Skip to main content

Rhaid peidio anghofio am chwaraeon merched - Lydia Hall

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Rhaid peidio anghofio am chwaraeon merched - Lydia Hall

Mae Lydia Hall yn hedfan yn ôl i’r DU ddechrau mis Awst – yr un mor benderfynol i fod yn uchel ar fwrdd arweinwyr Gornest Agored Merched yr Alban ag ydyw o helpu i greu newid mawr ym myd golff y merched. 

Ar ôl treulio chwe mis yn Awstralia – pedwar yn fwy nag a fwriadwyd oherwydd cyfyngiadau symud y pandemig byd-eang – mae Rhif 3 presennol Cymru wedi cael digon o amser i asesu ei champ a’i hanghyfiawnder. 

Fel aelod o gyngor chwaraewyr Taith Ewropeaidd y Merched, mae gan Hall, sy’n dod o Ben-y-bont ar Ogwr, farn gredadwy iawn am y byd golff Ewropeaidd, yn y DU ac yng Nghymru, ac i ba gyfeiriad ddylai fod yn mynd. 

Mae, meddai’r ferch 32 oed, yn amser am newid mawr os yw rhagor o ferched a genethod yn mynd i gael eu hysbrydoli a’u hannog i gymryd rhan yn y gêm.

 

Fel mewn llawer o chwaraeon, mae golff y merched ar y cyrion ers yr ailddechrau wedi’r cyfyngiadau symud wrth i’r dynion proffesiynol ar y brig ailddechrau ar daith y PGA yn UDA, ond eu cyfoedion benywaidd ar Daith Ewropeaidd y Merched yn methu gwneud hynny.       

Roedd yr un stori’n wir mewn cymaint o chwaraeon eraill. Oherwydd noddwyr ac arian teledu, roedd modd adfywio gêm y dynion. Ond nid felly gêm y merched. 

Gwelodd cyn Rif 1 y byd, Justin Rose, y broblem a phenderfynodd wneud rhywbeth amdani – gan greu Cyfres unigryw i Ferched, Cyfres Rose, sydd wedi darparu twrnameintiau ar gyfer chwaraewyr blaenllaw y DU. 

Mae Hall wedi bod yn methu dychwelyd o Awstralia – lle’r oedd yn chwarae mewn nifer o gystadlaethau, gan gynnwys Gornest Agored Awstralia – tan nawr. Mae’n croesawu penderfyniad Rose ond yn dweud bod gan eraill yn rhengoedd yr aml-filiwnyddion ym myd golff y dynion gyfle i wneud mwy. 

“Roedd gwir angen menter Justin Rose ac roedd yn grêt gweld chwaraewr ar daith y dynion yn sefyll i fyny ac yn dweud ,”Arhoswch am funud, ’dyw hyn ddim yn iawn, rydyn ni’n mynd yn ôl i’r gwaith a ’dyw’r merched hyn ddim yn cael cyfle oherwydd arian’” meddai Hall.

“Mae’r dynion hyn yn gwneud miliynau, nid drwy ennill ond hefyd drwy gymeradwyaeth.               

“’Dyw’r rhan fwyaf o’r merched ar Daith Ewropeaidd y Merched neu Daith yr LPGA ddim yn cael cymeradwyaeth, nac offer neu ddillad am ddim hyd yn oed, am fod y cyllidebau’n cael eu chwythu ar gêm y dynion. 

“Felly, roedd cael chwaraewr yn dweud, ‘na, ’dyw hyn ddim yn iawn. Rydw i am helpu,’ i’w groesawu. Ac mae cwmnïau wedi neidio ar y bandwagon hefyd, mae Sky TV yn cefnogi a dyna’r cwbl sydd ei angen – i rywun ddangos rhywfaint o barch – rhywun yn y diwydiant golff ac sy’n uchel ei barch ei hun.   

“Ond fe fyddwn i’n hoffi pe bai mwy wedi cefnogi a dweud, ‘ti’n gwybod beth, Justin, fe wna i gyfateb dy gefnogaeth di a chyfrannu’r un faint. Pe bai pump o ddynion wedi gwneud yr un peth, fe allen ni fod yn chwarae am £150,000.”

Hyd yn oed gyda noddwyr ar ffurf American Golf, £70,000 y twrnamaint yw’r wobr ariannol ar gyfres Rose.

Derbyniodd enillydd Pencampwriaeth Agored y Dynion y llynedd £1.5m, gydag enillydd Pencampwriaeth Agored y Merched yn ennill tua thraean o’r ffigur hwnnw, sef £517,000.

