Skip to main content

Dawns

CA3

Dawns CA3 - I wneud dawns yn hygyrch i athrawon a dysgwyr. Am fwy o wybodaeth am yr adnodd hwn a sut mae’n bodloni gofynion y Cwricwlwm i Gymru, cliciwch yma.

Adnodd: Dawns CA3 
Pwrpas: Gwneud dawns yn hygyrch i athrawon a dysgwyr 

Crynodeb o’r cynnwys:

 

CD Rom gyda chardiau adnoddau ar gyfer: 

5 Gweithred Dawns Sylfaenol 

Trefniadau gofodol – 3 Ffurfiant a 9 Perthynas   

5 Agwedd ar Amrywiaeth (cyflymder, cyfeiriad, lefel, llwybr, siâp)

17 dyfais goreograffig           

6 uned waith gyda chwe sesiwn yr un (yn adeiladu o’r 12 uned waith flaenorol y gellir eu defnyddio hefyd) 

Arddulliau Dawns 

Taflenni data ar gyfer: Affricanaidd, Ballet, Cha-cha, Cyfoes, Hip-hop, Indiaidd, Lladin, Mambo, Merengue, a Salsa.

Taflenni gwybodaeth ar gyfer 9 coreograffydd dylanwadol, 3 chwmni dawns dylanwadol,

Gyrfaoedd mewn dawns.

Syniadau cynhesu

Taflenni data ar gyfer Salsa a Lindy hop. 

Lluniau 

Cwestiynu effeithiol, cwestiynau heriol a datblygu sgiliau cwestiynu dysgwyr        

Llwyddiant i Bawb 

 

Nodweddion Trosglwyddadwy Arwyddocaol:

 

Mae Gweithredoedd Dawns Sylfaenol yn sylfaen i’r holl symudiad creadigol a gellir eu cymhwyso i unrhyw gyd-destun, unrhyw thema ac unrhyw ysgogiad.

Camau cynyddol ar gyfer datblygu dawns safonol gan ddefnyddio: Trefniadau gofodol; Amrywiaeth; Dyfeisiau coreograffig

Cyfarwyddyd clir ar gyfer cynllunio defnyddio RECIPE fel strwythur gwers. 

Cyflwyniad i amrywiaeth o arddulliau dawnsio  

6 uned waith o chwe sesiwn yr un     

Y cyfarwyddyd yn cynnwys defnyddio STEP, arddulliau addysgu, strategaethau grwpio, asesu, dulliau addysgeg (e.e. model Addysg Chwaraeon), defnydd effeithiol o gwestiynu, defnydd o TGCh.

 

Sut mae’r adnodd yn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd:

 

Cyfannol a chynhwysol ei natur. 

 

Gellir cyflwyno agweddau datblygu (e.e. haenu’r dysgu gyda dyfeisiau coreograffig) i unigolion, parau, grwpiau bychain, dosbarth cyfan fel a phan mae’r dysgwyr yn barod.             

 

Adeiladu ar Weithredoedd Dawns Sylfaenol a gall y camau o ddatblygu cysylltiadau dawns gael eu gwneud i’r rhan fwyaf o themâu / ysgogiadau er mwyn ystyried cyfleoedd trawsgwricwlaidd a sgiliau ehangach.                                     

 

Cyfleoedd i ddysgwyr fynegi syniadau, meddyliau a theimladau.

 

Mae archwilio trefniadau gofodol yn gyfle i archwilio perthnasoedd mewn ffordd ddatblygiadol a diogel.       

 

Hyder a Chymhelliant
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Hygyrchedd yr adnodd a’r natur gynyddol yn rhoi hyder i ddysgwyr i ddatblygu dawnsfeydd o safon.               Mae’n rhoi i athrawon y sylfaen, y brwdfrydedd a’r hyder y gallant gael yr adnoddau i addysgu’r MDaPh hwn, ac yn eu cymell i wneud hynny. 
Medrusrwydd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr

Mae datblygu gweithredoedd dawns sylfaenol a chynyddol yn meithrin medrusrwydd dysgwyr ac yn eu herio i wella.

Datblygu annibyniaeth fel perfformiwr, coreograffydd, beirniad a thechnegydd.

Yn defnyddio RECIPE fel strwythur cynllunio gan arwain athrawon i gyflwyno gwersi cynyddol.       

Mae'n cynnig profiad pwnc a methodolegol a sgiliau ystafell ddosbarth cyffrous.

 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Mae’r dysgwyr yn dysgu gweithredoedd dawns sylfaenol yn gyflym ac yn trosglwyddo’r rhain yn ddawnsfeydd safonol drwy ddatblygu eu dealltwriaeth o ddyfeisiau coreograffig, trefniadau gofodol ac agweddau ar amrywiaeth ochr yn ochr â’r eirfa benodol yn gysylltiedig â’r rhain.   Defnyddir Cardiau Adnoddau a Chardiau Data i ddatblygu gwybodaeth a dealltwriaeth ar gyfer elfennau fel Trefniadaeth Ofodol, Amrywiaeth, Dyfeisiau Coreograffig.
Cyfleoedd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Cyfleoedd lluosog i ddysgwyr greu dawnsfeydd cynyddol yn annibynnol, gyda chefnogaeth cardiau adnoddau a thaflenni data. 

Cyfleoedd lluosog i hwyluso dysgu gan ddefnyddio amrywiaeth o ysgogiadau a haenu dysgu gan ddefnyddio cardiau adnoddau a thaflenni data.

