Main Content CTA Title

Clwb Golff yn gyrru ymlaen at ddyfodol disglair

Mae aelodaeth Clwb Golff De Sir Benfro wedi cynyddu 23% ers iddo ailagor ym mis Mai. Mae hefyd yn gweithredu rhestr aros ar gyfer ei gynllun Newydd i Golff oherwydd bod llawer o bobl leol eisiau dechrau chwarae’r gêm erbyn hyn. Ond efallai y byddai wedi bod yn stori wahanol iawn pe na bai’r clwb wedi gallu talu ei rent neu gynnal a chadw’r cwrs golff.             

Yn ffodus, fodd bynnag, fe all Clwb Golff De Sir Benfro ddechrau edrych ymlaen gyda hyder ar ôl derbyn grant £5,000 o Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng Chwaraeon Cymru drwy gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru.

Talwyd costau’r rhent i Gyngor Sir Penfro ac er bod dau o geidwaid y lawnt ar ffyrlo, roedd posib i’r clwb ddefnyddio’r cyllid i ofyn i un ceidwad aros ymlaen i wneud yn siŵr bod y cwrs yn barod ar gyfer ei ailagor. Mae hyn wedi galluogi i bobl leol ddefnyddio’r safle ar gyfer ymarfer bob dydd yn ystod y cyfyngiadau symud. 


Meddai Capten y Clwb John Parsons: “Gyda holl barciau’r cyngor ar gau, hon oedd yr unig ardal ddiogel fawr ar gael yn Noc Penfro i aelodau’r gymuned ei defnyddio. Yn benodol, mae’r llwybrau gyda phalmant wedi bod o fudd i bobl anabl a defnyddwyr cadeiriau olwyn, ac i deuluoedd ifanc gyda phramiau a chadeiriau gwthio. Mae llawer ohonyn nhw wedi diolch i’r clwb am hyn. Heb y grant a heb allu cadw ceidwad lawnt ar y safle, ni fyddai hyn wedi bod yn bosib a byddai’r bobl leol wedi dioddef. 

“Rydyn ni wedi gwneud yr holl addasiadau angenrheidiol sy’n ofynnol gan Golff Cymru er mwyn i ni allu ailddechrau chwarae yn ddiogel. Ers ailagor, mae ein haelodaeth wedi cynyddu ac mae diddordeb lleol mawr yn ein cynllun Newydd i Golff, sy’n cael ei redeg gennym ni gyda chefnogaeth Goff Cymru. Mae’r cynllun yn llawn erbyn hyn, gyda rhestr aros. 

“Ymhell cyn i argyfwng y Coronafeirws daro, roedden ni’n gweithio’n eithriadol galed i wneud ein clwb yn lle croesawus, gan ddianc rhag yr hen ddelwedd ddiflas sydd gan lawer o glybiau golff. Ac rydyn ni wedi ailgydio yn hynny, diolch i’r cyllid argyfwng sydd wedi golygu ein bod ni mewn sefyllfa i allu ailagor yn gyflym.             

“O blith yr aelodau cofrestredig ar hyn o bryd, mae 67% yn ferched, sy’n adlewyrchu ein hymgyrch i gyflwyno golff i bob rhan o’n cymuned leol a galluogi i bobl gymryd rhan mewn camp newydd.”  

Cyllid newydd i helpu i warchod a pharatoi chwaraeon yng Nghymru

Mae Clwb Golff De Sir Benfro yn un o fwy na 300 o glybiau a sefydliadau cymunedol sydd wedi rhannu mwy na £600k o gyllid y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng gan Chwaraeon Cymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.         

I helpu i warchod mwy fyth o glybiau a sefydliadau cymunedol ledled Cymru, a galluogi iddynt baratoi ar gyfer cynnal chwaraeon ochr yn ochr â Covid-19, fe fyddwn ni’n cyhoeddi Cronfa newydd fawr ddydd Mawrth 7 Gorffennaf. Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael yr wybodaeth lawn drwy gofrestru ar gyfer cylchlythyr Cymru Actif

Newyddion Diweddaraf

Ffenestri ymgeisio newydd ar gyfer Cronfa Cymru Actif

Bydd Cronfa Cymru Actif yn cael ei rhedeg gyda thair ‘ffenestr’ ymgeisio yn ystod 2025-26.

Darllen Mwy

Rhoi llais i bobl ifanc ym maes diogelu

Darganfod pam y dylech gynnwys pobl ifanc mewn penderfyniadau diogelu yn eich clwb neu sefydliad chwaraeon.

Darllen Mwy

Cyngor doeth ar gyfer creu clwb chwaraeon cynhwysol

Wrecsam Clwb Rygbi Cynhwysol Rhinos yn rhannu eu cyngor ar sut y gallwch greu amgylchedd cynhwysol

Darllen Mwy