Mae hynny’n awgrymu bod y bwlch yn cau, gan fod yr un a enillodd fwyaf o arian yn 2008 ar daith y merched wedi cael £500,000 am y tymor – ffigur a fyddai wedi ei gosod yn Rhif 110 ar restr arian y dynion.         

Ond yn is i lawr yn y gadwyn fwyd, mewn cystadlaethau taith llai atyniadol, mae’r bwlch cyflog rhwng y rhywiau’n sylweddol o hyd ym myd golff. 

Mae Hall yn credu ei bod wedi ennill tua £500,00 mewn gwobrau ariannol ers troi’n broffesiynol yn 2008 – ond mae wedi gwario tua’r un faint ar hedfan i dwrnameintiau, talu am westai, cadi, offer a chostau eraill.                     

“Y gwir amdani yw, pe bawn i’n ddyn, fe fyddwn i’n filiwnydd yn braf nawr, ond ’sa i’n agos at hynny.         

“Dydyn ni ddim yn cael y clod rydyn ni’n ei haeddu na’r gefnogaeth mae’r merched yn ei haeddu. Yn union fel y dynion, rydyn ni’n gweithio’n galed iawn a ’sa i’n credu bod pobl yn parchu digon ar hynny.

“Gofynnodd Golf Digest Australia gwestiwn i’w holl ddilynwyr y diwrnod o’r blaen, gan ddweud, ‘pa handicap fyddai golffiwr amatur gwrywaidd yn gorfod ei gael i fod yn gystadleuol ar yr LPGA? ‘

“Yn sylfaenol maen nhw’n dweud y gallai golffiwr amatur gwrywaidd gystadlu gyda golffiwr proffesiynol benywaidd ar yr LPGA! Mae mor amharchus! Mae’n anhygoel! Mae’n fy ngyrru i’n wallgof.         

“Mae golff proffesiynol mor wahanol i’r amatur. Pan rydych chi wedi gwario 2,000 o bunnoedd dim ond i allu bod ar y tî ar y twll cyntaf, ac wedyn yn gwybod bod rhaid i chi suddo’r pum troedfedd rhag colli eich arian i gyd, mae’n deimlad gwahanol i unrhyw beth yn y gêm amatur. 

“Mae’n deimlad gwahanol i ryw ddyn yn pytio i ennill 20 punt a medal ar brynhawn Mawrth!         

“Peidiwch â nghamddeall i. Roedd gennym ni amserlen ragorol yn ei lle o fis Ionawr ymlaen. Roedd yn un o’r blynyddoedd cyntaf lle roeddech chi’n meddwl fe allwn ni wneud rhywfaint o arian a chael cyfle i wneud bywoliaeth. 

“Ond mae’r cyfyngiadau symud wedi newid hynny i gyd ac rydyn ni’n dechrau eto mewn ffordd.

“Mae cymaint o gwmnïau enfawr ar eu colled am beidio buddsoddi yng ngêm y merched oherwydd mae cymaint o bobl ym mhob cwr o’r byd yn hoffi gwylio golff merched.”

Y rheswm pam mae hyn i gyd yn bwysig, meddai Hall, - ac nid dim ond cwyno eto am arian mewn chwaraeon mae hi – yw oherwydd ei fod yn effeithio ar y cyfleoedd i fwy o ferched ddechrau chwarae golff.

Po fwyaf o sylw sydd, a pho fwyaf llwyddiannus yw’r modelau rôl, y mwyaf tebygol, meddai, yw y bydd golffwyr benywaidd ifanc Cymru’n dod yn rhan o fyd sy’n gallu cael ei reoli gan ddynion. 

“Y peth mwyaf a all ddod allan o’r cyfyngiadau symud yma a’r hyn sy’n digwydd wedyn yw bod gan ddynion berthynas agosach a mwy o barch at ferched – fel Roger Federer a Serena Williams mewn tennis.

“Maen nhw’n parchu ei gilydd. Rydw i’n gobeithio y gall hynny ddigwydd mewn golff – bod y dynion sy’n chwarae ar y daith yn ein cefnogi ni ac yn dweud, ‘hei – mae’r merched yma’n gallu chwarae, hefyd.’”

Newyddion Diweddaraf

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy

Paneli solar yn rhoi ynni i glybiau chwaraeon ledled Cymru

Mae chwyldro ynni gwyrdd ar droed mewn chwaraeon cymunedol yng Nghymru, gyda phaneli solar yn dod yn…

Darllen Mwy