rhain.   

 

Defnyddir Cardiau Adnoddau a Chardiau Data i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ar gyfer elfennau fel Trefniadaeth Ofodol, Amrywiaeth, Dyfeisiau Coreograffig
Cyfleoedd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Cyfleoedd lluosog i ddysgwyr greu dawnsfeydd cynyddol yn annibynnol, gyda chefnogaeth cardiau adnoddau a thaflenni data. 

Cyfleoedd lluosog i hwyluso dysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ysgogiadau a haenu dysgu gan ddefnyddio cardiau adnoddau a thaflenni data.

Cyfleoedd i ddefnyddio dulliau Asesu ar gyfer Dysgu ac amrywiaeth o ddulliau addysgu.   

Dolenni at MDaPh eraill

 

Gellir cymhwyso egwyddorion dawns i unrhyw gyd-destun ac unrhyw ysgogiad. Gallai cynnwys o unrhyw un, a phob Maes Dysgu a Phrofiad gynnig y cyd-destun hwn gyda'r thema a'r ysgogiadau.

Celfyddydau Mynegiannol – Mae dawns yn gyfle i gyfathrebu drwy symud a chreu ystyr. Mae'n ffordd gynhenid i ddysgwyr fynegi syniadau, meddyliau a theimladau. 

Iechyd a Lles – Gall dawns gael effaith gadarnhaol ar iechyd, ffitrwydd a lles dysgwyr a gall fod yn gyfle personol iawn i archwilio a mynegi teimladau ac emosiynau.  Mae trefniadau gofodol yn datblygu perthnasoedd mewn ffordd ddatblygiadol a diogel. Gall Dawns fod yn weithgaredd hamdden gydol oes 

Dyniaethau – Codi ymwybyddiaeth dysgwyr o wahanol draddodiadau, diwylliannau a chredoau, gan barchu gwahaniaethau pobl eraill, ysbrydoli chwilfrydedd yn y byd. Yr unedau penodol o waith yn cynnwys Llosgfynyddoedd, Ymladd a Chanu yn y Glaw.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu – Mae dawns yn gyfle i gyfathrebu drwy symud. Acronym RECIPE Cyfleoedd i drafod a chynllunio e.e. defnyddio Waliau Geiriau. Defnyddir iaith ddisgrifiadol wrth greu dawnsfeydd i ehangu a datblygu geiriau allweddol a geirfa. Mae'r adnoddau i gyd yn ddwyieithog. 

Mathemateg a rhifedd - nifer o gyfleoedd i gyfrif (curiadau a rhythm), ac iaith sy'n gysylltiedig ag Amrywiaeth – cyflymder, cyfeiriad, lefelau, llwybrau. Gall un elfen fel cyflwyno gweithred neidio mewn Dawnsio Gwerin gyflwyno ffracsiynau, amser ac onglau.

Gwyddoniaeth a Thechnoleg – bod yn chwilfrydig am y byd naturiol. Yr unedau penodol o waith yn cynnwys Magneteg, Ymestyn a Thorri a Char Citroen. Canu yn y Glaw.

Ystyriaethau ac awgrymiadau wrth symud ymlaen:

 

Dangos yn glir, unwaith y cyflwynir Gweithredoedd Dawns Sylfaenol, y gellir cymhwyso'r rhain i UNRHYW thema / dawns / cyd-destun / ysgogiad. 

 

Mae cael strwythur clir, cynyddol yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i athrawon / ymarferwyr gyda'r adnoddau, eu medrusrwydd a sut i'w defnyddio a'u trosglwyddo.

 

Tynnu sylw clir at gynhwysiant a gwahaniaethu gyda dysgwyr yn cael eu herio. Gellir cyflwyno'r agweddau datblygiadol a chynyddol (e.e. haenu’r dysgu gyda dyfeisiau coreograffig) i unigolion, parau, grwpiau bach, dosbarth cyfan fel a phan mae’r dysgwyr yn barod. 

 

Ymgorffori / dolenni i SMILES a STEP o'r dechrau un. 

 

Mae CDs a CD ROM bellach yn anodd i lawer eu defnyddio felly mae angen rhannu adnoddau ar blatfform gwahanol (mae'n amlwg bod hyn yn bosibl oherwydd bod adnoddau'n cael eu rhannu'n llwyddiannus ar wefan Chwaraeon Cymru yn ystod cyfyngiadau symud COVID 19).

Mynediad am ddim i adnoddau addysg