Skip to main content

BETH FYDDAF YN EI DDYSGU?

Fel Hyfforddwr Cryfder a Chyflyru, byddwch yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i fod yn gwbl gymwys i gyflwyno hyfforddiant corfforol i athletwyr sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon (bob cam o lawr gwlad i lefel elitaidd) er mwyn gwella eu perfformiad ac atal anafiadau.

Mae hyn yn cynnwys dysgu sut i addysgu a chynllunio sesiynau ar gyfer datblygu:

Sgiliau symud sylfaenol (gwella gallu athletwr i symud ei gorff yn effeithlon ac yn effeithiol)Systemau egni (h.y. ffitrwydd aerobig ac anaerobig)Cryfder a phŵer

Cyflymder ac ystwythder

 

• Cyrcydu

• Colfachu

• Hyrddio 

• Gwthio / Tynnu

• Pedwarpedal

• Cylchdroadau

• Rhedeg, Neidio a Glanio

 

• Hyfforddiant i wella dygnedd aerobig ac anaerobig

• Cymhwysedd Symud Sylfaenol

• Cryfder

• Dygnedd Cyhyrol

• Hypertroffi

• Symudiadau ffrwydrol

 

• Cyflymu

• Arafu

• Newid Cyfeiriad

 

 

Byddwch hefyd yn cael eich uwchsgilio ar natur gyfannol hyfforddi Cryfder a Chyflyru, gan gynnwys y wyddoniaeth sylfaenol o ran hyfforddi a chynllunio yn ogystal â sut i greu amgylchedd Cryfder a Chyflyru difyr a chadarnhaol.

 

Gwybodaeth a                     

Sgiliau

 

Defnydd

Deall rôl Hyfforddwr         

Cryfder a Chyflyru

 

Darparu rhaglenni Cryfder a Chyflyru ‘sy’n cael eu harwain gan berfformiad’ ar draws ystod amrywiol o gyfranogwyr. Deall pryd i gyfeirio.
Sail wyddonol sylfaenol cryfder a chyflyruDefnyddio egwyddorion hyfforddiant i gyflwyno sesiynau effeithiol
Hyfforddiant effeithiolArddangos, disgrifio a hyfforddi symudiad effeithiol, gan symud ymlaen / dod yn ôl lle bo hynny yn briodol
Cynllunio rhaglenni hyfforddiDylunio ac ysgrifennu cynlluniau hyfforddi tymor canolig yn seiliedig ar ddadansoddiad cynhwysfawr o anghenion
Deall modelau technegolArsylwi, Hyfforddi ac Adborth, modelau technegol y cytunwyd arnynt yn seiliedig ar symudiadau
Hyfforddi effeithiolYmgysylltu, addysgu a chyfathrebu'n effeithiol â chyfranogwyr ar draws cefndir eang

Beth mae’r cwrs yn ei gynnwys – beth fydd yn ofynnol i mi ei wneud?

Bydd gofyn i chi gwblhau 5 asesiad. Bydd y 3 asesiad cyntaf yn ymarferol ac yn cael eu cwblhau yn y sesiynau wyneb yn wyneb gyda'r cyfranogwyr eraill ar y cwrs. Unwaith y byddwch chi wedi cwblhau'r rhain, mae'n ofynnol i chi gyflwyno rhaglen 12 wythnos i rywun y tu allan i'ch cwrs. Bydd yr asesiadau terfynol yn cynnwys creu portffolio a chyflwyno i arweinydd eich cwrs wrth i chi gynllunio, cyflwyno ac adlewyrchu ar y rhaglen 12 wythnos.

 

Asesiad Ymarferol A

Hyfforddiant symudiadau sylfaen - hyfforddi sesiwn 20 munud i grŵp bach

 

Asesiad Ymarferol B

Diogelwch hyfforddi yn y gampfa - sbotio a methu'n ddiogel

 

Asesiad Ymarferol C

Asesiad hyfforddiant seiliedig ar gryfder - hyfforddi sesiwn 40 munud i unigolyn

 

Asesiad D - Rhaglennu a Chynllunio

Gyda chyfranogwr bywyd go iawn, cynnal ymgynghoriad, dadansoddi anghenion, profi perfformiad, a dylunio rhaglen 12 wythnos. 

Yna byddwch yn cyflwyno'r gwaith hwn i'ch asesydd, 1-i-1 (gellir ei wneud trwy Teams/Zoom).

 

Asesiad E - Asesiad Effaith ac Ymarfer Myfyriol

Cyflwyno a darparu tystiolaeth o newidiadau i'r rhaglen, a log myfyriol. Bydd gofyn i chi gyflwyno eich myfyrdodau a chwblhau cwis anatomeg a ffisioleg.