Skip to main content

HANNER MARATHON CAERDYDD PRIFYSGOL CAERDYDD A MARATHON A 10K ABP CASNEWYDD CYMRU WEDI’I OHIRIO I 2021

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. HANNER MARATHON CAERDYDD PRIFYSGOL CAERDYDD A MARATHON A 10K ABP CASNEWYDD CYMRU WEDI’I OHIRIO I 2021

Heddiw, mae Run 4 Wales, y cwmni y tu ôl i ddigwyddiadau chwaraeon cyfranogiad torfol blaenllaw Cymru wedi cyhoeddi y bydd Hanner Marathon Caerdydd Prifysgol Caerdydd a Marathon ABP Casnewydd Cymru yn cael eu gohirio i ddyddiadau newydd yn 2021.

Esboniwyd Y Prif Weithredwr, Matt Newman, y penderfyniad.

"Rydym wedi bod yn monitro'r sefyllfa o amgylch yr achosion o COVID-19 yn agos a'r canllawiau a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ac mae'n amlwg bellach na fydd yn bosibl llwyfannu digwyddiadau o'r raddfa hon yn yr Hydref.

 

"Rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru wneud cyhoeddiadau pellach yn ystod y misoedd nesaf arddychweliad graddol i galendr chwaraeon llawn ac er bod cyfyngiadau cloi wedi eu lleddfu yng Nghymru yn ddiweddar, rydym yn deall nad oes unrhyw bosibilrwydd y bydd 27,500 o gyfranogwyr a 100,000 o wylwyr yn ymgynnull yn ddiogel yng Nghaerdydd ar Hydref 4ydd a miloedd yn rhagor dair wythnos yn ddiweddarach yng Nghasnewydd ar Hydref 25ain 2020.

"Rydym hefyd yn ymwybodol o'r gyd-ddibyniaeth ar nifer o ddarparwyr gwasanaethau ar gyfer digwyddiadau o'r maint hwn, gan gynnwys argaeledd gwasanaethau cymorth meddygol, gwirfoddolwyr, gwasanaethau argyfwng, trafnidiaeth a llety.

"Ar ôl treulio cryn dipyn o amser yn siarad gyda'n noddwyr, partneriaid elusennol, Llywodraeth Leol a phartneriaid allweddol eraill, nid oes gennym unrhyw ddewis ond gohirio Hanner Marathon Caerdydd eleni ac aildrefnu'r digwyddiad i 28ain o Fawrth 2021. Bydd Marathon Casnewydd Cymru hefyd wedi’i ohirio i Ebrill 18fed 2021.

"Rydym wedi penderfynu cyfathrebu hyn nawr, er mwyn rhoi eglurder i bawb.

"Mae Hanner Marathon Caerdydd wedi dod yn un o ddigwyddiadau chwaraeon mwyaf eiconig Cymru. Mae'n rhoi cyfle i redwyr clybiau a'r cyhoedd redeg ochr yn ochr â rhai o redwyr blaenllaw'r byd. Hanner Marathon Caerdydd yw digwyddiad codi arian aml-elusennol mwyaf Cymru ac mae o fewn 10 Digwyddiad Gorau’r DU ar gyfer Codi Arian trwy Chwaraeon. Eleni, gwerthwyd allan y ddigwyddiad yn amser record a 2020, byddai Caerdydd yn ymuno â phedwar hanner marathon arall o'r radd flaenaf yn y Gyfres SuperHalfs newydd a gynhelir ledled Ewrop; Lisbon, Prague, Copenhagen a Valencia.

"Mae Hanner Marathon Caerdydd wedi dod yn llawer mwy na ras ffordd. Mae bellach yn darparu canolbwynt ar gyfer agenda cymdeithasol ‘Run 4 Wales’ a chyfle i wella bywydau llawer o bobl yng Nghymru. Yn ogystal â chodi proffil Caerdydd i gynulleidfa ryngwladol a gyrru dros £5 Miliwn o bunnoedd o werth economaidd i'r rhanbarth, mae'r digwyddiad yn tynnu sylw at fanteision rhedeg i wella iechyd corfforol a meddyliol. Trwy’r twf mewn grwpiau rhedeg cymdeithasol ledled Cymru, rydym hefyd yn ysbrydoli effaith gadarnhaol ar gynhwysiant cymdeithasol, rhedeg menywod ac ymgysylltu â’r gymuned.

Mae'r digwyddiad wedi cynnal Pencampwriaethau Cymru, Prydain, Hanner Marathon y Byd ac mae bellach yn nyddiadur yr holl athletwyr o safon fyd-eang. Bydd Mawrth 2021 yn nodi pum mlynedd ers i Gaerdydd cynnal Hanner Marathon y Byd, ac rydym yn bwriadu ei ddathlu. 

 

"Mae gan Gaerdydd y profiad o gynnal dau hanner marathon yn llwyddiannus mewn un flwyddyn galendr ac yn 2021 bydd rhifyn yr hydref yn cael ei gynnal fel arfer ar y dydd Sul cyntaf ym mis Hydref.

"Cysylltwyd â rhedwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y ddau ddigwyddiad trwy e-bost yn cadarnhau'r gohiriadau a'r opsiynau sydd ar gael iddynt. Mae manylion hefyd ar gael ar wefannau'r digwyddiadau.

"Rwy'n hynod falch o'r modd y mae'r tîm yn Run 4 Wales wedi ymateb i'r heriau a gyflwynwyd gan y Coronafeirws. Rydym yn gweithio gyda grŵp o sefydliadau digwyddiadau blaenllaw yng Nghymru i sefydlu canllawiau ar gyfer dychwelyd digwyddiadau yn ddiogel. Fel rhan o'n gwaith gyda'r MSO (Sefydliadau Chwaraeon Cyfranogiad Torfol), rydym hefyd yn cyd-fynd â'r sefydliadau digwyddiadau blaenllaw ledled y DU ac mae ein partneriaid SuperHalfs a Label Aur Athletau'r Byd yn rhoi mewnwelediad unigryw i ni o'r dull a ddefnyddir mewn llawer o wledydd eraill.  Bydd hyn yn caniatáu i ni gydweithredu a rhannu arfer gorau wrth ddarparu digwyddiadau wrth ddechrau pennod newydd mewn digwyddiadau cyfranogi torfol.

"Rydym felly yn optimistaidd y bydd y galw newydd a grëir gan y nifer cynyddol o “redwyr cloi” a’r awch parhaus gan y gymuned redeg yn caniatáu i Run 4 Wales bownsio’n ôl yn 2021 gyda thymor llawn digwyddiadau.

"Yn ystod yr wythnosau nesaf byddwn hefyd yn rhannu cynlluniau ar lansiad rhai mentrau newydd arloesol gan gynnwys rasys rhithwir a chynllun aelodaeth, gan gynnig gwobrau unigryw a heriau ysgogol tra ein bod ni i gyd yn colli'r wefr o ddigwyddiadau mawr.

 

Am fwy o fanylion gall rhedwyr fynd at:

Hanner Marathon Caerdydd https://www.cardiffhalfmarathon.co.uk/

Marathon Casnewydd https://newportwalesmarathon.co.uk/

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy