Skip to main content

Cryfder a Chyflwr

Pwrpas cryfder a chyflwr yw gwella perfformiad a lleihau’r risg o anaf drwy ddatblygu cryfder, pŵer a dygnedd cyhyrol. 

Yn Athrofa Chwaraeon Cymru, mae ein hyfforddwyr Cryfder a Chyflwr yn cydweithio fel rhan o dîm rhyngddisgyblaethol sy’n cynnwys yr athletwr, yr hyfforddwr a hefyd y staff gwyddoniaeth chwaraeon a meddygaeth chwaraeon er mwyn cyflwyno rhaglen gyfannol o gefnogaeth. 

Prif rôl yr hyfforddwr cryfder a chyflwr yw dadansoddi gofynion corfforol camp mewn perthynas â’r amcanion perfformiad, a nodi’r gofynion cryfder a chyflwr.  

Meysydd gwaith

Mae ein hyfforddwyr Cryfder a Chyflwr yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sy’n cynnwys y canlynol: 

  • Asesiad perfformiad niwrogyhyrol
  • Cryfder, cyflymder/newid cyfeiriad ac amserlenni hyfforddi seiliedig ar ffitrwydd, yn y gampfa ac ar y cae
  • Hyfforddiant codi barbelau, ymarferion atodol a driliau ar y tir
  • Hyfforddiant cryfder craidd
  • Asesiad penodol i chwaraeon seiliedig ar symudiad

 

Ein Hardal Perfformiad Uchel Ar y Safle

Mae ein tîm Cryfder a Chyflwr wedi’i leoli yn Ardal Perfformiad Uchel Athrofa Chwaraeon Cymru, gyda’n gwasanaethau gwyddoniaeth a meddygaeth chwaraeon eraill. Mae gan yr Ardal Perfformiad Uchel offer llawn ac mae’n cynnwys llwyfannau grym. Mae ein hyfforddwyr Cryfder a Chyflwr yn gweithio hefyd gydag athletwyr a hyfforddwyr mewn lleoliadau hyfforddi penodol i chwaraeon ledled Cymru. 

Ein henw da

Mae gan ein hyfforddwyr Cryfder a Chyflwr gymwysterau MSc i gyd mewn Cryfder a Chyflwr ac mae rhai wedi’u hachredu gan UKSCA.  

Gweithio’n gyfannol 

Mae’r ymarferwyr yn Athrofa Chwaraeon Cymru’n cydweithio’n agos fel bod yr athletwyr yn cael triniaeth gyfannol. Mae’r hyfforddwyr cryfder a chyflwr yn gweithio’n agos gyda’r Ffisiolegwyr a’r Ffisiotherapyddion yn benodol. 

Chwaraeon Perfformiad Uwch - Newyddion Diweddaraf

Stori Mis Hanes LHDT+: Profiadau athletwyr LHDT+ mewn chwaraeon yng Nghymru

Mae angen gwneud mwy o hyd mewn chwaraeon ar gyfer athletwyr LHDT+.

Darllen Mwy

Ben Davies – manteision dull aml-chwaraeon o weithredu

Mae Ben Davies yn rhan o garfan Cymru sydd ar drywydd gogoniant Cwpan y Byd allan yn Qatar, ond mae…

Darllen Mwy

Sut gwnaeth chwaraeon ysgol helpu Bethan Lewis i gyrraedd Cwpan Rygbi’r Byd

Mae Bethan yn credu mai’r amrywiaeth o chwaraeon a brofodd fel merch ifanc a ddysgodd gymaint o wersi…

Darllen Mwy