Skip to main content

Emily Stradling - seren pêl-fasged Cymru sy'n gwneud enw i'w hun yn yr Unol Daleithiau

  1. Hafan
  2. Newyddion, Straeon a Digwyddiadau
  3. Newyddion, Erthyglau ac Ymgyrchoedd
  4. Emily Stradling - seren pêl-fasged Cymru sy'n gwneud enw i'w hun yn yr Unol Daleithiau

Fe ddylai Emily Stradling fod wedi treulio mis Mehefin yn Georgia, UDA – yn paratoi ar gyfer gwella ei henw da ymhellach fel y chwaraewraig pêl fasged fenywaidd orau i Gymru ei hallforio dros fôr yr Iwerydd

Yn hytrach, mae’r fyfyrwraig o Brifysgol Mercer yn nhref Macon yn ôl gartref ym Mhorthcawl, yn meddwl tybed pryd bydd hi’n rhoi fest oren nodedig ei thîm, y Bears, amdani nesaf. 

Mae’r pandemig byd-eang wedi chwalu unrhyw obaith o neidio ar awyren yn ôl i’r Unol Daleithiau, felly mae Emily, 20 oed – cyn gapten Cymru D18 a chwaraewraig ryngwladol dros Brydain Fawr – wedi treulio’r wythnosau diwethaf yn cadw’n heini gartref ac yn gwneud interniaeth o bell ar-lein.

 

“Mae pethau wedi bod yn reit wahanol,” cyfaddefa. “Ond rydw i wedi treulio amser gyda fy nheulu ac yn gorffen rhai o fy nosbarthiadau, felly ’dyw e ddim wedi bod yn wastraff amser llwyr. 

“Ar hyn o bryd, dydyn ni ddim yn gwybod pryd bydd pethau’n dechrau eto, na sut, felly mae’n anodd gwybod pryd bydda’ i’n cyfarfod gweddill y tîm ac yn dechrau ymarfer, cyn y tymor, a dechrau eto ar gyfer y tymor nesaf.”

Os bydd ei hamynedd yn cael ei wobrwyo gyda’r math o effaith mae hi wedi’i chael yn ystod ei dau dymor hyd yma ym myd pêl fasged colegau merched UDA, fe all blwyddyn olaf Emily fod yn werth cadw llygad arni.                 

Mae Mercer – 85 milltir i’r de o Atlanta – yn brifysgol gyda llawer iawn o hanes o ran pêl droed dynion a merched, a chynigiodd ysgoloriaeth i Emily, a oedd yn arfer chwarae i Fet Caerdydd, ar sail ei pherfformiadau gyda’r Archers yn 17 oed ac ansawdd cwbl nodedig ei fideo o uchafbwyntiau.               

Yn ei blwyddyn gyntaf, roedd yn rhan o dîm Mercer a gafodd record o fuddugoliaeth o 25-7 yn y gyngres ddeheuol ranbarthol i fod yn rhan o dwrnamaint colegau cenedlaethol America gyfan. 

Wynebodd y tîm sêr Prifysgol Iowa (poblogaeth o 30,000 o fyfyrwyr, pedair gwaith maint Mercer) ac roedd ar y blaen 51-50 wrth fynd i mewn i’r chwarter olaf.

Pe bai’r brifysgol lai a’u capten o Gymru wedi sicrhau buddugoliaeth o flaen 4,000 o gefnogwyr, byddai wedi bod yn debyg i Ddinas Abertawe yn cnocio Lerpwl neu Ddinas Manceinion allan o Gwpan yr FA, ond yn y diwedd, boddi wrth ymyl y lan fu hanes Mercer o 66-61.

Yn ei hail dymor, nid yw Mercer wedi cyrraedd uchelfannau mor nodedig, ond mae Emily wedi sefydlu ei hun fel chwarewraig o safon, gan roi perfformiadau gorau sawl gwaith a mwynhau chwarae yn erbyn prifysgolion mwyaf America, o flaen torfeydd enfawr.   

“Mae chwarae o flaen miloedd o bobl yn deimlad anhygoel,” meddai Emily, a gafodd ei hyfforddi ym Met Caerdydd gan Ieuan Jones a chyn seren ryngwladol Prydain Fawr, Stef Collins.

“Pan mae’r dyfarnwr yn chwythu ei chwiban a’r cefnogwyr cartref yn anghytuno, mae’r lle’n mynd yn wallgof. Mae’n ffrwydro. 

“Pan wnaethon ni chwarae yn Efrog Newydd a Washington, fe wnaethon ni hedfan yno a phan oedden ni’n chwarae’r gêm yn Iowa, fe gawsom ni awyren siarter – ein tîm ni i gyd, y staff, cefnogwyr, pawb. Roedd yn wallgof.                   

“Mae popeth ar raddfa fawr, gyda sylw ar y radio a’r teledu i’r gemau, ac mae traddodiadau’r chwaraeon coleg yn cael eu parchu’n fawr.”

Mae’n wahanol iawn i bêl fasged colegau Cymru neu hyd yn oed y gêm ryngwladol yng Nghymru, sy’n cael anhawster creu enw iddi’i hun yn aml. 

Mae’n siŵr bod rhaglen ddogfen Michael Jordan a’r Chicago Bulls ar y teledu, The Last Dance, wedi bod yn rhan o sgwrs chwaraeon genedlaethol yng Nghymru yn ystod y cyfyngiadau symud, ond mae Emily’n cyfaddef nad oedd hi hyd yn oed wedi dychmygu chwarae pêl fasged yn America dair blynedd yn ôl – heb sôn am roi cynnig ar wneud hynny. 

“Tu allan i fy swigen fach i, doedd gen i ddim llawer o wybodaeth am bêl fasged na beth oedd allan yna, doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwybod ei bod yn bosib i mi fynd i chwarae yn America. 

“Does neb yma yn y DU yn gwylio pêl fasged colegau UDA mewn gwirionedd – doeddwn i ddim hyd yn oed yn gwylio pêl fasged NBA nes i Dad gael tanysgrifiad – ac felly doedd gen i ddim profiad real y tu allan i fy myd i.       

“Doedd dim modelau rôl i mi eu dilyn. Efallai bod pethau ychydig yn wahanol yn Lloegr, gyda’r academïau, ond rydw i’n meddwl bod pethau’n newid ychydig ac mae rhywbeth oedd yn teimlo fel breuddwyd ar un adeg o fewn cyrraedd rhywun yn fwy.”

Y freuddwyd yn y pen draw i Emily, a’r rhai ar y cwrt gyda hi, yw graddio efallai nid dim ond gydag anrhydedd academaidd ond i le yn NBA y merched.       

Cafodd cyfanswm o 36 o chwaraewyr eu dewis gan yr WNBA y llynedd, ond tra mae LeBron James yn ennill £26m y flwyddyn yn chwarae gêm y dynion, y fenyw sy’n cael y cyflog mwyaf yn y gamp yw DeWanna Bonner o Phoenix, a £103,000 yw ei chyflog hi.

Efallai y bydd Emily yn aros yn Mercer ar ôl y flwyddyn nesaf ac ar ôl graddio mewn dylunio graffeg a chyfathrebu, ac meddai: “Mae creu gyrfa o bêl fasged yn anodd iawn, i ddynion a merched, ond y gwahaniaeth yw nad ydi’r cyflog mor anhygoel â hynny i ferched. 

“Mae llawer o ferched yn yr WNBA yn chwarae ail dymor dramor yn ystod eu blwyddyn, dim ond er mwyn ennill digon o arian. 

“Fe allwch chi fod yn cyflawni mewn un ffordd, ond eto ddim mewn ffordd arall.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy