Skip to main content

Dan Jervis - "Mae'r cyfyngiadau symud wedi newid fy agwedd at hyfforddi, nofio a hyd yn oed bywyd."

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Dan Jervis - "Mae'r cyfyngiadau symud wedi newid fy agwedd at hyfforddi, nofio a hyd yn oed bywyd."

Mae Dan Jervis yn falch o fod yn ôl yn y pwll, ond mae un o obeithion y Gemau Olympaidd yn cyfaddef bod y cyfyngiadau symud wedi newid ei agwedd at hyfforddi, nofio a hyd yn oed bywyd. 

Mae’r enillydd medal arian yng Ngemau Cymanwlad 2018 yn rhan o grŵp bychan o 11 o nofwyr elitaidd Cymru sydd yn ôl yn y dŵr yng Nghasnewydd ar hyn o bryd. 

Mae’r drefn yn wahanol – ac mae angen dod i arfer â hi – ond mae Jervis yn ddiolchgar am y cyfle i ailddechrau paratoi ar gyfer cystadlu am y tro cyntaf mae’n gobeithio yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo, yn y Gemau sy’n cael eu cynnal yn hwyrach yr haf nesaf.

Ond i Jervis, roedd cau pyllau’r wlad am bedwar mis yn brofiad â dwy ochr iddo.                                 

Er na chafodd y llanc 24 oed fynychu ei hyfforddiant rheolaidd, mae’n dweud ei fod wedi agor ei lygaid i bosibiliadau eraill. 

 

Symud o’r pwll i gystadlu mewn dŵr agored yw un ohonyn nhw – newid a fyddai’n golygu bod Dan yn dilyn llwybr seren arall yn y 1500m, David Davies – ond mae Jervis hefyd yn meddwl bod y cyfyngiadau symud wedi rhoi ffocws cliriach iddo. 

Ar ôl chwalu ei orau personol ei hun a symud i fod yn ail ar y rhestr pob amser ym Mhencampwriaethau Llundain y llynedd – dim ond Davies sydd wedi nofio’n gyflymach – ni lwyddodd Jervis i gynnal y safon yma ym Mhencampwriaethau’r Byd yn Ne Korea a chyfaddefodd bod y pwysau wedi bod yn ormod iddo. 

Ond mae manteision wedi bod o fethu cael mynd i’r pwll meddai’r nofiwr o Resolfen: “Er ei fod yn ddychrynllyd gwylio beth sydd wedi bod yn digwydd ledled y wlad ac ym mhob cwr o’r byd, rydw i’n meddwl bod y cyfnod yma wedi bod o help i mi fel person.   

“Fe roddodd fywyd normal i mi, ac ychwanegu persbectif. Fel athletwr, fe all fod yn anodd cael bywyd normal oherwydd mae popeth mor ddwys drwy’r amser. 

“Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae amseroedd wedi bod pan mae pethau wedi bod yn mynd yn dda iawn i mi fel nofiwr ac rydw i wedi bod yn hapus gyda fy amseroedd. 

“Ond yn feddyliol, roeddwn i’n dioddef oherwydd roeddwn i’n teimlo nad oeddwn i’n gallu ymdopi â’r holl bwysau yna. Roedd yn fy nharo i wrth gystadlu.     

“Mae’r cyfyngiadau symud wedi bod yn gyfle i mi gael amser, camu’n ôl a gwerthuso fy mlaenoriaethau a bod yn glir am bethau.       

“Rydw i wedi cael seibiant, a meddwl am bethau, a nawr rydw i’n teimlo ei bod yn amser i mi roi trefn arno i fy hun eto a mynd i mewn i’r flwyddyn nesaf yma’n barod ar gyfer y Gemau Olympaidd.”

Pan ddaeth y cyfyngiadau symud, fe symudodd Jervis – sy’n cael ei hyfforddi gan Adam Baker – yn ôl i dŷ ei rieni yng Nghwm Nedd, a chanolbwyntio ar gadw’n heini drwy redeg a beicio.                           

