“Roedd cael gwybod na allwn i wneud fy ngwaith mwyach, yn enwedig a minnau mor ifanc, yn drobwynt enfawr.
“Fe ddaeth yn gwbl annisgwyl, ac fe gefais i fy ngorfodi i feddwl eto am bopeth.
“Roedd pethau wedi bod yn mynd mor dda gyda Chasnewydd. Roeddwn i wedi setlo yn yr ardal, ac roedd y clwb yn gwneud yn dda.
“Roedden ni newydd drechu Caerlŷr yn nhrydedd rownd Cwpan yr FA, sef un o’r dyddiau gorau i mi fel pêl droediwr fi’n credu.
“’Chefais i ddim cyfle i chwarae yn erbyn llawer o dimau’r Uwch Gynghrair, heb sôn am ennill yn eu herbyn.
“Roeddwn i’n gapten am y diwrnod, roedd fy nheulu i yno, roedd y gynulleidfa deledu ar y BBC yn enfawr, ac roedd y ddinas gyfan ar dân.
“Pan wnes i arwyddo i’r tîm fe gefais i fy rhybuddio am wneud yn siŵr ’mod i’n byw yr ochr iawn i’r ddinas, ond roeddwn i wrth fy modd yn byw yng Nghasnewydd.
“Fe wnes i fy ngorau i ddod i ddeall y ddinas a’i diwylliant ble bynnag oeddwn i’n chwarae. Fe gafodd fy merch i ei geni yn Ysbyty Brenhinol Gwent felly mae hi’n Gymraes yn dechnegol!
“Ar ôl stopio chwarae, roedd yn anodd cadw’n bositif, ond mae bywyd yn mynd yn ei flaen. Roedd cael trefn o ddydd i ddydd a chadw’n bositif o help mawr i mi.
“Mae’n rhaid i chi ddod o hyd i ffyrdd newydd o herio eich hun. Fe wnes i benderfynu dechrau cadw blog ac ysgrifennu am fy mhrofiadau.
“Fe ddois i i hoffi ysgrifennu ac roeddwn i eisiau defnyddio fy llwyfan. Mae’n hawdd ei ddilyn, dydw i ddim yn defnyddio geiriau ffansi na damcaniaethau cymhleth.
“Rydw i jyst yn rhannu fy ngwybodaeth a ’mhrofiadau. Rydw i wedi bod drwy lot! Pêl droed ydw i’n ei ddeall orau, dyna fy myd i.
“Dyna beth rydw i’n ei adnabod ac rydw i’n gweld chwaraewyr yn gwneud yr un camgymeriadau dro ar ôl tro. Roeddwn i eisiau rhoi sylw i rai o’r materion hynny.
“Nid dim ond y pethau mae pobl yn eu gwneud, ond yr achos, pam maen nhw’n eu gwneud nhw. Wedi dweud hynny, mae posib defnyddio’r hyn rydw i’n siarad amdano ym mhob swydd, pob cefndir.
“Rydyn ni i gyd yn wynebu’r un anawsterau fwy neu lai. Rydw i wedi bod yn cael llawer iawn o adborth da ar fy mlog gan bawb. Mae’n dda gwybod bod pobl yn teimlo bod hyn yn ddefnyddiol.
“Roedd y blog cyntaf wnes i’n sôn am ymddeol. Mae hwn yn rhywbeth mae’n rhaid i bawb fynd drwyddo ar ryw adeg, ond gyda phêl droedwyr mae’n tueddu i ddod rownd yn llawer cyflymach.
“Fel arfer, cyn i chi gael amser i roi trefn arno yn eich pen, heb sôn am baratoi’n emosiynol ac yn ariannol ar ei gyfer.
“Mae gennych chi drefn, a bywyd sy’n troi o amgylch hyfforddi a chwarae, ac wedyn yn sydyn, dydi hynny ddim yn wir.
“Mae’n teimlo fel bod yr holl ganllawiau a’r arwyddbyst sydd wedi bod yn rhan o’ch bywyd proffesiynol chi wedi cael eu chwalu a’u taflu i sgip.
“Yn ystod y cyfyngiadau symud, fe wnaeth llawer o glybiau ofyn i mi siarad gyda’u chwaraewyr a’u staff nhw am strategaethau ymdopi amrywiol.
“Mae’r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar bobl mewn sawl ffordd, ac mae wedi bod yn anodd i lawer o bobl.
“Mae pêl droedwyr wedi colli eu trefn, ac mae’n anodd iddyn nhw gadw’n bositif ac mewn lle da yn gorfforol ac yn feddyliol. Gyda chadw pellter cymdeithasol yn ei le, rydyn ni’n cynnal y sgyrsiau ar Zoom.
“Un peth arall wnes i siarad amdano yn fy mlog yn ddiweddar yw’r ffordd mae pêl droedwyr yn teimlo bod angen mynd o gwmpas y lle mewn ceir a dillad crand pan nad ydyn nhw’n gallu fforddio hynny gan amlaf.
“Maen nhw eisiau cyfleu delwedd o lwyddiant. Mae llawer o bobl y tu allan i’r byd chwaraeon yn cymryd yn ganiataol bod pob pêl droediwr proffesiynol yn gyfoethog iawn, ond dydi hynny ddim yn wir oni bai eich bod chi mewn clwb mawr.
“Mae llawer ohonyn nhw’n mynd i ddyled. Ac wedyn mae gennych chi chwaraewyr mewn clybiau mawr, sy’n cael contractau enfawr o oedran ifanc, heb gael llawer o gyngor nac addysg am sut i ddelio gyda hynny.
“Mae iechyd meddwl yn chwarae rhan enfawr ym mywyd pêl droedwyr. Mae’n edrych yn debyg bod y cyhoedd yn eu gweld nhw fwy fel cymeriadau allan o gomics na phobl go iawn.
“Ar ôl i mi orffen chwarae, fe wnes i fy mathodynnau hyfforddi ond doeddwn i ddim yn gallu gweld fy hun mewn rôl hyfforddi gonfensiynol felly fe wnes i sefydlu cwmni ymgynghorol o’r enw B5.
“Rhif pump oedd rhif fy hen grys i, ac mae’r ‘B’ yn dod o daid fy mhartner busnes i fu’n ymladd yn y rhyfel. Enw ei danc oedd Bramble Five.
“Ein nod ni yw bod yn gyswllt rhwng y chwaraewyr a’r rheolwyr. Mae cymaint o bethau mae chwaraewyr angen help gydag ef; o reoli eu cyllid i bethau fel adleoli, iechyd meddwl a phrofedigaethau.
“Mae’r pethau yma’n cael eu rhoi i’r naill ochr yn aml, neu eu diystyru yn llwyr. Os gall y chwaraewyr gael cyngor da a chadarn am y materion hyn pan mae ei angen, byddant yn gallu mynd allan a pherfformio’n well.
“Mae pawb ar eu hennill. Nid dim ond ar y cae, ond oddi arno hefyd.”
Blog Fraser:
https://fraserfranks.blogspot.com/