Skip to main content

Criced yn dod adref mewn mwy nag un ffordd

Mae’n dweud llawer am y tarfu sydd wedi bod ar y tymor criced eleni pan mai’r cynnwrf mwyaf yn Aberpennar yr haf yma yw pafiliwn wedi’i wneud gan un o’r chwaraewyr. 

Daeth misoedd o aros i’r tymor ddechrau i ben o’r diwedd pan lwyddodd y clwb – sy’n chwarae yn Adran Pedwar Cynghrair Criced De Ddwyrain Cymru – i chwarae gemau gan gadw pellter cymdeithasol yn ystod wythnosau olaf yr ymgyrch.               

Cyn hynny, yr unig fatiau oedd yn tynnu sylw yn y clwb oedd y rhai a ddefnyddiwyd fel handlenni drysau gan Nigel Williams ar gyfer y pafiliwn gwych mae wedi’i greu. 

Mae’r adeilad – a gafodd sylw ar BBC Radio Wales yn ystod y cyfyngiadau symud, a sylw mawr iawn ar gyfryngau cymdeithasol – yn crynhoi ysbryd a gwytnwch y clwb

 

Felly hefyd ei benderfyniad i oroesi effaith ariannol Covid-19, sydd wedi cael help gan grant sydd wedi’i ddyfarnu gan Chwaraeon Cymru o Gronfa Cymru Actif. 

Galluogodd yr arian i glwb Aberpennar wneud iawn am golli ffioedd gemau chwaraewyr, yn ogystal â’r arian sydd wedi diflannu am nad ydynt wedi gallu cynnal eu twrnameintiau chwech bob ochr poblogaidd a phroffidiol eleni. 

“Dydyn ni ddim wedi cael unrhyw incwm eleni mewn gwirionedd ac felly mae’n anodd iawn gweithredu clwb criced,” meddai’r chwaraewr-drysorydd, Jonathan Cross.

“Rydyn ni wedi cael tymor rhyfedd o ddim ond chwe wythnos yn y diwedd, ond mae costau i’w talu o hyd pan mae gennych chi dîm cyntaf ac ail dîm.       

“Doedden ni ddim eisiau codi’r ffioedd arferol ar yr aelodau am y tymor, gan fod cymaint o darfu wedi bod, ac roedden ni’n meddwl y byddai talu arian yn gwneud i bobl droi eu cefn. 

“Y peth hanfodol i ni oedd bod criced yn dal i fynd a chadw pobl yn awyddus i aros fel aelodau. Roedden ni eisiau cynnal diddordeb pawb mewn chwarae criced eleni.   

“Ond pan wnaethon ni ailddechrau chwarae, roedd costau i’w talu wrth gwrs – yswiriant, y costau cysylltiedig â diheintyddion a’r angen am gadw pellter cymdeithasol a hylendid.

“Roedd y cyfan yn golygu bod rhaid i ni gael padiau, batiau a menig criced ychwanegol oherwydd doedd dim posib cael yr un lefel o gyswllt uniongyrchol ymhlith y chwaraewyr ar gyfer cyfnewid offer fel arfer.         

“Felly roedd y grant o Gronfa Cymru Actif yn ddefnyddiol iawn ac mae wedi galluogi ni gael rhai o’r pethau oedd arnom ni eu hangen, a dal ati i gynnig criced.”

Mae gan Aberpennar ddau dîm – mae’r XI cyntaf yn chwarae yn adran pedwar a’r ail dîm yn cystadlu yn adran saith. 

Ond fe aeth y gemau cynghrair rheolaidd yr un ffordd â phopeth arall fwy neu lai yn ystod yr haf sydd wedi’i ddifetha gan y coronafeirws ac roedd rhaid i’r clwb fodloni ar chwarae cyfres o gemau yn erbyn clybiau lleol mewn cynghrair fechan.           

Roeddent yn ail yn y tabl ar y diwedd gan gyrraedd y rowndiau cyn-derfynol, ond eu prif fuddugoliaeth oedd cadw’r clwb yn dal i fynd drwy gyfnod anodd, ac roedd hyd yn oed y profiad o gêm yn teimlo’n rhyfedd ac yn anghyfarwydd. 

“Mae wedi bod yn rhyfedd,” cyfaddefa Jonathan. “Fel arfer, pan mae bowliwr yn cipio wiced mae pawb yn rhuthro ato i’w longyfarch. Ond mae’r holl agosatrwydd hwnnw a’r high fives wedi mynd.

“Roedden ni’n diheintio ein dwylo bob chwe phelawd ar y cae a dydych chi ddim yn cael rhoi siwmper nac unrhyw beth arall i’r dyfarnwr, nac unrhyw beth felly. 

“Wedyn, ar ôl y gêm, roedden ni’n arfer mynd i’r clwb a chael diod a chymdeithasu gyda’r tîm arall. Dydyn ni ddim wedi cael unrhyw gymysgu felly. Mae wedi bod yn chwarae’r gêm, dweud ffarwel ac wedyn pobl yn mynd i’w ceir ac yn gyrru i ffwrdd. Felly mae wedi bod yn wahanol iawn.”

Fel llawer o glybiau chwaraeon ledled Cymru, mae Aberpennar yn rhannu rhai cyfleusterau gyda chwaraeon eraill. Yn eu hachos hwy, mae’r clwb yn gartref i Glwb Rygbi a Phêl Droed Aberpennar a phan nad oedd y cyfleuster yn gallu agor, doedd gan y cricedwyr unman i fynd.             

Ond mae’r chwaraewyr oedd yn cyffwrdd penelinoedd ac yn yfed diod sydyn ar ôl y gêm o’u bagiau eu hunain ar y rhaff derfyn yn benderfynol o ddychwelyd y gwanwyn nesaf ac maen nhw’n gobeithio am fath gwahanol o dymor. 

“Rydyn ni’n obeithiol am y flwyddyn nesaf,” ychwanegodd Jonathan. “Y brif broblem yw cadw’r chwaraewyr yn cymryd rhan ac eisiau chwarae. Os gallwn ni deimlo bod tymor iawn arall rownd y gornel, fe fydd pobl eisiau chwarae criced.”

Newyddion Diweddaraf

Y clybiau chwaraeon yng Nghymru sy’n dod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar

Mae llawer o bethau y gall clybiau chwaraeon eu gwneud i fod yn fwy amgylcheddol gyfeillgar.

Darllen Mwy

Sut mae pêl fasged cadair olwyn yn dod â'r gorau allan yn Phil Pratt

Bydd Phil Pratt yn y Gemau Paralympaidd, ond fe allai fod wedi bod yn chwarae yn Wimbledon yn lle hynny.

Darllen Mwy

80 o glybiau chwaraeon cymunedol yn cael cefnogaeth gan y Grant Arbed Ynni

Bydd pob clwb neu brosiect yn defnyddio eu grant i wneud gwelliannau ecogyfeillgar i'w heiddo.

Darllen Mwy