Mae’n dweud bod rhai wedi dysgu iaith yn ystod y cyfyngiadau symud ond yr wybodaeth ddysgodd ef yw ei fod yn gwbl sicr nad yw byth eisiau bod yn driathletwr. 

“Y prif beth wnes i ei ddysgu yn ystod y cyfyngiadau symud oedd mai nofiwr ydw i 100%. ’Sa i’n gallu rhedeg i achub fy mywyd!”

Ond fe ddaeth gwybodaeth arall hefyd, yn sgil nofio yn y llynnoedd ger Resolfen ac wedyn yn nyfroedd oer Bae Abertawe pan symudodd yn ôl ar ôl wyth wythnos i’w fflat yn y marina yn y ddinas.           

Efallai bod nofio dŵr agored – a ddiystyrwyd bron gan Jervis meddai ar ôl un ymgais ddiflas pan oedd yn iau – yn gweddu iddo wedi’r cyfan, ar ôl cyrraedd ei nod yn Tokyo.                          

Os felly, byddai’n dilyn yn llwybr Davies – y seren o’r Barri a enillodd fedal efydd yn y pwll yng Ngemau Olympaidd 2004, cyn hawlio medal arian yn y nofio dŵr agored 10km yn 2008.

“Fe wnes i rywfaint o nofio ym Mae Abertawe, ac yn Langland, ac mae’n gwneud i chi werthfawrogi pa mor hardd yw’r dirwedd a’r moroedd yma yng Nghymru. Rydyn ni’n ffodus iawn ac mae’n gallu bod yn ysbrydoledig. 

“Fe wnes i’r Great North Swim yn 2013 a hwnnw yw’r peth gwaethaf wnes i erioed. Fe ddois i’n olaf ond un ac roedd yn hunllef.         

“Ond, rywsut, fe gefais i fy newis i wneud ras dŵr agored 5k ar gyfer Prydain Fawr yn Nhwrci, ac fe aeth yn eithaf da.             

“Ond mae’r misoedd diwethaf wedi agor ychydig ar fy llygaid i. Efallai, ar ôl i mi nofio yn y Gemau Olympaidd yn y pwll, y gwna i fentro i nofio dŵr agored.             

“Fe wnaeth David Davies hynny, roedd e’n Gymro, ac os all e wneud e, fe alla’ i. Fe wnaeth Jazz Carlin yr un peth. Felly mae’n rhywbeth y gallwn i roi cynnig arno ryw ddiwrnod.”

Ond am nawr, archwiliadau iechyd, darllen ei dymheredd, apiau, masgiau a chadw pellter cymdeithasol ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Casnewydd sy’n ei gadw’n brysur.

Hynny a sicrhau ei fod ar yr awyren i Japan ymhen deg mis.     

“Ers i mi fethu cymhwyso ar gyfer Gemau Olympaidd Rio, rydw i wedi bod yn meddwl ’mod i am gyrraedd y nod bedair blynedd yn ddiweddarach.     

“Roedd pobl yn meddwl y byddwn i mor siomedig am ohirio Tokyo. Ond er ’mod i’n siomedig, y ffordd rydw i’n edrych ar hyn yw: mae gen i 365 o ddyddiau ychwanegol i wella a chael pethau i’w lle i’r dim.”

Newyddion Diweddaraf

‘Oedi’ Cronfa Cymru Actif ar gyfer ceisiadau newydd

Oherwydd y nifer aruthrol o geisiadau sydd wedi dod i law hyd yn hyn eleni, mae Chwaraeon Cymru yn oedi…

Darllen Mwy

Y clybiau cymunedol lle dechreuodd breuddwydion Paralympaidd

Dechreuodd y Paralympiaid Sabrina Fortune, Phil Pratt a Ben Pritchard i gyd mewn clybiau chwaraeon yng…

Darllen Mwy

Yr amgylchedd hyfforddi sy’n helpu chwaraewyr tennis bwrdd para Cymru i ffynnu

Mae hyfforddiant Neil Robinson wedi cael effaith ar Rob Davies, Paul Karabardak, Tom Matthews a Josh…

Darllen Mwy