Skip to main content

Cymhwyster Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Lefel 3 UKSCA

  1. Hafan
  2. Athrofa Chwaraeon Cymru
  3. Cryfder a Chyflwr
  4. Cymhwyster Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Lefel 3 UKSCA

Mae’r llefydd ar gwrs 2023 wedi gwerthu i gyd nawr. I gofrestru eich diddordeb ar gyfer cyrsiau yn y dyfodol, neu am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: [javascript protected email address]

 

Mae Dyfarniad Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru Lefel 3 UKSCA yn rhoi cymhwyster sy’n cael ei gydnabod yn genedlaethol i chi ac mae Chwaraeon Cymru wedi rhoi cymhorthdal sylweddol ato ar gyfer hyfforddwyr neu athrawon Addysg Gorfforol sy’n gweithio yn System Chwaraeon Cymru.

  • Wedi'i gymeradwyo gan CIMPSA
  • Yn cael ei weithredu gan hyfforddwyr Cryfder a Chyflyru proffesiynol sydd â phrofiad o weithio mewn 16 o wahanol chwaraeon ar lefel elitaidd
  • Mentora parhaus gyda staff Cryfder a Chyflyru Chwaraeon Cymru
  • Cymhorthdal mawr gan Chwaraeon Cymru - £400 (yn lle hyd at £1,500)
  • Addas ar gyfer hyfforddwyr ar bob lefel, athrawon Addysg Gorfforol ac arweinwyr chwaraeon eraill

 

Cael dadansoddiad llawn o'r cwrs i'ch mewnflwch – [javascript protected email address]

Mark Earle Welsh Judo

CYMERADWYAETH - MARK EARLE, JIWDO CYMRU

Beth yn eich barn chi oedd yr effaith arnoch chi o fynd drwy'r cwrs - beth ydych chi'n bwriadu ei gynnwys yn eich gwaith o ddydd i ddydd?

Yr effaith fwyaf gafodd y cwrs arnaf i oedd pwysigrwydd cynnwys a gweithredu sgiliau symud sylfaen o ansawdd da yn gywir. Rydw i wedi gweld llawer o anafiadau cronig yn datblygu mewn athletwyr yng nghamau diweddarach eu gyrfaoedd jiwdo ac rydw i’n cydnabod y bydd datblygu sgiliau symud a thechneg dda yn lleihau'n sylweddol y tebygolrwydd y bydd hyn yn broblem yng nghamau diweddarach datblygiad athletwyr.

Beth wnaethoch chi ei werthfawrogi fwyaf am y cwrs? Unrhyw beth sy'n ei wneud yn wahanol i gyrsiau eraill roeddech chi wedi'u hystyried?

Roeddwn i’n gwerthfawrogi sawl peth am y cwrs, Yn gyntaf, rydw i'n hoffi'r ffordd y cafodd ei gyflwyno. Roedd yn amlwg bod arweinwyr y cwrs yn awyddus ac yn llawn cymhelliant i fy helpu i drwy'r cwrs. Roedden nhw ar gael ac yn ymateb i gefnogi gydag ateb cwestiynau a darparu gwybodaeth berthnasol. Rydw i'n meddwl mae'n debyg mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gyflwyno'r cwrs yma felly roedd yna adegau pan oedden nhw'n dweud yn agored y bydden nhw’n dod yn ôl ataf i ynghylch rhai cwestiynau oedd gen i. Roedd y llyfr Sylfeini Cryfder a Chyflyru wedi'i strwythuro'n dda ac roedd y ffordd roedd yr aseiniadau’n fy arwain i drwy'r llyfr yn ddefnyddiol iawn ac yn rhesymegol.

A fyddech chi'n ei argymell i hyfforddwyr eraill, ac os felly, pam?

Fe fyddwn i’n argymell y cwrs yma i hyfforddwyr eraill oherwydd rydw i’n meddwl ei fod yn rhoi gwybodaeth sylfaenol am gryfder a chyflyru i hyfforddwyr cyrff rheoli sy’n galluogi sgyrsiau yn y dyfodol gyda hyfforddwyr Cryfder a Chyflyru arbenigol UK Sport, i siarad ar lefel uwch sydd, yn y pen draw, yn cael mwy o effaith ar ddarpariaeth well i'r athletwyr.

CWESTIYNAU CYFFREDIN

Beth os na allaf ymrwymo i un o'r dyddiau / penwythnosau?

Er ein bod yn argymell mynychu pob diwrnod wyneb yn wyneb i gael y gorau o'r cwrs, byddwch yn gallu cwblhau'r cymhwyster yr un fath os na allwch chi fynychu un o'r dyddiau / penwythnosau. Efallai y bydd angen i chi gwblhau rhywfaint o waith dal i fyny gartref yn annibynnol, neu ddod i mewn yn ystod diwrnod o'r wythnos os byddwch yn colli un o'r asesiadau ymarferol.

Ydych chi’n darparu ar gyfer anghenion dysgu penodol?

Ydym! Rhowch wybod i ni os oes gennych chi unrhyw ofynion dysgu penodol neu anafiadau parhaus a allai effeithio ar eich gallu i gymryd rhan mewn sesiwn ymarferol, a byddwn yn darparu ar gyfer y rhain ar eich cwrs.

A fydd hyn yn caniatáu i mi gael fy yswirio i ddarparu mewn amgylchedd campfa?

Bydd! Os ydych chi eisoes yn gweithio drwy CRhC neu ysgol, dylai'r cymhwyster ganiatáu i chi gyflwyno Cryfder a Chyflyru fel rhan o'ch cyflogaeth a chael eich cynnwys yn eu polisi atebolrwydd presennol. Gallwch hefyd benderfynu cymryd yswiriant preifat os hoffech wneud eich gwaith Cryfder a Chyflyru preifat eich hun y tu allan i'ch sefydliad.

UK Strength and Conditioning Association Logo and CIMSPA logo