Mae cyllid argyfwng o £535,402 wedi cael ei ddyfarnu hyd yma i glybiau cymunedol yng Nghymru sydd wedi cael eu taro gan effaith ariannol argyfwng Covid-19 a llifogydd y gaeaf.
Derbyniodd wyth o glybiau gyfran o £11,537 yr wythnos hon, sy’n golygu bod 286 o glybiau oedd angen cefnogaeth ariannol ar unwaith wedi derbyn grantiau yn awr drwy Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng Chwaraeon Cymru.
Hon oedd yr wythfed wythnos i’r ceisiadau i’r Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng gael eu hystyried gan Chwaraeon Cymru wrth iddo barhau i ddarparu cyllid i warchod chwaraeon yng Nghymru.
Dywedodd Owen Hathway, Cyfarwyddwr Cynorthwyol yn Chwaraeon Cymru: “Mae’n gyfnod digynsail i’r byd chwaraeon yng Nghymru, gan greu’r her fwyaf i’n seilwaith chwaraeon ni mewn cenhedlaeth.
“Gyda phopeth sy’n digwydd yn ystod argyfwng y Coronafeirws, weithiau mae’n hawdd anghofio ein bod ni wedi dioddef llifogydd enbyd hefyd yng Nghymru yn ystod y gaeaf diwethaf, a achosodd ddifrod sylweddol i lawer o’n clybiau chwaraeon ni.“Rydyn ni i gyd yn edrych ymlaen at weld rhyw fath o normalrwydd yn dychwelyd yn fuan, a bydd ein clybiau chwaraeon yn chwarae rhan enfawr mewn gofalu am iechyd corfforol a meddyliol y genedl wrth i ni adfer o’r cyfnod yma.
“Gall clybiau sydd angen gwneud cais fod yn hyderus y bydd cyllid ar gael iddynt os ydynt yn bodloni ein meini prawf. Rydyn ni wedi ymrwymo i ychwanegu at y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng pan fydd angen, wrth i ni weithio drwy gynlluniau ar gyfer cefnogaeth ariannol arall i helpu clybiau i ailddechrau.”
Gall unrhyw glwb cymwys sydd angen cefnogaeth ariannol ar unwaith wneud cais am uchafswm o £5,000. Nod y Gronfa Cymorth Mewn Argyfwng yw ategu ffynonellau eraill o gyllid sy’n cael eu darparu gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, fel cyllid wedi’i dargedu at fusnesau bach.
Gellir cyfeirio unrhyw gwestiynau neu ymholiadau i [javascript protected email address]