Cyfleoedd i ddefnyddio dulliau Asesu ar gyfer Dysgu ac amrywiaeth o ddulliau addysgu. 

Dolenni at MDaPh eraill

 

Gellir cymhwyso egwyddorion dawns i unrhyw gyd-destun ac unrhyw ysgogiad. Gallai cynnwys o unrhyw un, a phob Maes Dysgu a Phrofiad gynnig y cyd-destun hwn gyda'r thema a'r ysgogiadau.

Celfyddydau Mynegiannol – Mae dawns yn ffurf artistig ar gyfathrebu dieiriau. Mae’n gyfle i gyfathrebu drwy symud a chreu ystyr. Mae'n ffordd gynhenid i ddysgwyr fynegi syniadau, meddyliau a theimladau. Gellir defnyddio lluniau du wedi’u torri allan, a lluniau amryliw, ar gyfer Gwaith Celf hefyd. Gall dawns helpu dysgwyr i ddatblygu creadigrwydd a dychymyg.   

Iechyd a Lles – Gall dawns fod yn gyfle personol iawn i archwilio a mynegi teimladau ac emosiynau. Mae'n symudiad dynol a ddefnyddir fel math o fynegiant a rhyngweithio cymdeithasol. Mae teimladau, hwyliau a syniadau yn symbolaidd yn hytrach na real ond gellir eu defnyddio i archwilio a rheoli'r rhain. Bydd y dysgwyr yn dysgu am iaith y corff, perthnasoedd cymdeithasol a sgiliau rhyngweithio wrth iddynt gymryd rhan a rhyngweithio ag eraill, mae'n helpu dysgwyr i archwilio'r berthynas rhwng eu teimladau, eu gwerthoedd a'u profiadau. Gall Dawns fod yn weithgaredd hamdden gydol oes 

Dyniaethau – Mae dawns yn codi ymwybyddiaeth dysgwyr o wahanol draddodiadau, diwylliannau a chredoau, gan barchu gwahaniaethau pobl eraill ac ysbrydoli chwilfrydedd yn y byd. Mae hyn yn datblygu parch, goddefgarwch, sensitifrwydd i weithio gydag eraill a dealltwriaeth o draddodiadau, amseroedd a llefydd lle mae dawns wedi dod. Mae dawns yn symudiad dynol a gyflwynir yn aml mewn lleoliad ysbrydol. 

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu – Mae dawns yn gyfle i gyfathrebu drwy symud. Yn cynnwys cronfa o eiriau ac ymadroddion, a geirfa. Acronym RECIPE. Cyfleoedd i drafod a chynllunio e.e. defnyddio Waliau Geiriau. Defnyddir iaith ddisgrifiadol wrth greu dawnsfeydd i ehangu a datblygu geiriau allweddol a geirfa. Wrth i ddysgwyr ehangu eu geirfa gyffredinol byddant yn gallu ehangu eu geirfa symud, yn enwedig berfau, ansoddeiriau ac adferfau cysylltiedig â gweithredoedd dawns. Ysgogiad o gerddi a straeon, Dull Bwrdd Stori yn ddull coreograffig o weithredu. Mae'r adnoddau i gyd yn ddwyieithog. 

Mathemateg a rhifedd - nifer o gyfleoedd i gyfrif (curiadau a rhythm), ac iaith sy'n gysylltiedig ag Amrywiaeth – cyflymder, cyfeiriad, lefelau, llwybrau. 

Gwyddoniaeth a Thechnoleg – bod yn chwilfrydig am y byd naturiol. Gellid defnyddio cysyniadau gwyddonol fel ysgogiad ar gyfer dawns e.e. trydan, solidau, hylifau a nwyon, strwythur moleciwlaidd. Ymhlith yr unedau gwaith penodol mae Magneteg. 

 

Ystyriaethau ac awgrymiadau wrth symud ymlaen:

 

Dangos yn glir, unwaith y cyflwynir Gweithredoedd Dawns Sylfaenol, y gellir cymhwyso'r rhain i UNRHYW thema / dawns / cyd-destun / ysgogiad. 

 

Mae cael strwythur clir, cynyddol yn rhoi'r wybodaeth a'r hyder i athrawon / ymarferwyr gyda'r adnoddau, eu medrusrwydd a sut i'w defnyddio a'u trosglwyddo.

 

Tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer Asesu ar gyfer Dysgu, dulliau addysgeg, cwestiynu a chreadigrwydd.             

 

Datblygu Model Addysg Chwaraeon fel dull addysgeg – drwy dynnu sylw pellach a mabwysiadu rôl perfformiwr, coreograffydd, beirniad a thechnegydd am yn ail fel cyfle i gysylltu ymhellach â MDaPh eraill. 

 

Tynnu sylw clir at gynhwysiant a gwahaniaethu gyda dysgwyr yn cael eu herio. Gellir cyflwyno'r agweddau datblygiadol a chynyddol (e.e. haenu’r dysgu gyda dyfeisiau coreograffig) i unigolion, parau, grwpiau bach, dosbarth cyfan fel a phan mae’r dysgwyr yn barod. 

 

Ymgorffori / dolenni i SMILES a STEP o'r dechrau un. 

 

Mae CDs a CD ROM bellach yn anodd i lawer eu defnyddio felly mae angen rhannu adnoddau ar blatfform gwahanol (mae'n amlwg bod hyn yn bosibl oherwydd bod adnoddau'n cael eu rhannu'n llwyddiannus ar wefan Chwaraeon Cymru yn ystod cyfyngiadau symud COVID 19).

            

Mynediad am ddim i adnoddau addysg