“Efallai ein bod ni ryw bythefnos y tu ôl i Loegr yng Nghymru o ran cyhoeddiadau, ond y realiti i’r rhan fwyaf o athletwyr yw nad ydyn nhw’n bell iawn y tu ôl i eraill – ac os ydyn nhw, mae hynny am y rhesymau iawn.”

“Yn Lloegr, fe wnaed y cyhoeddiad dair wythnos yn ôl i adael i rai athletwyr elitaidd fynd yn ôl i ymarfer, ond mewn realiti – oherwydd yr holl waith sydd angen ei wneud – ychydig iawn sydd wedi mynd yn ôl hyd yma. 

“Y negeseuon a’r canlyniadau iechyd cyhoeddus yw’r flaenoriaeth. Does dim posib creu risg yn y cyswllt hwnnw ac felly mae’n cymryd llawer o amser i sefydlu’r trefniadau a’r protocolau angenrheidiol.”

Yr ystyriaeth arall bwysig ym marn Davies yw bod y tirlun chwaraeon wedi newid.

Mae cystadlaethau wedi cael eu gohirio a thwrnameintiau wedi cael eu symud i ddyddiadau eraill.  Mae athletwyr Olympaidd a Pharalympaidd yn gweithio i amserlen newydd ac mae hyd yn oed y rhai sy’n cynllunio ar gyfer y Gemau Cymanwlad nesaf yn teimlo’r sgil-effeithiau.

Efallai bod yr athletwyr proffesiynol llawn amser yn Ninas Caerdydd a Dinas Abertawe wedi ailddechrau hyfforddi, ond mae gan bêl droed yn yr Uwch Gynghrair a’r Bencampwriaeth ddyddiadau wedi’u cadarnhau yn awr ar gyfer ailddechrau chwarae gemau.

“Mae’n rhaid i ni fod yn realistig ym mhob camp,” ychwanegodd Davies. “Does dim diben brysio’n ôl i hyfforddi’n llawn os nad oes cystadleuaeth wedi’i threfnu. Ar gyfer beth ydych chi’n dod yn ôl wedyn a sut gallwch chi raglennu trefn hyfforddi effeithiol? 

““Yn y byd pêl droed, maen nhw wedi gosod dyddiad ac wedi sefydlu cynlluniau hyfforddi er mwyn gweithio i’r dyddiad hwnnw. Os nad oes gennych chi ddyddiad, does dim brys a’r strategaeth orau yw sicrhau bod y cynlluniau’n cael eu rhoi ar waith.         

“Hyd yn oed ar gyfer ein hathletwyr Olympaidd ni, does dim dyddiadau eto ar gyfer eu cystadlaethau cymhwyso newydd. Efallai mai’r peth gorau i lawer o athletwyr ar hyn o bryd yw jyst dal ati gyda’u hyfforddiant craidd a pheidio â gwneud unrhyw beth mawr. 

“Gall hyn amrywio ryw ychydig o gamp i gamp a rhaid i’r athletwyr fod yn flaenllaw yn ein hystyriaethau ni bob amser.         

“Os oes problemau, rhaid i ni ymateb, ond ar hyn o bryd, dim ond ein bod ni’n cynnwys yr athletwyr yn y broses o wneud penderfyniadau, rydw i’n meddwl y byddwn ni’n iawn.”

Tan adolygiad nesaf Llywodraeth Cymru, bydd athletwyr elitaidd Cymru’n parhau i ymarfer ar eu pen eu hunain gan fwyaf, mewn llefydd cyhoeddus yn bennaf. 

Mae posib iddynt gael eu hyfforddi ar sail un i un yn awr, ar yr amod bod eu hyfforddwr yn byw yn lleol ac yn cadw pellter cymdeithasol – ond hyd nes bod gan eu camp gynllun yn ei le, ni fydd y cyfleusterau hyfforddi eraill yn ailagor eto yn y ffordd mae caeau hyfforddi’r clybiau pêl droed proffesiynol wedi gwneud. 

I sicrhau bod y cynlluniau hynny’n cael eu cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru, mae Chwaraeon Cymru, mewn partneriaeth â Chymdeithas Chwaraeon Cymru, wedi dod â gweithgorau amrywiol at ei gilydd i sefydlu tri gweithgor allweddol – yn cynrychioli chwaraeon awyr agored, chwaraeon dan do, a chwaraeon elitaidd a phroffesiynol. Mae cyfleusterau’n cael eu cynrychioli hefyd ac ni ellir gorbwysleisio’r her maen nhw’n ei hwynebu.

Bydd adborth o’r grwpiau hyn yn cael ei archwilio mewn partneriaeth â swyddogion Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno unrhyw gynigion am y ffordd ymlaen ar gyfer eu hystyried gan y Gweinidogion a’r Cabinet. 

Gyda gweithdrefnau newydd angen cael eu sefydlu – a gallai’r rhain amrywio o benodi swyddogion Covid19, rheolau cadw pellter cymdeithasol, glanhau a sgrinio athletwyr am symptomau – efallai y bydd pryderon mewn sawl camp am gostau hyn i gyd.         

Ond mae Davies yn dweud y bydd y costau cychwynnol ar gyfer y chwaraeon ar lefel elitaidd y gellid eu croesawu i Ganolfan Genedlaethol Chwaraeon Cymru yn debygol o gael eu hamsugno gan Chwaraeon Cymru a’r chwaraeon unigol. Wrth i’r ffocws newid i agor chwaraeon cymunedol, dylai cronfeydd fel y Gronfa Cadernid Chwaraeon helpu i dalu am lawer o’r rhwymedigaethau ychwanegol.

Y ffactor olaf – i bob camp ei ystyried – yw y bydd y dychwelyd at hyfforddi’n raddol, fesul cam, ac mae’n debygol o symud yn gyflymach mewn rhai chwaraeon nag eraill.

“Ni fydd pob camp a phob clwb yn dychwelyd yn awtomatig at chwaraeon,” meddai Davies.

“I ddechrau, criw bach o athletwyr elitaidd fydd yn elwa o lacio’r cyfyngiadau er mwyn galluogi hyfforddi eto mewn cyfleusterau.     

“Ni fydd pob athletwr a phob camp yn dychwelyd i gyd ar unwaith. Bydd y gwersi rydyn ni’n eu dysgu’n cael eu bwydo wedyn i’r criw ehangach o athletwyr a chwaraeon.       

“Fe fydd angen amynedd. Ond, yn gyffredinol, mae ymateb y byd chwaraeon yng Nghymru wedi bod yn galonogol. Maen nhw wir yn deall pam mae’r cyfyngiadau hyn wedi cael eu rhoi yn eu lle a dydyn nhw ddim eisiau brysio’n ôl a chreu risg i iechyd y cyhoedd.”