Skip to main content

Gymnasteg

Modiwl 2

Modiwl Gymnasteg 2 - Yn gwneud gymnasteg yn hygyrch i athrawon a dysgwyr ac yn adeiladu ar y Gweithgareddau Addysgu’r Corff a gyflwynwyd ym Modiwl 1. 

Adnodd: Modiwl Gymnasteg 2 
Pwrpas: Gwneud gymnasteg yn hygyrch i athrawon a dysgwyr ac adeiladu ar y Gweithgareddau Addysgu’r Corff a gyflwynwyd ym Modiwl 1.

Crynodeb o’r cynnwys:

 

Gweithgareddau Addysgu’r Corff Pellach: cadarnhau i ddatblygu cryfder, dygnedd a hyblygrwydd angenrheidiol i ymgeisio’n llwyddiannus 

Gemau Addysgu’r Corff 

Siapiau Sylfaen     

Ystumiau Sylfaen   

Ystumiau Neidio     

 

Gweithredoedd sylfaenol: teithio (gan gynnwys dringo), neidio (gan gynnwys hedfan), cydbwyso (gan gynnwys siglo), rholio (gan gynnwys cylchdro) 

Amrywiaeth: cyflymder, cyfeiriad, lefel, siâp

Ansawdd: rheolaeth, eglurder siâp, tensiwn y corff, ac os yw’n briodol ymestyn, manwl gywirdeb a chysondeb 

 

Continwwm addysgu’r corff

Cyfarpar: cyfarpar trin, offer, cynlluniau cyfarpar a defnyddio cyfarpar  

6 uned waith (7 – 12) chwe sesiwn yr un 

Datblygu dilyniannau gan gynnwys amcanion dysgu clir 

Cyfarwyddyd clir ar gyfer cynllunio i ddefnyddio RECIPE fel strwythur gwers     

Llwyddiant i Bawb 

Cronfa o ymadroddion

 

Adnoddau corfforol i'w lawrlwytho: 

Gweithgareddau Addysgu’r Corff

Cardiau gwag – ar gyfer lluniau o ddysgwyr i’w defnyddio

Cardiau bingo 

Lluniau bach 

Taflenni gwerthuso 

Straeon addysgu’r corff 

 

CD Rom Modiwl Gymnasteg 2 gyda gwybodaeth ehangach a fersiwn electronig o gardiau sgiliau a chardiau gweithgarwch. 

 

Nodweddion Trosglwyddadwy Arwyddocaol:

 

Gweithgareddau Addysgu’r Corff

Siapiau Sylfaen     

Ystumiau Sylfaen   

Datblygu gweithgareddau / dilyniannau a sgiliau

RECIPE

Adeiladu a mireinio dilyniannau

Continwwm addysgu’r corff 

Straeon addysgu’r corff 

Modelau gwerthuso 

Cyfarwyddyd ar ddefnyddio cyfarpar – mae neges yr ysgol gyfan yn berthnasol i Fodiwlau 1, 2, 3 a 4

 

Sut mae’r adnodd yn bodloni gofynion y cwricwlwm newydd ar hyn o bryd:

 

Ystyried anghenion datblygu’r dysgwyr gyda’r dysgwyr i gyd yn gallu cymryd rhan yn llwyddiannus yn y gweithgareddau. 

 

Cyfannol a datblygiadol ei natur.

 

Cyfleoedd i ddysgwyr archwilio a deall problemau a thasgau (e.e. cyfleoedd ar gyfer gweithgareddau dan arweiniad dysgwyr a gweithgareddau dan arweiniad ymarferwr).

 

Defnyddio gwerthuso’r hunan ac eraill (hunanwerthuso a gwerthuso cyfoedion)

Hyder a Chymhelliant
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Mae helpu plant i ddatblygu eu brwdfrydedd dros symudiad yn rhoi hyder iddynt ddal ati i fod yn actif yn gorfforol.Mae’n rhoi i athrawon y sylfaen a’r hyder y gallant gael yr adnoddau i addysgu’r MDaPh hwn, ac yn eu cymell i wneud hynny. 
Medrusrwydd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr

Datblygiad corfforol gweithgareddau addysgu'r corff, siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen.

Mae dysgu sgiliau symud allweddol yn meithrin mwynhad ac ymgysylltu gydol oes â chwaraeon a gweithgarwch corfforol.

Adeiladu dilyniannau gan ddefnyddio siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen newydd BSA.

Mae'n cynnig profiad pwnc a methodolegol a sgiliau ystafell ddosbarth cyffrous.

Gwybodaeth a chyfarwyddyd am bob BSA, siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen. Yn cynnwys ar gefn y cardiau sy’n cael eu dangos i’r dysgwyr. 

Strwythur RECIPE 

 

Gwybodaeth a Dealltwriaeth
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Mae’r dysgwyr yn gwybod techneg gywir y sgiliau ac yn deall sut gallant eu rhoi mewn gemau, gweithgareddau a dilyniannau. Datblygu annibyniaeth a gweithio gydag eraill. Adlewyrchu gan ddefnyddio hunanasesu ac asesu cyfoedion. Cardiau adnoddau yn rhoi cynnwys clir i athrawon / ymarferwyr a hefyd sut i haenu datblygiad dilyniannau gydag agweddau ar amrywiaeth, defnydd o gyfarpar a chwestiynu effeithiol.         
Cyfleoedd
DisgyblionAthrawon / ymarferwyr
Cyfleoedd i wneud cardiau adnoddau dysgwyr unigol i'w harddangos neu eu defnyddio. Ysgrifennu straeon Addysgu'r Corff eu hunain a chreu gweithgareddau a gemau newydd ar eu pen eu hunain, gydag eraill, gydag ymarferwyr.

Cyfleoedd lluosog i arwain a hwyluso dysgu gan ddefnyddio’r cardiau adnoddau, straeon Addysgu’r Corff, siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen, gweithgareddau a gemau.   

Cyfleoedd i ddefnyddio dulliau Asesu ar gyfer Dysgu. 

Dolenni at MDaPh eraill

 

Celfyddydau Mynegiannol – Gellir defnyddio cerddoriaeth i ddatblygu a pherfformio dilyniannau gymnasteg. 

Iechyd a Lles - Os yw plant yn mwynhau bod yn actif, yn hyderus yn eu gallu ac yn dysgu sgiliau symud allweddol bydd hyn yn meithrin mwynhad gydol oes o chwaraeon a gweithgarwch corfforol ac felly'n gwella iechyd a lles. Archwilio a darganfod siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen.

Ieithoedd, Llythrennedd a Chyfathrebu – Cynnwys cronfa o eiriau ac ymadroddion a geirfa. Straeon addysgu’r corff – dysgwyr yn cael eu hannog i ysgrifennu straeon addysgu’r corff eu hunain. Mae'r adnoddau i gyd yn ddwyieithog.

Mathemateg a rhifedd - cyfleoedd ar gyfer cyfrif, adnabod siapiau ac iaith lleoli.

Ystyriaethau ac awgrymiadau wrth symud ymlaen:

 

Mae gweithgareddau addysgu'r corff yn darparu sylfeini ar gyfer gymnasteg ond hefyd rheoli'r corff yn gyffredinol. Cynyddol wrth gyflwyno siapiau sylfaen ac ystumiau sylfaen – posibilrwydd y gall hyn ddod yn hybrid 

 

Defnyddio addysgeg o athrawon yn arwain ac felly datblygu eu gwybodaeth a'u hyder gyda'r adnodd a'u medrusrwydd o ran sut i'w ddefnyddio.

 

Haenu gyda dulliau Asesu ar gyfer Dysgu eraill.              

 

Ymgorffori mewn gweithgareddau / gemau eraill.

 

Ymgorffori / dolenni i SMILES a STEP o'r dechrau un. 

 

Mae CDs a CD ROM bellach yn anodd i lawer eu defnyddio felly mae angen rhannu adnoddau ar blatfform gwahanol (mae'n amlwg bod hyn yn bosibl oherwydd bod adnoddau'n cael eu rhannu'n llwyddiannus ar wefan Chwaraeon Cymru yn ystod cyfyngiadau symud COVID 19).

Mynediad am ddim i adnoddau addysg