Gall fod yn anodd bod yn ddiolchgar weithiau pan nad yw bywyd yn dilyn y drefn, ond mae ymchwil wedi dangos y gall cyfrif eich bendithion wella lles emosiynol a lleihau pryder.
Yn ddiweddar, fe adeiladodd seicolegwyr ym Mhrifysgol Sheffield “wal o ddiolchgarwch” fel dull o wella iechyd meddwl pobl * ac mae Davies, y taflwr siot medrus a brenin y ddisgen, yn credu bod canolbwyntio ar beth sydd ganddo – yn hytrach na beth sydd wedi’i golli – yn profi’n amhrisiadwy.
“Roedd yn anochel bod Tokyo yn mynd i gael ei ohirio,” meddai. “Roedden ni i gyd yn aros am y newyddion. Fe fyddwn i wedi bod yn mynd am fy nhrydedd medal aur yr haf yma, ond mae’n mynd i orfod aros am flwyddyn arall.
“Dim ond mis oeddwn i oddi wrth gystadlu. Roeddwn i’n siomedig iawn pan wnaed y cyhoeddiad, ond rydw i’n gweld y cyfan fel bendith gudd.
“Roeddwn i i fod i ffwrdd am bedwar mis, ond fe fyddwn i wedi colli amser pwysig iawn gyda fy nyweddi a fy merch fach.
“Mae ei gweld hi’n tyfu i fyny yn rhoi pethau mewn persbectif. Does dim un fedal yn mynd i gymryd lle ei gweld hi’n rhedeg hyd y lle ac yn tyfu i fyny.
“Dyna ble rydw i wedi rhoi fy holl egni – yn fy nheulu. Mae’r athletau’n mynd i orfod aros blwyddyn arall. ’Sa i’n mynd i golli 15 mlynedd o waith caled dros nos.”
Felly, mae Davies yn mwynhau cyfnod hapus gartref gyda’i deulu, ei ddyweddi a’i ferch fach a anwyd y llynedd jysd cyn i Dad ennill ei bedwaredd medal aur yn olynol yn y taflu siot yn y Pencampwriaethau Byd yn Dubai.
Mae’r pencampwr yn hyfforddi ac mae wedi adeiladu caets taflu iddo’i hun yn yr ardd gefn – yn crogi rhwng dwy goeden afalau a gyda llwyfan wedi’i greu allan o fatiau stablau ceffylau.
Ac er ei fod yn ddyfeisgar tu hwnt, mae Aled yn cyfaddef ei fod wedi gorfod rhoi brêcs ar ei reddf gystadleuol, eto er mwyn cadw trefn ar bethau.
“Bod yn glyfar sy’n bwysig nawr,” meddai. “’Sa i’n ceisio am recordiau byd yn yr ardd gefn.
“Fi jyst yn treial dal ati a pheidio gadael i ormod o rwd setlo ar y cymalau gobeithio.
“Roeddwn i’n cael anhawster i ddechrau oherwydd roeddwn i’n mynd ar gyfryngau cymdeithasol ac roedd fel pe bai pawb yn gwneud ymarfer byw. Roedd pawb i weld yn chwalu pethau, ac fe wnes i feddwl, ‘ydw i’n ymarfer yn ddigon caled bellach?’
“Ond fi’n credu bod pobl wedi cyffroi braidd ar y dechrau, cyn i realiti gicio mewn. I lawer ohonom ni, dyma’n gwaith ni ac rydyn ni eisiau dod allan o hyn yn gwbl barod i fynd eto.
“Fi’n gobeithio bod pobl yn gymedrol. Mae’n bwysig cael gweithgaredd i rannu’ch diwrnod a ’sa i’n credu ’mod i erioed wedi gweld cymaint o bobl allan yn cerdded.”
Enillodd Davies fedal aur yn y ddisgen T42 yng Ngemau Paralympaidd Llundain yn 2012 gan ailadrodd y fuddugoliaeth yn y taflu siot F42 yn Rio bedair blynedd yn ddiweddarach.
Byddai Tokyo wedi bod yn gyfle i gofnodi hatrig hanesyddol yn ddim ond 28 oed. Ond bydd yn gwneud defnydd da o’r flwyddyn o ohirio, meddai – o ran ei fywyd teuluol a’i fywyd proffesiynol.
“Fi’n ffodus ’mod i’n gallu gwneud rhyw fath o daflu yn yr ardd, yn enwedig y stwff technegol.
“Mae’n rhyfedd oherwydd dyma’r amser pryd rydych chi’n dod allan o hyfforddiant y gaeaf ac rydych chi eisiau taflu – i weld pa mor bell allwch chi lansio.
“Ar hyn o bryd, fi’n teimlo ’mod i wedi gweithio’n galed iawn drwy’r gaeaf – wedyn cael wythnos i ffwrdd – a nawr fi’n mynd i mewn i fath arall o floc gaeaf. Ond gobeithio y bydd cyfle i mi wneud rhywfaint o gystadlaethau cyn diwedd yr haf.
“Rydw i’n mwynhau fy amser gyda fy nheulu. Rydw i’n rhoi popeth yn y taflu hefyd, ond mae’n fy mlino i. Mae athletau’n gamp hunanol iawn ac mae’n rhaid i chi wneud beth sydd orau i chi. Mae’n flinedig iawn.
“Felly fi’n credu ein bod ni’n ffodus o gael cyfle i ymlacio, peidio gorfeddwl pethau, a mwynhau beth sydd gennym ni o’n cwmpas. Dyna’r peth pwysicaf.
“Mae’r Gemau Paralympaidd yn gystadleuaeth sydd ond yn dod bob pedair blynedd ac yn aml does dim ail gyfle.
“Nawr ’fydd dim un garreg heb ei throi. Fe alla’ i ganolbwyntio ar y manteision un y cant yna dros y gaeaf ond rydw i’n gwybod y bydd fy ngwrthwynebwyr i’n hyfforddi’n galetach nag erioed hefyd.
“Fi’n falch bod pobl yn meddwl am y darlun mwy. Mae’n bandemig ac iechyd pobl yw’r peth pwysicaf.”